6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Y broses cydsyniad deddfwriaethol

– Senedd Cymru am 3:18 pm ar 15 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 3:18, 15 Rhagfyr 2021

Eitem 6 heddiw yw dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21 ar y broses cydsyniad deddfwriaethol. Galwaf ar Rhys ab Owen i wneud y cynnig.

Photo of David Rees David Rees Labour

(Cyfieithwyd)

Mae Rhys ab Owen wedi diflannu. Maddeuwch i ni am eiliad, bawb, os gwelwch yn dda. Rydym yn aros i'r Aelod ddychwelyd. Dyna fe. Rhys, drosodd atoch chi i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7843 Rhys ab Owen, Alun Davies, Jane Dodds, Heledd Fychan

Cefnogwyd gan Luke Fletcher

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi'r cynnydd yn nifer y cynigion cydsyniad deddfwriaethol sy'n cael eu cyflwyno i'r Senedd.

2. Yn cydnabod bod hyn o ganlyniad i Weinidogion Cymru yn ceisio defnyddio deddfwriaeth Senedd y DU i roi deddfwriaeth Llywodraeth Cymru mewn grym a Llywodraeth y DU yn ceisio diystyru ein democratiaeth, erydu'r setliad datganoli a lleihau pwerau'r Senedd.

3. Yn credu y dylai'r Senedd roi holl ddeddfwriaeth sylfaenol sylweddol ac arwyddocaol mewn grym yn hytrach na gwneud hynny drwy'r broses cynigion cydsyniad deddfwriaethol.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) weithio gyda Phwyllgor Busnes y Senedd i adolygu'r broses ar gyfer cynigion cydsyniad deddfwriaethol er mwyn sicrhau ei bod yn addas i'r diben;

b) egluro egwyddorion pryd y defnyddir cynigion cydsyniad deddfwriaethol;

c) gweithio gyda'r Llywydd i ofyn am adolygiad brys o'r effaith ar y setliad datganoli a phwerau'r Senedd o ganlyniad i ddeddfwriaeth y DU.  

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 3:19, 15 Rhagfyr 2021

Diolch yn fawr ichi, Dirprwy Lywydd, a sori am beidio â bod yma ar amser. Dwi’n ddiolchgar iawn am y cyfle i gael y ddadl bwysig hon. Mae’r ddwy flynedd diwethaf wedi gweld cynnydd enfawr yn y nifer o gynigion cydsyniad deddfwriaethol a gyflwynwyd yn y Siambr hon. Llynedd oedd yr uchaf, gydag 18, ac eleni yr ail uchaf, gydag 16. Mae hyn yn adlewyrchiad o ddirmyg Llywodraeth Dorïaidd sy’n ceisio tanseilio y setliad datganoli. Yn y bôn, dim ond rhywbeth for show yw’r LCMs hyn. Rhywbeth sy’n perthyn i’r gorffennol bellach yw confensiwn Sewel. Bydd Llywodraeth San Steffan yn parhau i anwybyddu’r Senedd hon a bwrw ymlaen â'i hagenda ei hunan beth bynnag fo canlyniad pleidleisiau LCMs yn y Senedd hon. Mae hyn yn dangos mor ddi-lais a di-bwys yw'r Senedd hon, Senedd ein gwlad ni, yn San Steffan.

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 3:20, 15 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Dylai'r cynnydd yn nifer y cynigion cydsyniad deddfwriaethol fod yn destun cryn bryder i gefnogwyr democratiaeth yma yng Nghymru. Maent yn fygythiad gwirioneddol i'r sefydliad hwn, ac eto maent yn pasio drwy'r Siambr hon fel dim mwy na throednodyn. Nid yw hyd yn oed y sylwebyddion gwleidyddol mwyaf selog yn sylwi arnynt, ond maent yn geffyl pren Troea sy'n erydu sylfaen y system wleidyddol yma yng Nghymru yn araf, yn llechwraidd ac yn raddol. Mae angen inni fod yn effro i'r bygythiad neu byddwn yn gweld Senedd wannach o lawer erbyn yr etholiad nesaf. Ni waeth beth y mae'r pwyllgor ar ddiwygio'r Senedd yn ei wneud, gallem weld Senedd wannach o lawer yma erbyn yr etholiad nesaf.

Dylem weithio gyda'n gilydd yn y Senedd a chyda'r ddau dŷ yn San Steffan i egluro'r egwyddorion pan ddefnyddir cynigion cydsyniad deddfwriaethol. Ydw, rwy’n cyfaddef y gallaf weld bod lle i gynigion cydsyniad deddfwriaethol, ond ar gyrion ein setliad datganoli yn unig y dylid eu defnyddio. Fodd bynnag, dro ar ôl tro, rydym yn gweld cynigion cydsyniad deddfwriaethol yn effeithio ar hanfod y setliad datganoli yma yng Nghymru. Gadewch inni ddweud yn glir: dylai deddfau sy'n effeithio ar Gymru ac sydd o fewn cymhwysedd y Senedd gael eu llunio yma yng Nghymru, yn y lle hwn. Ni yw Senedd Cymru, ni yw'r ddeddfwrfa genedlaethol, nid rhyw gragen symbolaidd sy'n plygu yn ôl chwiw pwy bynnag sydd yn y Llywodraeth yn San Steffan. Mae hyn yn arbennig o drist, onid yw, ar hyn o bryd, wrth inni weld pa mor galongaled y bu Llywodraeth Dorïaidd bresennol y DU dros yr wythnosau diwethaf—Llywodraeth gywilyddus sy'n dymuno cael y pwerau i ddirymu dinasyddiaeth dinasyddion Prydeinig, gan eu gwneud yn ddiwladwriaeth heb roi unrhyw reswm, Llywodraeth sydd am garcharu pobl am brotestio, Llywodraeth sydd am ddifreinio rhannau helaeth o'r boblogaeth drwy eu Bil Etholiadau.

Mae'r Llywodraeth Dorïaidd hon yn elyniaethus i ddatganoli—mae hynny'n ffaith. Mae Prif Weinidog y DU ei hun wedi dweud bod datganoli'n gamgymeriad, ac amlygir hyn nid yn unig drwy ei eiriau ond drwy ei weithredoedd. Dro ar ôl tro, rydym wedi gweld cysylltiadau rhynglywodraethol yn chwalu. Mae Prif Weinidog Cymru ei hun wedi disgrifio Boris Johnson fel 'gwaelod y gasgen'. Pam, felly—pam ar y ddaear—y byddem yn rhoi’r pŵer i Lywodraeth y DU erydu, tanseilio a datgymalu’r Senedd hon fesul darn? Mae angen inni fod yn onest â ni'n hunain. Mae'r broses ddatganoli yng Nghymru wedi dod i stop yn sydyn ac rydym bellach yn mynd tuag yn ôl.

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 3:23, 15 Rhagfyr 2021

Mae angen dull mwy systematig o nodi pryd a lle mae'r Senedd hon yn rhoi cydsyniad i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar ddeddfwriaeth sylfaenol. Mae angen adolygiad brys arnom i ddeall yn union pa fath o effaith y bydd yr LCMs hyn yn ei gael ar y setliad datganoli nawr ac yn y dyfodol. Cawsom ni oll ein hethol i'r lle hwn gan bobl Cymru; rŷn ni'n atebol iddynt hwy. Nid ydw i am i Filiau a chyfreithiau sydd o fewn cymhwysedd y Senedd hon gael eu pasio gan Weinidogion Torïaidd yn Llundain—Gweinidogion sy'n poeni dim am bobl Cymru. Llywodraeth San Steffan a wrthododd ymestyn ffyrlo i weithwyr Cymru yn ystod y firebreak llynedd, Llywodraeth San Steffan sy'n sicrhau nad yw Cymru yn cael ceiniog o arian HS2, a Llywodraeth San Steffan wnaeth sicrhau Brexit ideolegol sydd wedi gadael Cymru yn wlad dlotach.

