7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar y Cytundeb Cysylltiadau Rhyng-sefydliadol rhwng Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru

– Senedd Cymru am 4:06 pm ar 15 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 4:06, 15 Rhagfyr 2021

Eitem 7 heddiw yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, 'Cytundeb Cysylltiadau Rhyng-sefydliadol rhwng Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor, Huw Irranca-Davies, i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7870 Huw Irranca-Davies

Cynnig bod yn Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, 'Cytundeb Cysylltiadau Rhyng-sefydliadol rhwng Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Tachwedd 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 4:07, 15 Rhagfyr 2021

Nid yw'r cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol rhwng Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru, sydd wedi’i adnewyddu ar gyfer y chweched Senedd, mor sych nag mor arbenigol ag y mae ei deitl yn awgrymu. Mae'n gytundeb pwysig sy'n berthnasol i bob un o bwyllgorau'r Senedd ac yn gymwys i holl Weinidogion Cymru.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Er bod fy mhwyllgor, gan adeiladu ar waith y pwyllgor a'i rhagflaenodd, wedi arwain ar hyn, mae'r cytundeb yn cynrychioli'r safbwynt y cytunwyd arno ar y wybodaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei darparu i'r Senedd gyfan mewn perthynas â chyfranogiad Gweinidogion Cymru mewn cyfarfodydd rhynglywodraethol ffurfiol ar lefel weinidogol, y cytundebau, y concordatau, a'r memoranda cyd-ddealltwriaeth. Mae gwybodaeth o'r fath yn dod yn fwyfwy hanfodol i ni fel Aelodau o'r Senedd ar gyfer monitro a deall gwaith Gweinidogion Cymru yng nghyd-destun y DU.

Nawr, fel y soniais yn fyr, argymhellodd ein pwyllgor rhagflaenol yn y pumed Senedd i Lywodraeth Cymru y dylai ymrwymo i gytundeb a fyddai'n cefnogi gwaith craffu'r Senedd ar Lywodraeth Cymru yn ei hymwneud rhynglywodraethol. Roedd Llywodraeth Cymru'n cytuno, a bydd rhai o'r Aelodau'n gwybod bod iteriad cyntaf y cytundeb hwn wedi'i sefydlu a'i nodi'n ffurfiol gan y pumed Senedd ym mis Mawrth 2019.

Un o'r pethau cyntaf a wnaeth ein pwyllgor, yn fuan iawn ar ôl ymffurfio, oedd mynd ati i sefydlu cytundeb newydd gyda Llywodraeth Cymru a oedd yn addas i'r diben yn ein chweched Senedd. Rwy'n falch iawn fod y Prif Weinidog yr un mor agored i barhad y cytundeb, a'n bod wedi gallu dod â'r fersiwn newydd hon i'r Senedd cyn i 2021 ddod i ben. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hefyd i nodi ar gyfer y cofnod, er bod trafodaethau ar gytundeb newydd wedi'u cynnal, fod Llywodraeth Cymru, serch hynny, wedi bodloni'r gofyniad yn y cytundeb gwreiddiol ac wedi cyflwyno adroddiad blynyddol ar 28 Medi, sy'n ganmoladwy, ac i'w groesawu.

Mae'r cytundeb yn sefydlu tair egwyddor a fydd yn llywodraethu'r berthynas rhwng y Senedd a Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chysylltiadau rhynglywodraethol. Yr egwyddorion hyn yw tryloywder, atebolrwydd a pharch at y rhan y mae'n rhaid i drafodaethau cyfrinachol ei chwarae rhwng llywodraethau. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod prif ddiben y Senedd o graffu ar weithgarwch Llywodraeth Cymru. Yn gyfnewid am hynny, fel rydym ni yn y Senedd yn amlwg yn cydnabod, bydd angen trafodaeth rynglywodraethol gyfrinachol weithiau rhwng Llywodraethau'r DU. Felly, mae'r cytundeb yn ceisio sicrhau bod egwyddorion atebolrwydd Llywodraeth Cymru i'r Senedd, a thryloywder yng nghyd-destun y berthynas hon, bellach wedi'u cynnwys yn y cysylltiadau a systemau rhynglywodraethol.

