2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru ar 15 Rhagfyr 2021.
5. Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella lles anifeiliaid? OQ57364
Diolch. Mae'r cynllun lles anifeiliaid a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn nodi gwelliannau i les anifeiliaid yng Nghymru. Mae'n canolbwyntio ar safonau uchel, mabwysiadu a rhannu arferion gorau, ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol, datblygu systemau effeithiol, cefnogol a chynaliadwy ar gyfer gorfodi, a thrwy'r modd deinamig y mae'n mynd ati i hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol.
Diolch, Weinidog. Ddechrau mis Tachwedd, datganwyd bod Cymru gyfan yn barth atal ffliw adar, sy'n golygu ei bod yn ofyniad cyfreithiol i geidwaid adar caeth ddilyn mesurau bioddiogelwch llym i ddiogelu eu hadar. Mae hyn yn berthnasol i bawb, hyd yn oed os mai dim ond un aderyn rydych chi'n berchen arno, ac mae hwn yn gyfnod pryderus i geidwaid adar. Weinidog, beth yw'r ffordd orau y gall pobl Cymru ddiogelu eu hadar rhag y clefyd hwn, a sut y bydd Llywodraeth Cymru yn asesu maint y broblem wrth inni symud tuag at 2022?
Diolch yn fawr iawn. Gallaf glywed ci yn ymuno yn y cwestiynau llafar sy'n cael eu hateb heddiw. Rydych chi'n llygad eich lle; rydym wedi cael nifer sylweddol o achosion o ffliw adar ledled Prydain. Soniais mewn ateb cynharach ein bod bellach yn gwybod am 52 o ddigwyddiadau; mae gennym dri yng Nghymru. Gwnaethom gyflwyno mesurau gorfodol i gadw adar dan do ddiwedd y mis diwethaf. Rydym yn asesu'r effaith yn gyson. Gwn fod y prif swyddogion milfeddygol ledled y DU yn cyfarfod—credaf eu bod yn cyfarfod bob nos ar hyn o bryd. Mae'n cael effaith sylweddol ar gapasiti milfeddygol. Felly, byddwn yn annog pawb yng Nghymru sy'n cadw adar i gofrestru. Ar hyn o bryd, nid oes raid i chi gofrestru heblaw bod gennych nifer penodol o adar, ond rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn; hyd yn oed os mai dim ond un sydd gennych, cofrestrwch os gwelwch yn dda, oherwydd fe gewch sicrwydd wedyn eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf wrth i ni ei chael. Fe ddigwyddodd yn gynnar iawn y gaeaf hwn. Rydym yn gweld ffliw adar y rhan fwyaf o aeafau yn anffodus. Yn aml, caiff ei gario yma gan adar gwyllt, ond yn anffodus, fe ddechreuodd yn llawer cynt ac mae'n broblem fawr iawn ar hyn o bryd. Rwyf newydd gyflwyno'r hyn a alwn yn 'ganolfan reoli argyfwng fach' ym Mharc Cathays. Un rithwir yn unig yw hi ar hyn o bryd i gynorthwyo swyddfa'r prif swyddog milfeddygol oherwydd, yn amlwg, mae'n cael effaith enfawr ar ein hadnoddau gweithlu yma yng Nghymru.
Weinidog, rwyf wedi codi hyn gyda chi nifer o weithiau yn awr—yn sicr, yn ystod y pumed tymor—ond rwy'n dal i bryderu fwyfwy am nifer y fideos a'r lluniau sy'n cael eu gosod ar Facebook a safleoedd cyfryngau cymdeithasol eraill gydag iaith farchnata fel 'un ci bach ar ôl'. Yn wir, rwyf ar Facebook yn awr yn darllen, 'A all rhywun fy helpu i ddod o hyd i gartref ar gyfer y ci bach bach hwn? O, hyfryd, faint mae'n gostio? Dim cost'. 'Pam eu bod yn cael gwared arno?', ac maent yn dweud, 'O, ymrwymiadau gwaith'. Felly, mae fy mhryderon wedi'u hadlewyrchu mewn adroddiad diweddar gan Blue Cross, a ganfu fod nifer fawr o gŵn bach ar gael i'w prynu ar-lein o hyd, gyda dros 400 o hysbysebion yn cael eu gosod bob dydd, ac mae'r dull gorllewin gwyllt hwn, i mi, yn tanseilio'r rheoliadau rydych wedi ceisio eu cyflwyno ar werthu cŵn a chathod bach gan drydydd parti. Fel y mae fy nghyd-Aelod, Sam Kurtz, wedi'i grybwyll, canfu ymchwiliad BBC Wales ei fod yn helpu i greu—
Janet, mae angen i chi ofyn eich cwestiwn yn awr.
—masnach greulon mewn cŵn ffasiynol eu hedrychiad. Pa gamau y gallwch ymrwymo i'w cymryd, gan weithio gyda'ch cymheiriaid yn Llywodraeth y DU, i sicrhau bod rhwydweithiau cyfryngau cymdeithasol yn chwarae eu rhan yn gorfodi gwerthiannau cyfreithlon ac nad yw hwn yn llwybr at weld cŵn bach yn cael eu hailgartrefu mewn modd amhriodol?
Credaf fod Janet Finch-Saunders yn codi pwynt pwysig iawn, ac rydym wedi gweld cynnydd yn y nifer o bobl sy'n berchen ar anifeiliaid anwes, yn enwedig cŵn, dros y pandemig COVID-19, sydd, yn fy marn i, wedi ysgogi'r cynnydd a welwn ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae'n anodd iawn, onid yw, pan nad yw'r cyfryngau cymdeithasol yn cael eu rheoleiddio yn yr un ffordd â rhannau eraill o'r sector. Ar fater tocio clustiau cŵn, y cyfeiriais ato o'r blaen, unwaith eto gwelwn gynnydd ar y cyfryngau cymdeithasol mewn perthynas â hynny. Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn parhau i weithio gyda safonau masnach oherwydd, yn amlwg, maent yn gweithio ar y cyd yn rhanbarthol ac yn genedlaethol fel y gallant rannu gwybodaeth, er enghraifft, i weld ble mae hyn yn digwydd, a gallant weithio'n agosach o lawer, rwy'n credu, awdurdodau lleol, ledled y DU, i osgoi hyn. Ond rwy'n ofni ei bod yn broblem enfawr. Ond rwy'n credu bod gan brynwyr gyfrifoldeb hefyd. A hyd yn oed os ydych chi'n achub ci bach neu os ydych chi'n cael un heb unrhyw gost, rwy'n dal i feddwl, fel unigolyn, fod gennych chi gyfrifoldeb i sicrhau eich bod yn cael eich ci bach, ci, cath neu gath fach o le priodol.