Rŷn ni hefyd yn byw mewn cenedl ddwyieithog lle mae'r Gymraeg a'r Saesneg yn cyd-fyw ac yn ieithoedd ffyniannus, ac mae'r Senedd hon yn adlewyrchu hynny'n dda iawn. Ar lefel bersonol, Ddirprwy Lywydd, gallaf ddweud fy mod wedi siarad Cymraeg llawer mwy yn broffesiynol yn ystod fy saith mis yn y Senedd hon nag ydyw i wedi yn y 12 mlynedd cyn nawr. O'r dechrau, mae deddfwriaeth yn y Senedd hon wedi bod yn ddwyieithog, gyda chydraddoldeb clir rhwng y ddwy iaith. Yn amlwg, dyw hynny ddim yn wir am San Steffan. Fe wnaeth arweinydd y tŷ hyd yn oed alw'r Gymraeg yn iaith dramor. Mae mwy o barch i iaith farw fel Lladin yno nag sydd i iaith fyw fel y Gymraeg.

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 3:25, 15 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Dywedodd yr Arglwydd Thomas, y cyn-Arglwydd Brif Ustus, mewn sesiwn dystiolaeth ddiweddar i'r pwyllgor deddfwriaeth, fod y setliad datganoli yng Nghymru yn gymhleth—yn gymhleth hyd yn oed i gyfreithwyr—a bod y defnydd o gynigion cydsyniad deddfwriaethol yn cymhlethu materion ymhellach fyth. Ni fydd yn gwneud unrhyw synnwyr i'r mwyafrif helaeth o bobl fod deddf mewn maes datganoledig, mater sydd wedi'i ddatganoli ers dros 20 mlynedd, yn cael ei phasio gan San Steffan. Mae Llywodraeth Cymru yn ychwanegu at y cymhlethdod. Maent yn mynd yn groes i'w dyletswydd eu hunain o dan Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 drwy gydsynio—ond nid yn unig cydsynio; ar brydiau, drwy annog—Llywodraeth San Steffan i gyflwyno deddfwriaeth mewn meysydd datganoledig. Dychmygwch gyfreithiwr, heb sôn am leygwr, yn chwilio am ddeddf sy'n ymwneud â'r amgylchedd yng Nghymru. Byddai'r unigolyn hwnnw'n iawn i gredu y byddai unrhyw ddeddf ddiweddar mewn maes datganoledig wedi'i chyflwyno yma gan y Senedd, ond nid yw hynny'n wir. Mae'r setliad datganoli yng Nghymru yn ddigon cymhleth heb i Lywodraeth Cymru ychwanegu at y dryswch hwnnw.

Ni fydd Biliau cynigion cydsyniad deddfwriaethol yn ddwyieithog. Ni allant ffurfio rhan o gynlluniau codeiddio Llywodraeth Cymru, ac ni fydd y Senedd yn craffu'n briodol arnynt. Gwelsom hynny ddoe ddiwethaf yn ymateb y ddau bwyllgor i’r Bil diwygio cyfraith lesddaliad. Cwynodd y ddau bwyllgor ynglŷn â diffyg amser ar gyfer craffu. Bydd y cynigion cydsyniad deddfwriaethol hefyd yn rhwystro Seneddau’r dyfodol rhag cyflwyno deddfwriaeth yn y meysydd hyn. Aelodau, a ydym o ddifrif yn barod i drosglwyddo pwerau yn ôl i Lywodraeth Dorïaidd yn San Steffan sy'n mynd o un sgandal i'r nesaf, o un enghraifft o gamreoli i'r nesaf?

Pleidleisiodd pobl Cymru ddwywaith o blaid y Senedd hon, ac etholwyd mwyafrif sylweddol o blaid datganoli i'r lle hwn ym mis Mai. Mae'n rhaid inni beidio â thanseilio'r mandad democrataidd clir hwn drwy drosglwyddo ein pwerau i Weinidogion Torïaidd heb unrhyw graffu go iawn yma o gwbl. Dylem fod yn craffu'n briodol, fel Aelodau, ar ddeddfau Cymru. Dyna yw ein gwaith. Rwyf am weld Senedd sy'n gryf ac yn ddemocrataidd, Senedd sydd wedi'i grymuso ac sy'n defnyddio ei phwerau i'r graddau llawn er mwyn sicrhau newid cadarnhaol i fywydau pobl Cymru.

Ni all Llywodraeth Cymru daflu'r baich ar Weinidogion Torïaidd yn Llundain bob amser. Mae angen inni sicrhau adolygiad brys i broses y cynigion cydsyniad deddfwriaethol, lle rydym yn gofyn i'n hunain a ydynt yn berthnasol hyd yn oed, a ddylent fodoli o gwbl, lle rydym yn dadansoddi'n fforensig yr effaith a gânt ar y broses ddeddfwriaethol yng Nghymru, a sicrhau y gall yr Aelodau yn y lle hwn graffu ar ddeddfwriaeth yn effeithiol. Aelodau, mae'n rhaid inni amddiffyn ein Senedd, amddiffyn ei phwerau ac er mwyn Cymru—Senedd sy'n darparu deddfwriaeth radical, ystyrlon sy'n destun craffu. Nid yw hynny'n digwydd gyda phroses y cynigion cydsyniad deddfwriaethol. Nid fel hynny y mae cyfraith dda yn cael ei drafftio a'i deddfu. Ein rôl a'n dyletswydd, fel Aelodau o'r Senedd, yw craffu ar y gyfraith a sicrhau bod gan bobl Cymru y cyfreithiau y maent yn eu haeddu wedi'u pasio gan eu Senedd. Diolch yn fawr.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 3:29, 15 Rhagfyr 2021

Rwy'n siarad heddiw fel Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Rwy'n cyfrannu yn y ddadl hon oherwydd cyfrifoldebau fy mhwyllgor wrth gyflwyno adroddiadau ar femoranda cydsyniad deddfwriaethol sydd wedi cael eu cyfeirio atom ni gan y Pwyllgor Busnes.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Gadewch imi gydnabod i gychwyn nad yw pob memorandwm, neu LCM, yr un peth. Bydd rhai yn ymwneud â meysydd lle gallai fod rhesymau digonol a phriodol, yn wir, dros ganiatáu i Lywodraeth y DU ddeddfu mewn meysydd datganoledig. Gydag eraill, rydym yn cydnabod bod Llywodraeth bresennol y DU yn ceisio deddfu ac wedi bod yn ceisio deddfu mewn meysydd datganoledig yn groes i ddymuniadau Llywodraeth Cymru, ac yn wir, yn groes i ddymuniadau'r Senedd hon. Fodd bynnag, mae memoranda eraill—trydydd categori—yn adlewyrchu dull Llywodraeth Cymru o ganiatáu a gofyn, weithiau, i Lywodraeth y DU gyflwyno deddfwriaeth ar ei rhan. A’r memoranda hyn sydd wedi peri'r pryder mwyaf i’r pwyllgor.