Hoffwn dynnu sylw'r Senedd hefyd at ymrwymiad pellach gan y Prif Weinidog sydd wedi'i gynnwys yn ein hadroddiad ar y cytundeb. Mae'r ymrwymiad hwn yn adeiladu ar brotocol a oedd ar waith rhwng y pwyllgor a'n rhagflaenodd a Llywodraeth Cymru yn y pumed Senedd. Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno yn awr y bydd Llywodraeth Cymru yn ysgrifennu at fy mhwyllgor ac at bwyllgorau perthnasol eraill y Senedd i'n hysbysu am unrhyw fwriad i roi cydsyniad i Lywodraeth y DU arfer pŵer deddfwriaethol dirprwyedig mewn maes a ddatganolwyd i Gymru ac unwaith eto, mae hyn yn wirioneddol glodwiw. A lle mae amser yn caniatáu, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i roi cyfle i'r Senedd fynegi barn cyn rhoi cydsyniad. At hynny, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno datganiad mewn perthynas ag arfer pob pŵer deddfwriaethol dirprwyedig gan un o Weinidogion y DU mewn maes datganoledig y mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi cydsyniad iddo, gan egluro'r sail resymegol dros y cydsyniad hwnnw, a gwneir hyn fel arfer o fewn tri diwrnod gwaith i ddyddiad gosod gerbron neu hysbysu Senedd y DU.

Felly, er y bydd fy mhwyllgor yn parhau i arwain ar fonitro gweithrediad y cytundeb a chydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru â'i delerau, byddwn yn annog pwyllgorau eraill y Senedd i ymgyfarwyddo ag ef, a'r goblygiadau a'r manteision posibl i'w gwaith craffu. Ac a gaf fi, wrth gloi, ddiolch i aelodau fy mhwyllgor, fy nghyd-Aelodau ar y pwyllgor, am eu diwydrwydd yn y mater hwn, a'r tîm clercio hefyd sydd wedi bod yn rhagorol yn hyn o beth, ond hefyd, diolch i Lywodraeth Cymru am y ffordd y maent wedi gweithio gyda ni i gyflwyno'r cytundeb hwn? Diolch yn fawr iawn. 

Photo of Peter Fox Peter Fox Conservative 4:12, 15 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

I gadarnhau, bydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r cynnig sydd ger ein bron heddiw, a siaradaf yn y ddadl hon heddiw fel rhywun sy'n aelod o'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Yn hynny o beth, a gaf fi ddiolch i'r Cadeirydd am ei ddatganiad agoriadol, ond hefyd am ei arweiniad i'r pwyllgor? Mae'n wych gweithio gyda chi, Huw. Yn aml, mae cysylltiadau rhynglywodraethol a rhyng-sefydliadol yn bethau cymhleth a dryslyd. Mae nifer y strwythurau sydd ar waith a natur y trafodaethau a gynhelir o'u mewn yn gallu gwneud pethau'n anodd eu dilyn, hyd yn oed i ni yma yn y Siambr, heb sôn am aelodau'r cyhoedd. Gall ychwanegu pethau fel Brexit, y pandemig a'r nifer helaeth o gytundebau a deddfau wneud i'r lle hwn deimlo fel pe bai'n cael ei adael ar ôl ar adegau, nid yn fwriadol, ond weithiau mae bron fel pe baem yn ceisio dal ein cynffon braidd.

A dyma pam y credaf fod y cytundeb hwn rhwng Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru yn bwysig. Mae'r Senedd hon bob amser wedi parchu craffu ac atebolrwydd, ac mae'r cytundeb hwn yn gam ymlaen i'r cyfeiriad cywir. Tra'n sicrhau bod y trefniadau cyfrinachedd angenrheidiol ar waith, mae'n sicrhau ei bod yn ofynnol i Weinidogion Cymru hysbysu'r lle hwn pan fydd Gweinidogion y DU yn arfer cymwyseddau datganoledig. Mae hyn yn ein galluogi i graffu ar benderfyniadau a gwella tryloywder y Llywodraeth.

Yr hyn rwyf am ei ddweud, fodd bynnag, yw bod yn rhaid inni fod yn fwy ymwybodol o'r ffordd rydym yn ymwneud â thrafodaethau am gysylltiadau rhynglywodraethol. Gwn y gall pethau fod yn anodd a gallant fod ychydig yn straenllyd, ac mae pethau gan bob Llywodraeth y gellir eu gwneud yn well. Ond yn rhy aml, gallwn gael ein rhwydo gan wleidyddiaeth a rhethreg, yn hytrach na sut y gallwn gydweithio i gyflawni ein nodau cyffredin, ac mae mwy o'r nodau hyn nag y mae rhai yn y Siambr hon yn ei gredu o bosibl. Dylai adfer o'r pandemig fod ar y blaen ym mhopeth y dylai Llywodraethau o bob lliw ganolbwyntio arnynt, ac mae'n iawn ein bod ni yng Nghymru yn ceisio ymgysylltu'n adeiladol â phartneriaid o bob rhan o'r DU, a bod y lle hwn yn cefnogi ac yn herio'r gwaith hwn.

Lywydd, rwy'n cloi fy nghyfraniad drwy groesawu'r cyfle i gael dadl y prynhawn yma, a diolch unwaith eto i'r Cadeirydd am ei chyflwyno. Diolch.

