Part of the debate – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 15 Rhagfyr 2021.
Cafodd Geiriadur Prifysgol Cymru ei sefydlu gan Brifysgol Cymru union 100 mlynedd yn ôl. Mae ynddo bron i 90,000 o gofnodion ac mae'n cynnwys tua 9 miliwn o eiriau—rhai bellach allan o ddefnydd bob dydd, rhai yn newydd eu defnydd.
Mae'r Gymraeg, fel pob iaith, yn esblygu'n barhaus, a'r geiriadur sy'n ei chofnodi yn esblygu hefyd. Mae'r gwaith yma'n cael ei wneud gan dîm bach o weithwyr arbenigol yn Aberystwyth, sy'n ymchwilio i ddefnydd cynharaf unrhyw air, ei ystyr a'r ddealltwriaeth amrywiol ohono mewn tafodieithau gwahanol. Fyddai'r gwaith yma ddim yn bosibl oni bai am gefnogaeth Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Yn 2002, cwblhawyd a chyhoeddwyd pedair cyfrol gyfan y geiriadur, a 'Zwinglîaidd' oedd y gair olaf bryd hynny. Yna, mi oedd angen cychwyn ar y gwaith o'r newydd, o ddiweddaru yn barhaus. Wrth gwrs, erbyn hyn, mae'r geiriadur cyfan ar gael ar y we i bawb am ddim, ac ers 2006, ar ap Geiriadur Prifysgol Cymru hefyd. O bosibl, dyma'r unig eiriadur hanesyddol llawn sydd ar gael am ddim fel hyn.
Wn i ddim beth yw'r gair hynaf yn yr iaith Gymraeg, ond liciwn i fentro taw gair ieuengaf y Gymraeg yw 'hwblyn', sef gair newydd am 'booster' a gafodd ei fathu ar Twitter yn yr wythnosau diwethaf yma gan Dr Eilir Hughes—gair a fydd yn ymddangos yn y geiriadur ar ryw bwynt yn y dyfodol agos, mae'n siŵr.
Diolch i'r rhai a gafodd y weledigaeth i gychwyn y geiriadur 100 mlynedd yn ôl a'r rhai sy'n ei gynnal heddiw. Mae pob iaith yn y byd angen ei geiriadur.