Nawr, ar brydiau, rydym wedi teimlo bod angen beirniadu dull Llywodraeth Cymru o weithredu a gwneud hynny'n eithaf cryf a llym, ac nid yw gwneud hynny'n rhoi unrhyw foddhad o gwbl i ni. Byddai'n well o lawer gennym gyfrannu at wella deddfwriaeth yn gyson yn y lle hwn—yn y Senedd—a chyflawni'r canlyniadau gorau posibl i gymunedau ledled Cymru. Ond yn lle hynny, rydym mewn sefyllfa, yn enwedig yn y chweched Senedd hon, lle rydym yn treulio cryn dipyn o amser yn adrodd ar ddeddfwriaeth sy'n cael ei gwneud mewn man arall, yn San Steffan, nad oes gennym unrhyw allu go iawn i ddylanwadu arni na'i llunio. Mae'n annifyr, ac yn anghyfforddus weithiau.

Nawr, ein rôl fel pwyllgor yw adrodd ar faterion cyfansoddiadol sy'n berthnasol i'r memorandwm dan sylw, ac wrth wneud hynny, rydym yn tynnu sylw'r Senedd at faterion perthnasol fel y gall yr Aelodau eu hystyried wrth bleidleisio ar gynnig cydsyniad. Rydym yn ceisio sicrhau y cedwir uniondeb datganoli. Mae hon yn rôl hanfodol, ac mae'n un rydym o ddifrif yn ei chylch, yn anad dim, fel y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i nodi mewn gwirionedd—cyn-Gadeirydd y pwyllgor rwy'n ei gadeirio bellach—am nad oes ail Siambr i adolygu yma yn y Senedd. Ein pwyllgor sy'n cyflawni'r rôl honno, i bob pwrpas.

Nawr, byddwn bob amser yn anelu at fod yn adeiladol wrth adrodd fel pwyllgor, ond—a bydd Gweinidogion yn deall y safbwynt hwn—mae'n rhaid inni godi ein llais yn uchel ac yn glir pan fydd cwestiynau pwysig i'w gofyn, os credwn fod Llywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU yn gwneud penderfyniadau a allai niweidio neu danseilio datganoli. Ac wrth wneud y sylwadau hyn, dylwn ychwanegu mai ar adegau prin yn unig y bydd y pwyllgor yn argymell rhoi neu wrthod cydsyniad ar gyfer Bil y DU. Yn y pen draw, mae'n rhaid i hynny fod yn fater i'r Senedd gyfan.

Ond fel y nodais, mae ein rhaglen waith ers mis Gorffennaf yn llawn o waith craffu ar femoranda cydsyniad deddfwriaethol. Ddydd Gwener diwethaf, fe wnaethom osod ein hail adroddiad ar bymtheg ar femoranda cydsyniad deddfwriaethol ers sefydlu ein pwyllgor—17. Mae'r 17 o adroddiadau wedi ymdrin â 14 memorandwm ac wyth memorandwm atodol. Mae memoranda newydd wedi'u gosod yn ystod yr wythnos neu ddwy ddiwethaf, ac mae addewid o fwy eto i ddod; rydym yn brysur. Mae 17 o adroddiadau yn cynrychioli oddeutu hanner nifer yr adroddiadau a gyhoeddwyd gan y pwyllgor blaenorol drwy gydol y pumed Senedd. Mae hyn yn eithaf syfrdanol pan gofiwch fod llawer o adroddiadau'r pumed Senedd yn trafod Biliau'r DU a oedd yn ymwneud â Brexit.

Nawr, nid nifer yr adroddiadau rydym yn eu cyhoeddi yw'r stori lawn wrth gwrs, fel y mae'r erthygl ragorol a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Wasanaeth Ymchwil y Senedd yn ei nodi. Hyd yn hyn, yn y chweched Senedd, hyd heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod y memoranda hynny ar gyfer 17 o Filiau'r DU, gan gwmpasu 360 o gymalau ac atodlenni. Ac mae hynny'n cyferbynnu'n amlwg â'r bumed Senedd: rhwng mis Mai 2016 a mis Mai 2017, gosododd Llywodraeth Cymru femoranda cydsynio ar gyfer 10 Bil, gan gwmpasu oddeutu 80 o gymalau ac atodlenni yn unig.

Nawr, yn amlwg, mae hwn yn gynnydd sylweddol eisoes eleni yn y ddeddfwriaeth mewn meysydd datganoledig a wneir yn San Steffan yn hytrach na'r Senedd. Nid ydym wedi ceisio cuddio ein pryder ynglŷn ag i ba raddau y mae Llywodraeth y DU bellach yn deddfu mewn meysydd datganoledig, ac nid yw'n syndod—a chan gyfeirio at y sylwadau a wnaed yn gynharach gan yr unigolyn sy'n cyflwyno hyn, gan Rhys—mae'n fater y down yn ôl ato yn y flwyddyn newydd.

Ond wrth gloi, fel Cadeirydd y pwyllgor mae un gwelliant y byddwn yn ei argymell y dylai Llywodraeth Cymru ei wneud o ran ei dull o weithredu, sef cyflwyno memoranda o ansawdd uchel yn gyson. Mae angen iddynt fynegi pam fod memorandwm yn cael ei gyflwyno: a yw'n cael ei osod am fod Llywodraeth Cymru wedi gofyn am ddarpariaethau; a yw o ganlyniad i gydweithredu; neu a yw deddfwriaeth yn cael ei gorfodi ar Gymru, yn erbyn ei hewyllys, gan Lywodraeth y DU, neu yn erbyn dymuniadau Llywodraeth Cymru? Mae angen esbonio'r sail resymegol dros y dull yn llawn, gan gyfeirio nid yn unig at y darpariaethau y ceisir cydsyniad ar eu cyfer, ond hefyd at faterion cymhwysedd deddfwriaethol a chynnydd yr holl gysylltiadau rhynglywodraethol perthnasol. Yn rhy aml, mae manylion pwysig wedi'u cynnwys mewn gohebiaeth pan ddylent ffurfio rhan annatod o'r achos dros geisio cydsyniad mewn memorandwm.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 3:34, 15 Rhagfyr 2021

Ac yn olaf, Dirprwy Lywydd, byddwn yn parhau’n gadarn i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ynghylch ei defnydd o femoranda cydsyniad deddfwriaethol, a hynny er mwyn nid yn unig arferion cyfansoddiadol da, ond hefyd, democratiaeth Cymru. Diolch yn fawr iawn. 

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 3:35, 15 Rhagfyr 2021

Dwi'n falch o allu cyfrannu at y ddadl yma fel Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, ac fe fyddwch chi'n ymwybodol, wrth gwrs, Dirprwy Lywydd, bod y pwyllgor wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes nôl ym mis Medi yn amlinellu beth rôn ni'n ystyried oedd yr heriau allweddol o ran y Senedd yn craffu ar gynigion cydsyniad deddfwriaethol, neu LCMs. Fe ofynnon ni i'r Pwyllgor Busnes gynnal adolygiad i'r broses LCM er mwyn sicrhau ei bod hi'n addas at y diben. Nawr, fe ysgogwyd y llythyr gan ein profiad ni o graffu ar yr LCM ar gyfer Bil yr amgylchedd yn ystod rhan gyntaf tymor y Senedd hon. Ond mae'n deg dweud nad oedd yr heriau rôn ni'n eu hwynebu yn unigryw i'r LCM hwnnw, a dydyn nhw ddim, wrth gwrs, yn unigryw i'r Senedd yma. Hynny yw, cyn y bumed Senedd, roedd LCMs, ar y cyfan, yn ymwneud â darpariaethau oedd â ffocws cul; doedden nhw ddim yn ennyn llawer o ddadlau, os o gwbl, a dweud y gwir. Mae'n bosib bod y bumed Senedd wedyn, wrth gwrs, wedi bod yn drobwynt o ran craffu ar LCMs wrth i LCMs yn ymwneud â Biliau mawr a chymhleth oedd yn gysylltiedig â Brexit, a oedd yn gwneud darpariaethau sylweddol i Gymru, gael eu cyflwyno. 

