Part of the debate – Senedd Cymru am 3:29 pm ar 15 Rhagfyr 2021.
Gadewch imi gydnabod i gychwyn nad yw pob memorandwm, neu LCM, yr un peth. Bydd rhai yn ymwneud â meysydd lle gallai fod rhesymau digonol a phriodol, yn wir, dros ganiatáu i Lywodraeth y DU ddeddfu mewn meysydd datganoledig. Gydag eraill, rydym yn cydnabod bod Llywodraeth bresennol y DU yn ceisio deddfu ac wedi bod yn ceisio deddfu mewn meysydd datganoledig yn groes i ddymuniadau Llywodraeth Cymru, ac yn wir, yn groes i ddymuniadau'r Senedd hon. Fodd bynnag, mae memoranda eraill—trydydd categori—yn adlewyrchu dull Llywodraeth Cymru o ganiatáu a gofyn, weithiau, i Lywodraeth y DU gyflwyno deddfwriaeth ar ei rhan. A’r memoranda hyn sydd wedi peri'r pryder mwyaf i’r pwyllgor.
Nawr, ar brydiau, rydym wedi teimlo bod angen beirniadu dull Llywodraeth Cymru o weithredu a gwneud hynny'n eithaf cryf a llym, ac nid yw gwneud hynny'n rhoi unrhyw foddhad o gwbl i ni. Byddai'n well o lawer gennym gyfrannu at wella deddfwriaeth yn gyson yn y lle hwn—yn y Senedd—a chyflawni'r canlyniadau gorau posibl i gymunedau ledled Cymru. Ond yn lle hynny, rydym mewn sefyllfa, yn enwedig yn y chweched Senedd hon, lle rydym yn treulio cryn dipyn o amser yn adrodd ar ddeddfwriaeth sy'n cael ei gwneud mewn man arall, yn San Steffan, nad oes gennym unrhyw allu go iawn i ddylanwadu arni na'i llunio. Mae'n annifyr, ac yn anghyfforddus weithiau.
Nawr, ein rôl fel pwyllgor yw adrodd ar faterion cyfansoddiadol sy'n berthnasol i'r memorandwm dan sylw, ac wrth wneud hynny, rydym yn tynnu sylw'r Senedd at faterion perthnasol fel y gall yr Aelodau eu hystyried wrth bleidleisio ar gynnig cydsyniad. Rydym yn ceisio sicrhau y cedwir uniondeb datganoli. Mae hon yn rôl hanfodol, ac mae'n un rydym o ddifrif yn ei chylch, yn anad dim, fel y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i nodi mewn gwirionedd—cyn-Gadeirydd y pwyllgor rwy'n ei gadeirio bellach—am nad oes ail Siambr i adolygu yma yn y Senedd. Ein pwyllgor sy'n cyflawni'r rôl honno, i bob pwrpas.
Nawr, byddwn bob amser yn anelu at fod yn adeiladol wrth adrodd fel pwyllgor, ond—a bydd Gweinidogion yn deall y safbwynt hwn—mae'n rhaid inni godi ein llais yn uchel ac yn glir pan fydd cwestiynau pwysig i'w gofyn, os credwn fod Llywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU yn gwneud penderfyniadau a allai niweidio neu danseilio datganoli. Ac wrth wneud y sylwadau hyn, dylwn ychwanegu mai ar adegau prin yn unig y bydd y pwyllgor yn argymell rhoi neu wrthod cydsyniad ar gyfer Bil y DU. Yn y pen draw, mae'n rhaid i hynny fod yn fater i'r Senedd gyfan.
Ond fel y nodais, mae ein rhaglen waith ers mis Gorffennaf yn llawn o waith craffu ar femoranda cydsyniad deddfwriaethol. Ddydd Gwener diwethaf, fe wnaethom osod ein hail adroddiad ar bymtheg ar femoranda cydsyniad deddfwriaethol ers sefydlu ein pwyllgor—17. Mae'r 17 o adroddiadau wedi ymdrin â 14 memorandwm ac wyth memorandwm atodol. Mae memoranda newydd wedi'u gosod yn ystod yr wythnos neu ddwy ddiwethaf, ac mae addewid o fwy eto i ddod; rydym yn brysur. Mae 17 o adroddiadau yn cynrychioli oddeutu hanner nifer yr adroddiadau a gyhoeddwyd gan y pwyllgor blaenorol drwy gydol y pumed Senedd. Mae hyn yn eithaf syfrdanol pan gofiwch fod llawer o adroddiadau'r pumed Senedd yn trafod Biliau'r DU a oedd yn ymwneud â Brexit.
Nawr, nid nifer yr adroddiadau rydym yn eu cyhoeddi yw'r stori lawn wrth gwrs, fel y mae'r erthygl ragorol a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Wasanaeth Ymchwil y Senedd yn ei nodi. Hyd yn hyn, yn y chweched Senedd, hyd heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod y memoranda hynny ar gyfer 17 o Filiau'r DU, gan gwmpasu 360 o gymalau ac atodlenni. Ac mae hynny'n cyferbynnu'n amlwg â'r bumed Senedd: rhwng mis Mai 2016 a mis Mai 2017, gosododd Llywodraeth Cymru femoranda cydsynio ar gyfer 10 Bil, gan gwmpasu oddeutu 80 o gymalau ac atodlenni yn unig.
Nawr, yn amlwg, mae hwn yn gynnydd sylweddol eisoes eleni yn y ddeddfwriaeth mewn meysydd datganoledig a wneir yn San Steffan yn hytrach na'r Senedd. Nid ydym wedi ceisio cuddio ein pryder ynglŷn ag i ba raddau y mae Llywodraeth y DU bellach yn deddfu mewn meysydd datganoledig, ac nid yw'n syndod—a chan gyfeirio at y sylwadau a wnaed yn gynharach gan yr unigolyn sy'n cyflwyno hyn, gan Rhys—mae'n fater y down yn ôl ato yn y flwyddyn newydd.
Ond wrth gloi, fel Cadeirydd y pwyllgor mae un gwelliant y byddwn yn ei argymell y dylai Llywodraeth Cymru ei wneud o ran ei dull o weithredu, sef cyflwyno memoranda o ansawdd uchel yn gyson. Mae angen iddynt fynegi pam fod memorandwm yn cael ei gyflwyno: a yw'n cael ei osod am fod Llywodraeth Cymru wedi gofyn am ddarpariaethau; a yw o ganlyniad i gydweithredu; neu a yw deddfwriaeth yn cael ei gorfodi ar Gymru, yn erbyn ei hewyllys, gan Lywodraeth y DU, neu yn erbyn dymuniadau Llywodraeth Cymru? Mae angen esbonio'r sail resymegol dros y dull yn llawn, gan gyfeirio nid yn unig at y darpariaethau y ceisir cydsyniad ar eu cyfer, ond hefyd at faterion cymhwysedd deddfwriaethol a chynnydd yr holl gysylltiadau rhynglywodraethol perthnasol. Yn rhy aml, mae manylion pwysig wedi'u cynnwys mewn gohebiaeth pan ddylent ffurfio rhan annatod o'r achos dros geisio cydsyniad mewn memorandwm.