Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 15 Rhagfyr 2021.
Dwi'n falch o allu cyfrannu at y ddadl yma fel Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, ac fe fyddwch chi'n ymwybodol, wrth gwrs, Dirprwy Lywydd, bod y pwyllgor wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes nôl ym mis Medi yn amlinellu beth rôn ni'n ystyried oedd yr heriau allweddol o ran y Senedd yn craffu ar gynigion cydsyniad deddfwriaethol, neu LCMs. Fe ofynnon ni i'r Pwyllgor Busnes gynnal adolygiad i'r broses LCM er mwyn sicrhau ei bod hi'n addas at y diben. Nawr, fe ysgogwyd y llythyr gan ein profiad ni o graffu ar yr LCM ar gyfer Bil yr amgylchedd yn ystod rhan gyntaf tymor y Senedd hon. Ond mae'n deg dweud nad oedd yr heriau rôn ni'n eu hwynebu yn unigryw i'r LCM hwnnw, a dydyn nhw ddim, wrth gwrs, yn unigryw i'r Senedd yma. Hynny yw, cyn y bumed Senedd, roedd LCMs, ar y cyfan, yn ymwneud â darpariaethau oedd â ffocws cul; doedden nhw ddim yn ennyn llawer o ddadlau, os o gwbl, a dweud y gwir. Mae'n bosib bod y bumed Senedd wedyn, wrth gwrs, wedi bod yn drobwynt o ran craffu ar LCMs wrth i LCMs yn ymwneud â Biliau mawr a chymhleth oedd yn gysylltiedig â Brexit, a oedd yn gwneud darpariaethau sylweddol i Gymru, gael eu cyflwyno.
Fe ddaeth yn amlwg yn fuan iawn wedyn, wrth gwrs, nad oedd y broses LCM wedi'i chynllunio er mwyn craffu ar Filiau fel y rhain. Cymerwch y gwaith craffu ar yr LCM ar gyfer Bil yr amgylchedd er enghraifft. Nawr, fel Biliau eraill yn ymwneud â Brexit, roedd Bil yr amgylchedd yn cynnwys darpariaethau sylweddol i Gymru mewn maes polisi datganoledig allweddol, darpariaethau a fyddai wrth gwrs, heb os, yn fwy addas ar gyfer Bil yn y Senedd hon. Pe bai wedi bod yn Fil yn y Senedd hon, byddai'r amserlen ar gyfer craffu wedi ymestyn dros sawl mis. Yn lle hynny, fe gafon ni bedair wythnos, sef dau gyfarfod, er mwyn ystyried ac wedyn cyflwyno adroddiad ar yr LCM. Pe bai e wedi bod yn Fil yn y Senedd hon, byddai Llywodraeth Cymru wedi gorfod darparu gwybodaeth fanwl am eu hamcanion polisi, diben ac effaith arfaethedig y darpariaethau, ac amcangyfrifon cost ymhlith pethau eraill, ond roedd yr LCM, wrth gwrs, yn cynnwys gwybodaeth gyfyngedig am rai agweddau ar y rhain, a dim gwybodaeth o gwbl am agweddau eraill. Pe bai e wedi bod yn Fil yn y Senedd yma, byddai cyfle wedi bod i fynd i'r afael â phryderon y pwyllgor am ddarpariaethau penodol drwy gynnig gwelliannau i'r ddeddfwriaeth. Ond, wrth gwrs, roedd Bil yr amgylchedd eisoes wedi cyrraedd camau olaf y gwaith craffu yn Senedd y Deyrnas Unedig, felly doedd trafod gwelliannau ddim yn opsiwn.
Dirprwy Lywydd, mae'n debyg bod yr heriau dwi wedi'u hamlinellu yn gyfarwydd erbyn hyn i'r rhan fwyaf o bwyllgorau polisi, os nad pob un ohonyn nhw a dweud y gwir, o ystyried y nifer sylweddol o LCMs sydd wedi cael eu cyflwyno ers dechrau'r chweched Senedd. Rŷn ni mewn sefyllfa lle mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio LCMs yn lle proses graffu ar gyfer Biliau'r Senedd. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn defnyddio Biliau'r Deyrnas Unedig yn gynyddol i ddeddfu mewn meysydd datganoledig heb gytundeb Llywodraeth Cymru. Dyw'r broses sydd wedi ei nodi yn ein Rheolau Sefydlog ni ddim wedi'i chynllunio ar gyfer hyn, ac mae'n rhaid i ni ofyn a yw e'n dal i fod yn addas at y diben.
Nawr, fel yr amlinellwyd yn fy llythyr i at y Pwyllgor Busnes, nawr yw'r amser i adolygu'r broses LCM. Os yw Llywodraeth Cymru'n bwriadu parhau i ddefnyddio Biliau'r Deyrnas Unedig i ddeddfu dros Gymru ar faterion o bwys, mae'n rhaid i ni fod yn hyderus fod y broses LCM yn hwyluso ac yn cefnogi gwaith craffu ystyrlon gan y Senedd yma, ac, wrth gwrs, ein bod ni'n gallu ymgynghori â'r cyhoedd a rhanddeiliaid o Gymru ar faterion fydd yn effeithio arnyn nhw.
Dwi'n mawr obeithio, felly, y bydd y ddadl yma heddiw yn golygu y byddwn ni nawr yn gweld cynnydd o ran cael adolygiad, ac y byddwn ni o ganlyniad yn gweld gwelliannau sylweddol a buan i'r broses bresennol. Diolch.