Fe ddaeth yn amlwg yn fuan iawn wedyn, wrth gwrs, nad oedd y broses LCM wedi'i chynllunio er mwyn craffu ar Filiau fel y rhain. Cymerwch y gwaith craffu ar yr LCM ar gyfer Bil yr amgylchedd er enghraifft. Nawr, fel Biliau eraill yn ymwneud â Brexit, roedd Bil yr amgylchedd yn cynnwys darpariaethau sylweddol i Gymru mewn maes polisi datganoledig allweddol, darpariaethau a fyddai wrth gwrs, heb os, yn fwy addas ar gyfer Bil yn y Senedd hon. Pe bai wedi bod yn Fil yn y Senedd hon, byddai'r amserlen ar gyfer craffu wedi ymestyn dros sawl mis. Yn lle hynny, fe gafon ni bedair wythnos, sef dau gyfarfod, er mwyn ystyried ac wedyn cyflwyno adroddiad ar yr LCM. Pe bai e wedi bod yn Fil yn y Senedd hon, byddai Llywodraeth Cymru wedi gorfod darparu gwybodaeth fanwl am eu hamcanion polisi, diben ac effaith arfaethedig y darpariaethau, ac amcangyfrifon cost ymhlith pethau eraill, ond roedd yr LCM, wrth gwrs, yn cynnwys gwybodaeth gyfyngedig am rai agweddau ar y rhain, a dim gwybodaeth o gwbl am agweddau eraill. Pe bai e wedi bod yn Fil yn y Senedd yma, byddai cyfle wedi bod i fynd i'r afael â phryderon y pwyllgor am ddarpariaethau penodol drwy gynnig gwelliannau i'r ddeddfwriaeth. Ond, wrth gwrs, roedd Bil yr amgylchedd eisoes wedi cyrraedd camau olaf y gwaith craffu yn Senedd y Deyrnas Unedig, felly doedd trafod gwelliannau ddim yn opsiwn. 

Dirprwy Lywydd, mae'n debyg bod yr heriau dwi wedi'u hamlinellu yn gyfarwydd erbyn hyn i'r rhan fwyaf o bwyllgorau polisi, os nad pob un ohonyn nhw a dweud y gwir, o ystyried y nifer sylweddol o LCMs sydd wedi cael eu cyflwyno ers dechrau'r chweched Senedd. Rŷn ni mewn sefyllfa lle mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio LCMs yn lle proses graffu ar gyfer Biliau'r Senedd. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn defnyddio Biliau'r Deyrnas Unedig yn gynyddol i ddeddfu mewn meysydd datganoledig heb gytundeb Llywodraeth Cymru. Dyw'r broses sydd wedi ei nodi yn ein Rheolau Sefydlog ni ddim wedi'i chynllunio ar gyfer hyn, ac mae'n rhaid i ni ofyn a yw e'n dal i fod yn addas at y diben. 

Nawr, fel yr amlinellwyd yn fy llythyr i at y Pwyllgor Busnes, nawr yw'r amser i adolygu'r broses LCM. Os yw Llywodraeth Cymru'n bwriadu parhau i ddefnyddio Biliau'r Deyrnas Unedig i ddeddfu dros Gymru ar faterion o bwys, mae'n rhaid i ni fod yn hyderus fod y broses LCM yn hwyluso ac yn cefnogi gwaith craffu ystyrlon gan y Senedd yma, ac, wrth gwrs, ein bod ni'n gallu ymgynghori â'r cyhoedd a rhanddeiliaid o Gymru ar faterion fydd yn effeithio arnyn nhw. 

Dwi'n mawr obeithio, felly, y bydd y ddadl yma heddiw yn golygu y byddwn ni nawr yn gweld cynnydd o ran cael adolygiad, ac y byddwn ni o ganlyniad yn gweld gwelliannau sylweddol a buan i'r broses bresennol. Diolch. 

Photo of Jane Dodds Jane Dodds Liberal Democrat 3:39, 15 Rhagfyr 2021

A gaf i ddiolch hefyd i Rhys, a phobl eraill hefyd, am ddod â'r ddadl bwysig yma ymlaen heddiw?

Photo of Jane Dodds Jane Dodds Liberal Democrat

(Cyfieithwyd)

Fel y clywsom, mae hon yn broses hollbwysig i'r Senedd, ac nid yw mor drylwyr ag y byddem yn ei ddisgwyl. Mae nifer, amserlenni, gwybodaeth a chwmpas y cynigion cydsyniad deddfwriaethol i gyd yn rhoi pwysau ar y broses. Cafwyd nifer bron yn gyfartal o gynigion cydsyniad deddfwriaethol yn y flwyddyn 2020-21 ag y cafwyd yn y pedair blynedd flaenorol. Mae memoranda megis y Bil etholiadau, y Bil iechyd a gofal a diogelwch adeiladau yn crwydro i feysydd sydd wedi'u datganoli i Gymru ers tro. Dylem gofio pa mor bwysig yw hi i'r Senedd ei hun roi deddfwriaeth sylfaenol arwyddocaol mewn grym ar faterion datganoledig. Ac mae yna egwyddor wrth fynnu grym y lle hwn fel y prif gorff deddfu, yn enwedig pan fo'n ymddangos bod y Ceidwadwyr yn San Steffan yn chwilio am unrhyw ffordd o danseilio'r setliad datganoli a'n Senedd.

Hoffwn ategu'r pryderon ynghylch nifer y cynigion cydsyniad deddfwriaethol, eu hamserlenni ac ansawdd y wybodaeth sydd ar gael. Fel Aelod newydd, mae hynny'n fy rhoi ar y droed ôl, fel y mae'n ei wneud i eraill, rwy'n siŵr. Nid yw'r Senedd yn cael digon o gyfle i graffu ar ddarnau arwyddocaol o ddeddfwriaeth, ac nid yw pob Aelod yn gallu ymgysylltu'n gyfartal ychwaith. Dyma reswm arall wrth gwrs pam y dylid cynyddu nifer yr Aelodau o'r Senedd i sicrhau bod y Senedd yn gallu craffu'n briodol ar ddeddfwriaeth. Felly, i grynhoi, rwy'n cefnogi'r pryderon ynghylch y defnydd o gynigion cydsyniad deddfwriaethol a'r effaith ar y setliad datganoli, yn enwedig gyda darnau mor arwyddocaol o ddeddfwriaeth, gan gynnwys sbarduno deddfwriaeth y gellid ei chyflwyno yma drwy broses y cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Ond yn bwysicach na hynny, ni ddylem ddatblygu deddfwriaeth sy'n effeithio ar y setliad datganoli neu ein Senedd. Diolch.

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 3:41, 15 Rhagfyr 2021

Hoffwn ddiolch i Rhys ab Owen am gynnig y ddadl hon heddiw, a chyfle, o'r diwedd, i ni gael trafodaeth iawn ar y broses cynigion cydsyniad deddfwriaethol, neu'r LCMs, nid bod y geiriau 'LCMs' wedi bod yn ddieithr i'r Siambr hon. Fel mae'r siaradwyr eraill wedi sôn, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod cynigion cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer 17 o Filiau'r Deyrnas Unedig o fewn saith mis cyntaf y chweched Senedd, sydd yn fwy nag unrhyw flwyddyn arall, gan eithrio 2020. Ac, os ydym ni'n credu mewn datganoli, a'r syniad y dylai penderfyniadau am Gymru gael eu gwneud yng Nghymru, ac yn credu yn y Senedd hon, dylai hyn fod yn destun pryder i ni, gan ei fod yn cwtogi ar ein pwerau ni, fel Senedd, ac, felly, yn ymosodiad ar ddemocratiaeth. 

Fel yr ydym ni oll yn ymwybodol, mae pwyllgorau, fel rydym wedi ei glywed gan Huw Irranca-Davies a Llyr Gruffydd, wedi codi pryderon niferus ac eang ynghylch hyn oll, gan gynnwys y diffyg cefndir ac esblygiad y ddeddfwriaeth, strwythur aneglur y drafftio, bod y prawf cymhwyso ynglŷn â'r angen am gydsyniad y Senedd yn aneglur, rhesymau aneglur gan Lywodraeth Cymru dros argymell cydsyniad ai peidio, barn Llywodraeth Cymru ar gymalau penodol, y graddau mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio diwygio Biliau'r Deyrnas Unedig, a natur y gwelliannau a geisir, ynghyd ag effaith y Bil ar ddeddfwriaeth neu fframweithiau allweddol eraill sy'n rhyngweithio â hwy. Dengys hyn yn glir, felly, bod amrywiaeth o faterion heb eu datrys o ran y memoranda cydsyniad deddfwriaethol.

Ac eto, er bod y pryderon hyn wedi eu codi, nid yw'r Senedd wedi cael cyfle i graffu'n ystyrlon ar y broses tan heddiw. A hoffwn gymryd y cyfle felly i fynegi yn glir fy mod yn anfodlon iawn â'r ffordd mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â'r broses cynigion cydsyniad deddfwriaethol hyd yma. Wedi'r cyfan, rhaid gofyn pam bod Llywodraeth Cymru yn dewis, dro ar ôl tro, i wneud diwygiadau o fewn Bil yn y Deyrnas Unedig, yn hytrach na chyflwyno ei Bil ei hun. Ydy o oherwydd diffyg amser, diffyg Aelodau neu ddiffyg awydd? Neu a oes rhesymau amgen? A pha effaith mae hyn wedyn yn ei chael ar graffu, gan nad yw Aelodau a rhanddeiliaid yn medru cydweithio a chyfrannu i'r ddeddfwriaeth yn ôl y broses hon? Lle mae llais y Senedd hon a phobl Cymru yn y broses?

Bob tro mae LCM yn cael ei gyflwyno mae'n cryfhau'r gynsail beryglus o roi pwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol, yn lle Gweinidogion Cymru, ac nid dyma pam gwnaeth pobl ar draws y pleidiau ymgyrchu am ehangu pwerau'r Senedd hon. Mae LCMs yn cymhlethu system sy'n barod yn hynod o gymhleth, ac yn ei gwneud hi'n anos i bobl Cymru ddylanwadu ar y broses ddeddfwriaethol, yma yng Nghymru. Hoffwn, felly, annog fy nghyd-Aelodau i bleidleisio o blaid cynnig y ddadl heddiw, a gwneud safiad yn erbyn y bygythiad amlwg i'n democratiaeth. Mae pobl Cymru wedi ymddiried ynom ni i basio Deddfau yn y meysydd sydd wedi eu datganoli ers dros 20 mlynedd, yn hytrach na Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Dylem felly sicrhau ein bod yn cyflawni ar eu rhan, yn hytrach na rhoddi grym yn ôl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig sydd dro ar ôl tro wedi dangos nad ydy hi’n malio dim am fuddiannau pobl Cymru.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 3:45, 15 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Rwyf am gadw fy sylwadau'n fyr yn y ddadl hon, ond nid oes angen dweud y byddaf yn pleidleisio yn erbyn y cynnig ar y papur trefn heddiw. Ac nid oherwydd nad wyf yn credu y dylai datganoli fodoli; ymgyrchais yn frwd dros y pwerau pellach i'r Senedd yn y refferendwm yn ôl yn 2011. Ond ar ôl byw drwy brofiad lle roedd gennym system y gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol ofnadwy, o gwmpas fy nhymor cyntaf yn y Senedd, gallaf ddweud hyn wrthych, Mr ab Owen a phawb arall sydd wedi cyfrannu at y ddadl: y realiti yw bod system y cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn llawer tecach ac yn parchu datganoli lawer yn fwy nag y gwnaeth system y gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol a'i rhagflaenodd erioed.

Nawr, mae'n rhaid inni edrych ar gynigion cydsyniad deddfwriaethol fel offer y gall Llywodraeth Cymru eu defnyddio'n effeithiol i gyflymu'r gwaith o weithredu ei pholisïau. Dyna un o'r rhesymau pam y caiff cynigion cydsyniad deddfwriaethol eu cyflwyno weithiau, ac fel y dywedodd Huw Irranca-Davies yn hollol gywir, gellir eu defnyddio'n gwbl briodol yn y modd hwnnw er mwyn cyflawni amcanion polisi Llywodraeth. Yn ogystal â hynny, wrth gwrs, mae gan Lywodraeth y DU hawl weithiau i ddeddfu ar ran y Deyrnas Unedig gyfan, ac fe wnaeth hynny ar ran pobl Cymru er bod y rhan fwyaf o'r gwleidyddion yn y Senedd ar y pryd eisiau atal Brexit, ac rwy'n credu mai sydd wedi cymylu barn llawer o bobl sy'n cymryd rhan yn y ddadl hon heddiw ar broses y cynnig cydsyniad deddfwriaethol sy'n bodoli. Oherwydd y realiti yw, yn anffodus, oherwydd y safbwyntiau gelyniaethus ac ymdrechion bwriadol llawer o'r pleidiau gwleidyddol a gynrychiolid yn y Senedd flaenorol i atal Brexit, cafwyd mwy o gweryla nag a fyddai wedi bod ynghylch defnyddio cynigion cydsyniad deddfwriaethol er mwyn deddfu.

Ac wrth gwrs, nid yw'n wir, Heledd Fychan, i awgrymu na chreffir yn effeithiol ar y ddeddfwriaeth hon ac nad yw pobl sy'n cynrychioli Cymru yn craffu arni. Mae'n destun craffu. Mae llawer mwy o bobl yn craffu ar unrhyw ddeddfwriaeth sy'n mynd drwy Senedd y DU nag sy'n craffu ar ddeddfwriaeth sy'n mynd drwy'r Senedd. Mae gennym 650 o Aelodau Seneddol, oddeutu 800 aelod o Dŷ'r Arglwyddi, a pheidiwch ag anghofio ychwaith fod yna bobl yn cynrychioli Cymru sy'n cynrychioli pobl yn Senedd y DU yn Nhŷ'r Arglwyddi a Thŷ'r Cyffredin. Felly, mae pobl Cymru yn cael dweud eu barn ar y materion hyn ac mae cyfleoedd wedyn i gael trafodaethau a dadleuon pellach yma yn y Senedd drwy ein prosesau ni.

Nawr, byddwn yn cytuno, rwy'n credu, fel gyda phob proses ddeddfwriaethol, fod pethau y gellid ac y dylid, yn gwbl briodol, eu gwneud i wella prosesau'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol, yn enwedig ynghylch yr amser sydd ar gael i graffu. Ac fel y nododd Huw Irranca-Davies yn gwbl gywir, mae yna adegau hefyd pan ellid gwella'r wybodaeth sy'n dod gyda'r cynigion cydsyniad deddfwriaethol, y memoranda sy'n dod gyda'r cynigion cydsyniad deddfwriaethol. Rwy'n cytuno'n gryf â'r pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn eu hawydd i weld gwelliannau yn hynny o beth, ond camgymeriad yw dweud bod proses y cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn un sy'n sathru ar ddatganoli. Nid yw'n gwneud hynny. Mae'n arf i barchu datganoli. Dyna pam y cafodd ei gynnwys yn Neddf Llywodraeth Cymru, ac mae'n sicr yn well o lawer na'i ragflaenydd. 

Os caf ddweud hyn hefyd, mae'r Senedd yn deddfu ar amrywiaeth o faterion gwahanol. Weithiau, mae mwyafrif y bobl yng ngogledd Cymru ac sy'n cynrychioli seddi yng ngogledd Cymru yn pleidleisio yn erbyn y penderfyniadau a wneir gan wleidyddion o'r de yn bennaf yn y Senedd. Nid wyf yn cwyno'n ormodol am hynny. Nid wyf yn awgrymu ein bod angen proses sy'n parchu'r ffaith y gallai pobl yng ngogledd Cymru anghytuno ac y gallai eu cynrychiolwyr anghytuno. Rwy'n derbyn mai democratiaeth yw hynny. Ac mae'n rhaid inni barchu'r ffaith bod Senedd y DU yn parhau i fod yn sofran yn y DU, ledled y DU gyfan. Ac wrth gwrs mae'n rhaid parchu datganoli, ond mae'n rhaid inni beidio ag anghofio bod Senedd y DU yn parhau i fod yn sofran. Felly, am y rheswm hwn a'r rhesymau eraill rwyf wedi'u nodi, byddaf yn pleidleisio yn erbyn y cynnig hwn ar y papur trefn, a byddwn yn awgrymu y dylai'r Aelodau eraill wneud yr un peth. Diolch. 

Photo of David Rees David Rees Labour 3:50, 15 Rhagfyr 2021

Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, Mick Antoniw. 

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy groesawu'r ddadl? Mae cydsyniad deddfwriaethol yn bwysig iawn i brosesau democrataidd Cymreig a rhyngseneddol. Felly, mae'n bwysig ein bod i gyd yn deall y broses, pryd y caiff ei chymhwyso a pham, a'r egwyddorion sy'n sail iddi. Nawr, efallai fod hwn yn fater sydd o ddiddordeb arbenigol, ymylol i rai, ond rwy'n sicr yn cytuno â Chadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ei fod yn rhan bwysig o'n fframwaith cyfansoddiadol. 

Dim ond pan fydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno deddfwriaeth sy'n ceisio gwneud darpariaeth mewn perthynas â Chymru, neu'n ceisio addasu cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, neu'n gwneud darpariaeth at unrhyw ddiben o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, y cyflwynir memoranda cydsyniad deddfwriaethol. Felly, pan fydd hyn yn digwydd, fel arfer mae'n rhaid i'r Llywodraeth osod memorandwm cydsyniad deddfwriaethol heb fod yn hwyrach na phythefnos ar ôl ei gyflwyno. Yna caiff y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol hwnnw ei gyfeirio gan y Pwyllgor Busnes at bwyllgor neu bwyllgorau, ynghyd ag amserlen  ar gyfer llunio adroddiad.

Nawr, dyna'r broses, ond mae'n creu nifer o heriau. Mae'n golygu bod y sbardun ar gyfer proses y cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn ganlyniad i gyflwyno Bil yn San Steffan, ac yn yr un modd mewn perthynas â gwelliannau a wneir wrth i'r Bil fynd rhagddo. Yn aml, ni fyddwn yn cael manylion Bil tan y funud olaf, a phan fydd hyn yn digwydd, mae'n ei gwneud hi bron yn amhosibl cydymffurfio â gofynion ein Rheol Sefydlog ein hunain. Mae'r un peth yn wir am welliannau i Filiau, sy'n aml yn ymddangos yn ddigymell bron, sy'n arwyddocaol ac sy'n aml yn gwneud ychwanegiadau arwyddocaol i Fil. Mae hyn yn galw am ddadansoddi ar frys gan gyfreithwyr er mwyn i femoranda cydsyniad deddfwriaethol atodol gael eu cyflwyno. I bob pwrpas, gall camau o'r fath gan Lywodraeth y DU ei gwneud yn anodd iawn i bwyllgorau graffu'n ddigonol arno. Felly, rwy'n cytuno â'r pwynt hwnnw. Mae cyfreithwyr Llywodraeth Cymru yn aml iawn mewn sefyllfa debyg o orfod dadansoddi materion cyfreithiol arwyddocaol a chymhleth o fewn cyfnod byr iawn o amser, a chytunaf fod hwn yn fater y mae angen mynd i'r afael ag ef hefyd ar lefel rynglywodraethol, oherwydd mae'n tanseilio prosesau democrataidd yn fy marn i. 

Felly, byddwn yn ystyried cynnig cydsyniad deddfwriaethol oherwydd deddfwriaeth sydd wedi'i chyflwyno yn San Steffan. Ein prif egwyddor, wrth ddeddfu ar gyfer Cymru, yw y dylem ddeddfu yn y Senedd mewn meysydd sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, a bydd hynny'n parhau i fod yn wir. Fodd bynnag, mae'n rhaid ystyried pob darn o ddeddfwriaeth y DU yn ôl ei deilyngdod ei hun. Yn aml, bydd dadansoddi deddfwriaeth o'r fath yn datgelu manteision ac anfanteision sy'n gwrthdaro. Weithiau, mae'r mater yn ymwneud â deddfwriaeth a fyddai o fudd i bobl Cymru ond nad yw o fewn y rhaglen ddeddfwriaethol bresennol. Ar adegau eraill, mae'n ymwneud â materion sydd o ddiddordeb trawsffiniol, ac mewn achosion eraill mae'n ymwneud â materion cymhwysedd, lle byddwn bob amser yn mabwysiadu safbwynt cadarn ac egwyddorol ar gadw uniondeb y setliad datganoli. 

Nawr, yn gynharach yn yr hydref, ysgrifennais at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i amlinellu ein meini prawf ar gyfer pennu'r amgylchiadau lle byddem yn ystyried defnyddio Bil Llywodraeth y DU i ddeddfu mewn perthynas â Chymru. A chan ein bod wedi sicrhau eu bod ar gael i'r cyhoedd, nid wyf am gymryd yr amser yn awr i'w hamlinellu'n fanwl heddiw. Fodd bynnag, i'w crynhoi, ni fyddem ond yn ystyried defnyddio Bil Llywodraeth y DU os oes cyfle i newid y gyfraith yn gyflymach nag y gallem ei wneud drwy ein rhaglen ein hunain, neu lle mae'n briodol ac yn fanteisiol fod cyfundrefnau rheoleiddio cyffredin ledled Cymru a Lloegr, ac ar yr amod ein bod yn cadw'r pŵer i wneud ein newidiadau deddfwriaethol ein hunain, pe baem yn dymuno gwneud hynny, yn nes ymlaen.

