Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 15 Rhagfyr 2021.
Diolch. Mae'r cynllun lles anifeiliaid a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn nodi gwelliannau i les anifeiliaid yng Nghymru. Mae'n canolbwyntio ar safonau uchel, mabwysiadu a rhannu arferion gorau, ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol, datblygu systemau effeithiol, cefnogol a chynaliadwy ar gyfer gorfodi, a thrwy'r modd deinamig y mae'n mynd ati i hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol.