Part of the debate – Senedd Cymru am 3:50 pm ar 15 Rhagfyr 2021.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy groesawu'r ddadl? Mae cydsyniad deddfwriaethol yn bwysig iawn i brosesau democrataidd Cymreig a rhyngseneddol. Felly, mae'n bwysig ein bod i gyd yn deall y broses, pryd y caiff ei chymhwyso a pham, a'r egwyddorion sy'n sail iddi. Nawr, efallai fod hwn yn fater sydd o ddiddordeb arbenigol, ymylol i rai, ond rwy'n sicr yn cytuno â Chadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ei fod yn rhan bwysig o'n fframwaith cyfansoddiadol.
Dim ond pan fydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno deddfwriaeth sy'n ceisio gwneud darpariaeth mewn perthynas â Chymru, neu'n ceisio addasu cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, neu'n gwneud darpariaeth at unrhyw ddiben o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, y cyflwynir memoranda cydsyniad deddfwriaethol. Felly, pan fydd hyn yn digwydd, fel arfer mae'n rhaid i'r Llywodraeth osod memorandwm cydsyniad deddfwriaethol heb fod yn hwyrach na phythefnos ar ôl ei gyflwyno. Yna caiff y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol hwnnw ei gyfeirio gan y Pwyllgor Busnes at bwyllgor neu bwyllgorau, ynghyd ag amserlen ar gyfer llunio adroddiad.
Nawr, dyna'r broses, ond mae'n creu nifer o heriau. Mae'n golygu bod y sbardun ar gyfer proses y cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn ganlyniad i gyflwyno Bil yn San Steffan, ac yn yr un modd mewn perthynas â gwelliannau a wneir wrth i'r Bil fynd rhagddo. Yn aml, ni fyddwn yn cael manylion Bil tan y funud olaf, a phan fydd hyn yn digwydd, mae'n ei gwneud hi bron yn amhosibl cydymffurfio â gofynion ein Rheol Sefydlog ein hunain. Mae'r un peth yn wir am welliannau i Filiau, sy'n aml yn ymddangos yn ddigymell bron, sy'n arwyddocaol ac sy'n aml yn gwneud ychwanegiadau arwyddocaol i Fil. Mae hyn yn galw am ddadansoddi ar frys gan gyfreithwyr er mwyn i femoranda cydsyniad deddfwriaethol atodol gael eu cyflwyno. I bob pwrpas, gall camau o'r fath gan Lywodraeth y DU ei gwneud yn anodd iawn i bwyllgorau graffu'n ddigonol arno. Felly, rwy'n cytuno â'r pwynt hwnnw. Mae cyfreithwyr Llywodraeth Cymru yn aml iawn mewn sefyllfa debyg o orfod dadansoddi materion cyfreithiol arwyddocaol a chymhleth o fewn cyfnod byr iawn o amser, a chytunaf fod hwn yn fater y mae angen mynd i'r afael ag ef hefyd ar lefel rynglywodraethol, oherwydd mae'n tanseilio prosesau democrataidd yn fy marn i.
Felly, byddwn yn ystyried cynnig cydsyniad deddfwriaethol oherwydd deddfwriaeth sydd wedi'i chyflwyno yn San Steffan. Ein prif egwyddor, wrth ddeddfu ar gyfer Cymru, yw y dylem ddeddfu yn y Senedd mewn meysydd sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, a bydd hynny'n parhau i fod yn wir. Fodd bynnag, mae'n rhaid ystyried pob darn o ddeddfwriaeth y DU yn ôl ei deilyngdod ei hun. Yn aml, bydd dadansoddi deddfwriaeth o'r fath yn datgelu manteision ac anfanteision sy'n gwrthdaro. Weithiau, mae'r mater yn ymwneud â deddfwriaeth a fyddai o fudd i bobl Cymru ond nad yw o fewn y rhaglen ddeddfwriaethol bresennol. Ar adegau eraill, mae'n ymwneud â materion sydd o ddiddordeb trawsffiniol, ac mewn achosion eraill mae'n ymwneud â materion cymhwysedd, lle byddwn bob amser yn mabwysiadu safbwynt cadarn ac egwyddorol ar gadw uniondeb y setliad datganoli.
Nawr, yn gynharach yn yr hydref, ysgrifennais at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i amlinellu ein meini prawf ar gyfer pennu'r amgylchiadau lle byddem yn ystyried defnyddio Bil Llywodraeth y DU i ddeddfu mewn perthynas â Chymru. A chan ein bod wedi sicrhau eu bod ar gael i'r cyhoedd, nid wyf am gymryd yr amser yn awr i'w hamlinellu'n fanwl heddiw. Fodd bynnag, i'w crynhoi, ni fyddem ond yn ystyried defnyddio Bil Llywodraeth y DU os oes cyfle i newid y gyfraith yn gyflymach nag y gallem ei wneud drwy ein rhaglen ein hunain, neu lle mae'n briodol ac yn fanteisiol fod cyfundrefnau rheoleiddio cyffredin ledled Cymru a Lloegr, ac ar yr amod ein bod yn cadw'r pŵer i wneud ein newidiadau deddfwriaethol ein hunain, pe baem yn dymuno gwneud hynny, yn nes ymlaen.
