Part of the debate – Senedd Cymru am 4:14 pm ar 15 Rhagfyr 2021.
Rwy'n croesawu'r cytundeb hwn rhwng y Senedd a Llywodraeth Cymru. Ar adeg pan fo cysylltiadau rhynglywodraethol yn aml yn wael iawn a dweud y lleiaf, mae mor bwysig fod y Senedd yn gwbl ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd. Rwy'n gobeithio y gall y Senedd gydweithredu â Llywodraeth Cymru i geisio gwella cysylltiadau rhynglywodraethol.
Fel y soniais ddoe yn y ddadl ar ddiogelwch tân, pobl Cymru sy'n dioddef pan fydd y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn chwalu. Fe welsom yn ddiweddar, oni wnaethom, yn y Sianel, y canlyniadau trasig pan fydd dwy Lywodraeth yn rhoi gwleidyddiaeth o flaen pobl. Nid wyf am weld ail Dŵr Grenfell yn digwydd ym Mae Caerdydd nac yn Abertawe tra bo gwleidyddion yn dal i gecru ynglŷn â phwy sy'n talu am waith diogelwch tân. Nid wyf eisiau gweld ail Aberfan yn digwydd tra bo gwleidyddion yn gwleidyddoli tomenni glo yn hytrach na bwrw ati i glirio'r creithiau hyn o'n tirweddau.
Fel y soniodd Huw Irranca-Davies, gall cysylltiadau rhynglywodraethol ymddangos yn bwnc sych. Nid wyf yn disgwyl i Aelodau ddangos llawer o ddiddordeb mewn cytundebau rhynglywodraethol ffurfiol, fframweithiau cyffredin, concordatiau, memoranda neu benderfyniadau eraill. Ond maent yn adlewyrchu'r berthynas rhwng Llywodraethau, boed yn adeiladol, yn rhwystrol neu hyd yn oed yn ddinistriol ar adegau. Mae hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl Cymru. Felly rwy'n croesawu'r cytundeb hwn, oherwydd mae'n rhoi dau gonglfaen ein democratiaeth i ni yn y Senedd: tryloywder ac atebolrwydd. Bydd yn creu mwy o dryloywder ac felly'n galluogi craffu pellach—ein rôl bwysicaf fel Aelodau anllywodraethol o'r Senedd, fel y pwysleisiodd Alun Davies yn gwbl briodol yn y ddadl ddiwethaf.
Mae'r cytundeb hwn yn ymdrin â memoranda cyd-ddealltwriaeth. Fel y gŵyr yr Aelodau, nid yw'r rhain yn rhwymo'r Llywodraeth bresennol, heb sôn am Lywodraethau olynol. Dônt i fodolaeth heb unrhyw graffu go iawn, ac yn aml dylent fod mewn darn o ddeddfwriaeth yn hytrach nag mewn cytundeb nad yw'n rhwymol rhwng dwy weithrediaeth. Dyna pam ei bod mor bwysig fod y Llywodraeth yn dryloyw ynglŷn â'u bodolaeth a bod cyfle i herio eu cynnwys. Fel rhan o'r cytundeb hwn, rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynnal tudalen bwrpasol ar ei gwefan ei hun yn darparu'r holl gytundebau rhynglywodraethol ffurfiol perthnasol o bob math sydd ar waith rhyngddynt hwy a Llywodraeth y DU. Nid wyf am funud yn dychmygu y bydd y traffig i'r dudalen honno'n uchel, ond mae'n bwysig eu bod yno. Mae'n bwysig eu bod yn hygyrch.
Rwy'n falch fod y cytundeb hwn yn rhoi cyfle i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, a Llywodraeth Cymru, awgrymu gwelliannau i'r cytundeb yn ystod y Senedd hon. Gall cysylltiadau rhynglywodraethol newid yn gyflym iawn, ac rwy'n mawr obeithio y bydd pethau'n gwella pan fydd Llywodraeth San Steffan yn sylweddoli o'r diwedd nad yw eu hundeboliaeth gyhyrol yn cyflawni dim. Rwyf hefyd yn falch o'r ymrwymiad ym mharagraff 16 o'r cytundeb, os yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu sefydlu trefniadau newydd gyda'r nod o gyrraedd cytundeb rhynglywodraethol, y bydd yn rhoi rhybudd digonol ymlaen llaw i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad.
Mae'r ymrwymiad ychwanegol gan y Prif Weinidog ar hysbysu'r Senedd pan fydd Llywodraeth Cymru yn cydsynio a phan fydd wedi cydsynio i Lywodraeth y DU arfer pŵer dirprwyedig mewn maes datganoledig mor bwysig, er mwyn iddo fod yn offeryn monitro go iawn ar gyfer y Senedd. Rydym newydd glywed yn y ddadl am y cynnydd mewn cynigion cymhwysedd deddfwriaethol ar gyfer deddfwriaeth sylfaenol. Mae hefyd yn bwysig monitro a chraffu i ba raddau y mae cydsyniad yn cael ei roi i is-ddeddfwriaeth. Mater yw hwn y bydd y pwyllgor o dan gadeiryddiaeth Huw Irranca-Davies—. Ac rwyf am adleisio'r hyn a ddywedodd Peter Fox am ei gadeiryddiaeth o'r pwyllgor; rydym yn ffodus iawn i'w gael fel Cadeirydd. Byddwn yn arwain ar hyn. Ond fel y dywedais yn y ddadl ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol, rwy'n gobeithio y bydd Aelodau eraill yn dangos diddordeb ac yn dod yn gyfarwydd â'r hyn sy'n digwydd, oherwydd mae'n effeithio ar ein democratiaeth yng Nghymru ac felly mae'n effeithio ar y bobl rydym yn eu gwasanaethu.
Felly, Ddirprwy Lywydd, dyna ddiwedd fy ail bregeth—efallai y tro hwn heb y tân a'r brwmstan—a byddwn yn hapus iawn i groesawu'r Cwnsler Cyffredinol i fy nghapel Cymraeg ar unrhyw adeg gyfleus, i'r gwasanaeth carolau heno efallai. Diolch yn fawr.