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 4:14, 15 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Rwy'n croesawu'r cytundeb hwn rhwng y Senedd a Llywodraeth Cymru. Ar adeg pan fo cysylltiadau rhynglywodraethol yn aml yn wael iawn a dweud y lleiaf, mae mor bwysig fod y Senedd yn gwbl ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd. Rwy'n gobeithio y gall y Senedd gydweithredu â Llywodraeth Cymru i geisio gwella cysylltiadau rhynglywodraethol.

Fel y soniais ddoe yn y ddadl ar ddiogelwch tân, pobl Cymru sy'n dioddef pan fydd y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn chwalu. Fe welsom yn ddiweddar, oni wnaethom, yn y Sianel, y canlyniadau trasig pan fydd dwy Lywodraeth yn rhoi gwleidyddiaeth o flaen pobl. Nid wyf am weld ail Dŵr Grenfell yn digwydd ym Mae Caerdydd nac yn Abertawe tra bo gwleidyddion yn dal i gecru ynglŷn â phwy sy'n talu am waith diogelwch tân. Nid wyf eisiau gweld ail Aberfan yn digwydd tra bo gwleidyddion yn gwleidyddoli tomenni glo yn hytrach na bwrw ati i glirio'r creithiau hyn o'n tirweddau.

Fel y soniodd Huw Irranca-Davies, gall cysylltiadau rhynglywodraethol ymddangos yn bwnc sych. Nid wyf yn disgwyl i Aelodau ddangos llawer o ddiddordeb mewn cytundebau rhynglywodraethol ffurfiol, fframweithiau cyffredin, concordatiau, memoranda neu benderfyniadau eraill. Ond maent yn adlewyrchu'r berthynas rhwng Llywodraethau, boed yn adeiladol, yn rhwystrol neu hyd yn oed yn ddinistriol ar adegau. Mae hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl Cymru. Felly rwy'n croesawu'r cytundeb hwn, oherwydd mae'n rhoi dau gonglfaen ein democratiaeth i ni yn y Senedd: tryloywder ac atebolrwydd. Bydd yn creu mwy o dryloywder ac felly'n galluogi craffu pellach—ein rôl bwysicaf fel Aelodau anllywodraethol o'r Senedd, fel y pwysleisiodd Alun Davies yn gwbl briodol yn y ddadl ddiwethaf.

Mae'r cytundeb hwn yn ymdrin â memoranda cyd-ddealltwriaeth. Fel y gŵyr yr Aelodau, nid yw'r rhain yn rhwymo'r Llywodraeth bresennol, heb sôn am Lywodraethau olynol. Dônt i fodolaeth heb unrhyw graffu go iawn, ac yn aml dylent fod mewn darn o ddeddfwriaeth yn hytrach nag mewn cytundeb nad yw'n rhwymol rhwng dwy weithrediaeth. Dyna pam ei bod mor bwysig fod y Llywodraeth yn dryloyw ynglŷn â'u bodolaeth a bod cyfle i herio eu cynnwys. Fel rhan o'r cytundeb hwn, rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynnal tudalen bwrpasol ar ei gwefan ei hun yn darparu'r holl gytundebau rhynglywodraethol ffurfiol perthnasol o bob math sydd ar waith rhyngddynt hwy a Llywodraeth y DU. Nid wyf am funud yn dychmygu y bydd y traffig i'r dudalen honno'n uchel, ond mae'n bwysig eu bod yno. Mae'n bwysig eu bod yn hygyrch.

Rwy'n falch fod y cytundeb hwn yn rhoi cyfle i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, a Llywodraeth Cymru, awgrymu gwelliannau i'r cytundeb yn ystod y Senedd hon. Gall cysylltiadau rhynglywodraethol newid yn gyflym iawn, ac rwy'n mawr obeithio y bydd pethau'n gwella pan fydd Llywodraeth San Steffan yn sylweddoli o'r diwedd nad yw eu hundeboliaeth gyhyrol yn cyflawni dim. Rwyf hefyd yn falch o'r ymrwymiad ym mharagraff 16 o'r cytundeb, os yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu sefydlu trefniadau newydd gyda'r nod o gyrraedd cytundeb rhynglywodraethol, y bydd yn rhoi rhybudd digonol ymlaen llaw i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad.