Felly, mae'n briodol i'r Aelodau godi mater craffu, oherwydd mae'n wir na fydd craffu a wneir gan y Senedd ar ddeddfwriaeth o'r fath mor fanwl ag y bydd ar gyfer deddfwriaeth a wneir yn y Senedd. A dyma un o'r dyfarniadau y mae'n rhaid eu gwneud pan gyflwynir deddfwriaeth yn San Steffan gan Lywodraeth y DU. Ac am y rheswm hwn, rydym wedi ymrwymo i sicrhau cymaint o graffu â phosibl drwy broses y cynnig cydsyniad deddfwriaethol, ond rwy'n cydnabod pwysigrwydd y mater a godwyd, felly rwy'n cadarnhau y byddwn yn gweithio gyda'r Pwyllgor Busnes i ystyried sut y gellir gwella'r broses ac i fynd i'r afael â'r pryderon hynny.
Lywydd, nid oes gan Lywodraeth y DU hanes da o barchu'r setliad datganoli—ymhell o fod—ac mae deddfwriaeth yn sgil Brexit wedi datgelu ymagwedd ganoledig, reolaethol tuag at ddatganoli yma, a gweddill y Deyrnas Unedig. O ganlyniad i'r defnydd cynyddol o bwerau cydredol neu ymdrechion cynyddol i'w creu, sefydlu strwythurau a chyfundrefnau cyllido DU gyfan mewn meysydd datganoledig, a'r modd y caiff safbwyntiau'r Senedd a Senedd yr Alban ar beth deddfwriaeth eu diystyru'n llwyr, nid oes gennym unrhyw reswm dros gredu bod Llywodraeth y DU yn gyfaill i ddatganoli. Ond nid ydym wedi osgoi mabwysiadu dull cadarn o amddiffyn ein buddiannau fel Gweinidogion Cymru a buddiannau'r Senedd hon. Un enghraifft yw Bil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar, a drafodwyd gan yr Aelodau ddoe, lle llwyddasom i negodi bod mater newydd arfaethedig i'w gadw yn ôl yn cael ei ddileu. Fodd bynnag, bydd angen cyfaddawdu wrth negodi weithiau, a lle ystyrir cyfaddawd, y prawf bob amser yw a yw gwneud y cyfaddawd, o dan yr holl amgylchiadau, yn well i bobl Cymru na pheidio â gwneud y cyfaddawd hwnnw. Ond gallaf sicrhau'r Aelodau ein bod yn parhau i flaenoriaethu ymdrechion i amddiffyn y setliad datganoli yn erbyn ymdrechion i'w danseilio.
Hoffwn gyfeirio at un neu ddau o'r sylwadau sydd wedi'u gwneud. Rhys ab Owen Jones—yn sicr, pan fyddaf yn gwrando arnoch yn siarad am y materion hyn, mae'n fy atgoffa ychydig o'r adegau y bûm mewn capel Cymraeg, lle mae'r materion yn ymwneud â daioni a drygioni a thân a brwmstan. Felly, rwy'n cytuno'n rhannol â chi ar y pwynt cyfansoddiadol, ond nid o reidrwydd â'r dull ffwndamentalaidd a fabwysiadwyd.
Huw, fe wnaethoch bwynt ynglŷn â'r pwyllgor deddfwriaeth a chyfiawnder, ac rwy'n cydnabod pwysigrwydd sylfaenol y pwyllgor hwnnw ac yn sicr yn derbyn sut y gallem fynegi'n gliriach y rhesymeg sy'n sail i femoranda cydsyniad deddfwriaethol.
Llyr, fe wnaethoch nifer o bwyntiau tebyg, ond unwaith eto, hoffwn gadarnhau fy mod yn cytuno â rhai o'r sylwadau a'r pryderon ynglŷn â chraffu.
A Jane, mewn perthynas â nifer o'r pwyntiau a wnaethoch, mae'r Bil etholiadau, er enghraifft, y cyfeirioch chi ato, yn enghraifft o ble rydym wedi gwrthwynebu'n llwyr yr ymdrechion i ymgorffori rhai egwyddorion nad ydym eisiau eu gweld yn cael eu cymhwyso i etholiadau Cymru.
Ac i Heledd, nid yw nifer y cynigion cydsyniad deddfwriaethol yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddewis o ran yr argymhellion a wnawn; mae'n ganlyniad i orfod ymateb i ddeddfwriaeth Llywodraeth y DU, ac mae'r Rheolau Sefydlog yn ei gwneud yn ofynnol i ni wneud hynny.
A Darren, roeddwn yn poeni'n fawr, oherwydd roeddwn yn dechrau cytuno â chi ar y dechrau ac roeddwn yn meddwl tybed a fyddai'n rhaid imi gyfaddef hynny ai peidio, ond mae'n rhaid imi ddweud, yn anffodus, credaf eich bod wedi dechrau mynd ar gyfeiliorn—ni wnaethoch gydnabod yr hyn sy'n ymosodiad pendant ar ddatganoli yn fy marn i. Ond rydych yn sicr yn iawn ynglŷn â hen system y gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol, rhywbeth y credaf ein bod i gyd yn falch o gael ei wared.
Yn ddelfrydol, ym mhob deddfwriaeth a ddaw o fewn cymhwysedd y Senedd, credaf mai'r farn yw y dylem ei gwneud yma, yn y sefydliad hwn. Mae gennym raglen ddeddfwriaethol yn Llywodraeth y DU sy'n ceisio herio datganoli a chyfrifoldebau'r Senedd fwyfwy, felly byddwn yn ceisio gwneud ein deddfwriaeth, ein memoranda cydsyniad deddfwriaethol, mewn ffordd sy'n diogelu ac yn gwella ein setliad cyfansoddiadol, ac yn bwysicaf oll, byddwn yn gweithio'n agos gyda'r Pwyllgor Busnes, y Senedd, y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a phwyllgorau eraill i edrych ar sut y gellir gwella proses y cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Diolch, Ddirprwy Lywydd.