Felly, mae'n briodol i'r Aelodau godi mater craffu, oherwydd mae'n wir na fydd craffu a wneir gan y Senedd ar ddeddfwriaeth o'r fath mor fanwl ag y bydd ar gyfer deddfwriaeth a wneir yn y Senedd. A dyma un o'r dyfarniadau y mae'n rhaid eu gwneud pan gyflwynir deddfwriaeth yn San Steffan gan Lywodraeth y DU. Ac am y rheswm hwn, rydym wedi ymrwymo i sicrhau cymaint o graffu â phosibl drwy broses y cynnig cydsyniad deddfwriaethol, ond rwy'n cydnabod pwysigrwydd y mater a godwyd, felly rwy'n cadarnhau y byddwn yn gweithio gyda'r Pwyllgor Busnes i ystyried sut y gellir gwella'r broses ac i fynd i'r afael â'r pryderon hynny.

Lywydd, nid oes gan Lywodraeth y DU hanes da o barchu'r setliad datganoli—ymhell o fod—ac mae deddfwriaeth yn sgil Brexit wedi datgelu ymagwedd ganoledig, reolaethol tuag at ddatganoli yma, a gweddill y Deyrnas Unedig. O ganlyniad i'r defnydd cynyddol o bwerau cydredol neu ymdrechion cynyddol i'w creu, sefydlu strwythurau a chyfundrefnau cyllido DU gyfan mewn meysydd datganoledig, a'r modd y caiff safbwyntiau'r Senedd a Senedd yr Alban ar beth deddfwriaeth eu diystyru'n llwyr, nid oes gennym unrhyw reswm dros gredu bod Llywodraeth y DU yn gyfaill i ddatganoli. Ond nid ydym wedi osgoi mabwysiadu dull cadarn o amddiffyn ein buddiannau fel Gweinidogion Cymru a buddiannau'r Senedd hon. Un enghraifft yw Bil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar, a drafodwyd gan yr Aelodau ddoe, lle llwyddasom i negodi bod mater newydd arfaethedig i'w gadw yn ôl yn cael ei ddileu. Fodd bynnag, bydd angen cyfaddawdu wrth negodi weithiau, a lle ystyrir cyfaddawd, y prawf bob amser yw a yw gwneud y cyfaddawd, o dan yr holl amgylchiadau, yn well i bobl Cymru na pheidio â gwneud y cyfaddawd hwnnw. Ond gallaf sicrhau'r Aelodau ein bod yn parhau i flaenoriaethu ymdrechion i amddiffyn y setliad datganoli yn erbyn ymdrechion i'w danseilio.

Hoffwn gyfeirio at un neu ddau o'r sylwadau sydd wedi'u gwneud. Rhys ab Owen Jones—yn sicr, pan fyddaf yn gwrando arnoch yn siarad am y materion hyn, mae'n fy atgoffa ychydig o'r adegau y bûm mewn capel Cymraeg, lle mae'r materion yn ymwneud â daioni a drygioni a thân a brwmstan. Felly, rwy'n cytuno'n rhannol â chi ar y pwynt cyfansoddiadol, ond nid o reidrwydd â'r dull ffwndamentalaidd a fabwysiadwyd.

Huw, fe wnaethoch bwynt ynglŷn â'r pwyllgor deddfwriaeth a chyfiawnder, ac rwy'n cydnabod pwysigrwydd sylfaenol y pwyllgor hwnnw ac yn sicr yn derbyn sut y gallem fynegi'n gliriach y rhesymeg sy'n sail i femoranda cydsyniad deddfwriaethol.

Llyr, fe wnaethoch nifer o bwyntiau tebyg, ond unwaith eto, hoffwn gadarnhau fy mod yn cytuno â rhai o'r sylwadau a'r pryderon ynglŷn â chraffu.

A Jane, mewn perthynas â nifer o'r pwyntiau a wnaethoch, mae'r Bil etholiadau, er enghraifft, y cyfeirioch chi ato, yn enghraifft o ble rydym wedi gwrthwynebu'n llwyr yr ymdrechion i ymgorffori rhai egwyddorion nad ydym eisiau eu gweld yn cael eu cymhwyso i etholiadau Cymru.

Ac i Heledd, nid yw nifer y cynigion cydsyniad deddfwriaethol yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddewis o ran yr argymhellion a wnawn; mae'n ganlyniad i orfod ymateb i ddeddfwriaeth Llywodraeth y DU, ac mae'r Rheolau Sefydlog yn ei gwneud yn ofynnol i ni wneud hynny.

A Darren, roeddwn yn poeni'n fawr, oherwydd roeddwn yn dechrau cytuno â chi ar y dechrau ac roeddwn yn meddwl tybed a fyddai'n rhaid imi gyfaddef hynny ai peidio, ond mae'n rhaid imi ddweud, yn anffodus, credaf eich bod wedi dechrau mynd ar gyfeiliorn—ni wnaethoch gydnabod yr hyn sy'n ymosodiad pendant ar ddatganoli yn fy marn i. Ond rydych yn sicr yn iawn ynglŷn â hen system y gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol, rhywbeth y credaf ein bod i gyd yn falch o gael ei wared.

Yn ddelfrydol, ym mhob deddfwriaeth a ddaw o fewn cymhwysedd y Senedd, credaf mai'r farn yw y dylem ei gwneud yma, yn y sefydliad hwn. Mae gennym raglen ddeddfwriaethol yn Llywodraeth y DU sy'n ceisio herio datganoli a chyfrifoldebau'r Senedd fwyfwy, felly byddwn yn ceisio gwneud ein deddfwriaeth, ein memoranda cydsyniad deddfwriaethol, mewn ffordd sy'n diogelu ac yn gwella ein setliad cyfansoddiadol, ac yn bwysicaf oll, byddwn yn gweithio'n agos gyda'r Pwyllgor Busnes, y Senedd, y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a phwyllgorau eraill i edrych ar sut y gellir gwella proses y cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

Photo of David Rees David Rees Labour 3:59, 15 Rhagfyr 2021

Galwaf ar Alun Davies i ymateb i'r ddadl.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n ddiolchgar i bawb a gymerodd ran yn y ddadl y prynhawn yma, ac eithrio cyfraniad braidd yn rhyfedd Darren Millar o bosibl. Ddirprwy Lywydd, rôl y gwrthbleidiau yw gwrthwynebu Llywodraethau, fel arfer, a defnyddio cynifer o wahanol dechnegau seneddol â phosibl i rwystro'r Llywodraeth rhag cael ei ffordd. Rhaid mai dyma'r tro cyntaf i mi gofio lle mae gwrthblaid nid yn unig wedi rhoi rhwydd hynt i fusnes y Llywodraeth ond wedi dweud hefyd nad ydynt eisiau'r opsiwn o graffu ar ddeddfwriaeth y Llywodraeth ychwaith. Mae'n sefyllfa eithaf rhyfedd i fod ynddi. Rwy'n croesawu'r—. Mae Darren eisiau gwneud ymyriad.

Photo of David Rees David Rees Labour 4:00, 15 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

A ydych chi'n mynd i dderbyn yr ymyriad?

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Wrth gwrs, ydw.

Photo of David Rees David Rees Labour

(Cyfieithwyd)

Ydy, mae'n ei dderbyn.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative

(Cyfieithwyd)

Nid wyf wedi awgrymu o gwbl am eiliad na ddylem allu craffu ar ddeddfwriaeth. Yn wir, pe baech yn gwrando'n fwy gofalus ar yr hyn a ddywedais, dywedais fod yna bethau roedd angen eu gwneud i wella'r prosesau presennol a'r cyfleoedd ar gyfer craffu ar y polisi a'r memoranda a gynhyrchir. Felly, nid yw hynny'n wir o gwbl. Yr hyn roeddwn yn ei ddweud oedd bod gorchmynion cymhwysedd deddfwriaethol yn well o lawer na lle roeddem, a bod cyfleoedd defnyddiol weithiau i Lywodraeth Cymru allu cyflymu'r gwaith o weithredu ei pholisïau—polisïau nad wyf yn cytuno â hwy weithiau, nad wyf yn cytuno â hwy'n aml iawn mewn gwirionedd, ond weithiau mae'n arf defnyddiol.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 4:01, 15 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Gallaf ddeall eich bod am wneud araith arall yn achub eich sefyllfa, ond nid dyma'r cyfle i wneud hynny, mae arnaf ofn.

O ran ble rydym, yr hyn a wnewch wrth gwrs pan fyddwch yn craffu ar gynnig cydsyniad deddfwriaethol yw eich bod yn craffu ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol, y memorandwm; nid ydych yn craffu ar y ddeddfwriaeth, a dyna fethiant allweddol y system hon. Nid yw mewn unrhyw ffordd—. Nid wyf yn credu y gallwch ei gymharu'n hawdd â'r hen system gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol o gwbl, lle roeddech yn trafod egwyddor deddfwriaeth a'r cymhwysedd deddfwriaethol; yma rydych chi'n trafod y ddeddfwriaeth ei hun, y Bil.

Yr enghreifftiau a roddaf i Darren yw'r enghreifftiau a drafodwyd gennym ddoe mewn perthynas â diwygio cyfraith lesddaliad, a'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol y byddwn yn ei drafod ymhen ychydig wythnosau ynghylch diogelwch adeiladau. Nid ydym wedi cael cyfle i graffu ar unrhyw un o'r darpariaethau sydd yn y darnau hynny o ddeddfwriaeth. Yr hyn rydym wedi'i wneud yw craffu ar y memorandwm lle mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod am roi'r pŵer i Senedd San Steffan ddeddfu. Rydym yn gwybod, ac mae'n rhaid i chi fod yn unigolyn caredig tu hwnt, byddwn yn awgrymu, os ydych chi'n credu y bydd unrhyw graffu'n digwydd ar ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru yn San Steffan. Prin eu bod yn craffu ar eu deddfwriaeth eu hunain draw yn y fan honno, heb sôn am ddeddfwriaeth a gaiff ei hawgrymu gan Lywodraeth Cymru. Mae'n rhaid i chi fod yn unigolyn caredig tu hwnt—rwy'n gwybod bod y Nadolig yn dod, ond rydych yn mynd â phethau i eithafion ar rai adegau. Felly, mae hyn yn ymwneud â chraffu seneddol priodol ar ddeddfwriaeth, a byddwn wedi rhagweld y byddai pob Aelod o'r wrthblaid yn dymuno ac yn disgwyl y lefelau uchaf o graffu ar unrhyw fath o ddeddfwriaeth gan y Llywodraeth.

Rwy'n croesawu'n fawr yr hyn y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i ddweud y prynhawn yma, ond wyddoch chi, rydych yn dweud bod Rhys yn siarad fel pregethwr mewn capel, ond rhaid imi ddweud wrthych chi, Gwnsler Cyffredinol, yr hyn a ddysgais o gael magwraeth capel oedd bod yn rhaid i chi fyw eich credoau. Nid yw'n ddigon plygu pen-glin ar nos Sul neu fore Sul, mae'n rhaid i chi fyw'r credoau hynny ar fore Llun hefyd, mae arnaf ofn, Gwnsler Cyffredinol, ac nid yw'r Llywodraeth yn gwneud hynny ar hyn o bryd. Nid yw Llywodraeth Cymru yn gwneud hynny.

Nid yw'n ddigon dweud bod gan Lywodraeth Cymru raglen ddeddfwriaethol lawn pan nad oes gennym ond dau Fil Llywodraeth gerbron y lle hwn. Nid yw'r un ohonynt—wel, mae un ohonynt yn Fil arwyddocaol, nid yw'r ail yn Fil arwyddocaol, ac yna mae gennym Fil Aelod preifat. Os yw'n wir na all y Llywodraeth fynd ar drywydd mwy na dau ddarn o ddeddfwriaeth ar unrhyw adeg, dylai'r Llywodraeth ddweud hynny ac egluro pam, a dylai'r Llywodraeth fuddsoddi yn yr adnoddau i'w galluogi i gael adnoddau i fynd ar drywydd rhagor o ddeddfwriaeth. Mae gan y Llywodraeth reolaeth dros ei chyllideb ei hun ac mae angen i'r Llywodraeth gydnabod hynny. Felly, mae gennym hawl felly i graffu ar y ddeddfwriaeth honno ac nid craffu ar is-gontractio deddfwriaeth i le arall yn unig.

Ond rwy'n ddiolchgar, Ddirprwy Lywydd, i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl. Yn ei ddau gyfraniad ar y mater yr wythnos hon mae Huw Irranca-Davies wedi dangos grym craffu seneddol priodol. Nid yw'r gwaith a wneir gan y pwyllgor deddfwriaeth a chyfiawnder ar y materion hyn yn waith y gall y Llywodraeth ei roi o'r neilltu; mae'n waith y mae'n rhaid i'r Llywodraeth ei gydnabod. Rwy'n credu bod grym y ddadl a wnaeth Huw Irranca-Davies ddoe yn y ddadl ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn rhywbeth y bydd y Llywodraeth, gobeithio, yn myfyrio'n ddwys iawn yn ei gylch.

Rwy'n cydnabod y pwyntiau y mae Rhys wedi'u gwneud a'r pwyntiau a wnaeth y Cwnsler Cyffredinol, am y gwrthdaro, ac rwy'n credu ei fod yn wrthdaro, rhwng Llywodraethau Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon i raddau llai, a San Steffan. Credaf fod problem ddifrifol yn codi o'r ffaith nad yw San Steffan yn cydnabod mandad yr Aelodau a etholir i'r lle hwn, a'n hawl i lywodraethu, ein hawl i ddeddfu. Rwy'n credu bod problem ddifrifol yno.

Credaf hefyd y byddai achos Llywodraeth Cymru yn fwy pwerus pe bai Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r ddeddfwriaeth a'r prosesau yn y lle hwn mewn ffordd sy'n cydnabod ein hawliau, yn ogystal ag arfer yr hawliau hynny mewn dadl â Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Rwy'n arbennig o siomedig nad yw Llywodraeth Cymru wedi ceisio defnyddio prosesau cyflym lle mae'n credu bod angen deddfwriaeth gyflym.

Photo of David Rees David Rees Labour 4:05, 15 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Alun, mae angen ichi ddod i ben yn awr.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Os edrychwch ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar ddiogelwch adeiladau, gellid bod wedi mynd â Bil drwy'r lle hwn mewn amser tebyg i'r hyn y mae'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol wedi'i gymryd, a chyda chraffu ac opsiwn i bobl yma bleidleisio arno.

Felly, rwy'n ddiolchgar ichi, Ddirprwy Lywydd, am eich amser y prynhawn yma, ac rwy'n ddiolchgar i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl. Rwy'n gobeithio, o ganlyniad i'r ddadl hon, y gallwn ddod i gytundeb â Llywodraeth Cymru ynglŷn â sut rydym yn deddfu yn y dyfodol, a gobeithio mai'r hyn a wnaiff hynny fydd cydnabod grym democratiaeth y gwn fod y Cwnsler Cyffredinol wedi ymladd amdani ers mwy o amser na'r rhan fwyaf o Aelodau'r lle hwn, a gwn ei fod yn credu ynddi gymaint â phawb arall sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon. Diolch.

Photo of David Rees David Rees Labour 4:06, 15 Rhagfyr 2021

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.