Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 15 Rhagfyr 2021.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, yn debyg i Hefin David, rwyf wedi dwyn yr achos hwn i'ch sylw o'r blaen, achos y teulu Jenkins, Model Farm yn y Rhws. Mae'r fferm bîff a chnydau âr hon wedi arallgyfeirio i dyfu blodau gwyllt a gwerthu'r hadau, ac mae hefyd wedi arwain at gynnydd mewn gwenyn, pryfed peillio a phryfed eraill yn eu caeau. Bydd hyn i gyd yn cael ei ddinistrio os yw'r landlordiaid, Legal and General, yn eu troi oddi ar y tir i adeiladu ystâd ddiwydiannol. Roeddwn yn falch iawn o glywed yn eich ymateb i fy nghyd-Aelod, Llyr Huws Gruffydd, eich bod wedi cyfarfod â Chymdeithas y Ffermwyr Tenant yn ddiweddar. Pa gymorth y gallwch ei roi i ffermwyr tenant, fel y teulu Jenkins, i'w helpu i barhau i arallgyfeirio? Diolch yn fawr.