Mae'r ymrwymiad ychwanegol gan y Prif Weinidog ar hysbysu'r Senedd pan fydd Llywodraeth Cymru yn cydsynio a phan fydd wedi cydsynio i Lywodraeth y DU arfer pŵer dirprwyedig mewn maes datganoledig mor bwysig, er mwyn iddo fod yn offeryn monitro go iawn ar gyfer y Senedd. Rydym newydd glywed yn y ddadl am y cynnydd mewn cynigion cymhwysedd deddfwriaethol ar gyfer deddfwriaeth sylfaenol. Mae hefyd yn bwysig monitro a chraffu i ba raddau y mae cydsyniad yn cael ei roi i is-ddeddfwriaeth. Mater yw hwn y bydd y pwyllgor o dan gadeiryddiaeth Huw Irranca-Davies—. Ac rwyf am adleisio'r hyn a ddywedodd Peter Fox am ei gadeiryddiaeth o'r pwyllgor; rydym yn ffodus iawn i'w gael fel Cadeirydd. Byddwn yn arwain ar hyn. Ond fel y dywedais yn y ddadl ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol, rwy'n gobeithio y bydd Aelodau eraill yn dangos diddordeb ac yn dod yn gyfarwydd â'r hyn sy'n digwydd, oherwydd mae'n effeithio ar ein democratiaeth yng Nghymru ac felly mae'n effeithio ar y bobl rydym yn eu gwasanaethu.

Felly, Ddirprwy Lywydd, dyna ddiwedd fy ail bregeth—efallai y tro hwn heb y tân a'r brwmstan—a byddwn yn hapus iawn i groesawu'r Cwnsler Cyffredinol i fy nghapel Cymraeg ar unrhyw adeg gyfleus, i'r gwasanaeth carolau heno efallai. Diolch yn fawr.

Photo of David Rees David Rees Labour 4:19, 15 Rhagfyr 2021

Galwaf ar y Trefnydd, Lesley Griffiths.

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r cynnig. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i egwyddorion bod yn agored ac yn dryloyw y seilir y cytundeb newydd arnynt, a chefnogi rôl graffu'r Senedd. Rydym o ddifrif ynglŷn â'n rhwymedigaethau mewn perthynas â chyflawni ein cyfrifoldebau o dan y cytundeb. 

Rydym yn parhau i ddiweddaru ac adrodd i'r Senedd ar ein cysylltiadau, ein hymgysylltiad a'n gwaith ar y cyd â Llywodraethau eraill y Deyrnas Unedig, yn ogystal â'n partneriaid yn y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, yn union fel y gwnaethom barhau i gynnal ein rhwymedigaethau tra bod gwaith ar y cyd ar gytundeb newydd yn parhau. Er enghraifft, yn gynharach yn nhymor yr hydref, rhannodd y Prif Weinidog adroddiad cysylltiadau rhynglywodraethol blynyddol ar gyfer 2020-21 gydag Aelodau'r Senedd. Cyflawnodd yr adroddiad un o'n hymrwymiadau yn y cytundeb gan Lywodraeth Cymru y cytunwyd arno yn ystod tymor blaenorol y Senedd. Mae enghreifftiau eraill yn cynnwys datganiad gan y Prif Weinidog ar gyfarfod rhynglywodraethol gyda Phrif Weinidog y DU a Phrif Weinidogion y gwledydd datganoledig, a datganiad ar uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig a gynhaliwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru.

Hefyd, hoffwn gofnodi'r hyn a nodwyd mewn gohebiaeth â'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad eisoes, gyda'r Prif Weinidog yn cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn ysgrifennu at y pwyllgor a phwyllgorau perthnasol eraill i'w hysbysu o fwriad i gydsynio i Lywodraeth y DU arfer pŵer deddfwriaethol dirprwyedig mewn maes datganoledig mewn perthynas â Chymru, gan egluro sail resymegol dros y bwriad i gydsynio. Pan fydd amser yn caniatáu, byddwn yn rhoi cyfle i'r Senedd fynegi barn cyn rhoi cydsyniad yn ffurfiol.

Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig bob tro y bydd Gweinidogion Cymru wedi cydsynio i Weinidog Llywodraeth y DU arfer pŵer deddfwriaethol dirprwyedig mewn maes datganoledig, gan egluro'r sail resymegol dros y cydsyniad hwnnw fel arfer o fewn tri diwrnod gwaith i ddyddiad gosod gerbron neu hysbysu Senedd y DU. Mae datganiadau'r Prif Weinidog a'r adroddiad cysylltiadau rhynglywodraethol blynyddol yn dyst i bwysigrwydd tryloywder, craffu ac atebolrwydd. Bydd y Prif Weinidog yn rhoi gwybod i chi am yr adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol yn ysbryd y cytundeb rydym yn ei drafod ac yn dadlau yn ei gylch heddiw.

O ran cysylltiadau â Llywodraeth y DU, mae cydweithredu a chydweithio'n dal yn bosibl ac mae ymgysylltiad ar yr ymateb i'r pandemig ac adfer yn ei sgil ac ar agweddau gweithredol gadael yr UE yn dangos hyn yn glir. Fodd bynnag, byddai hyn yn well gydag ymgysylltu parchus, rheolaidd a dibynadwy drwy systemau rhynglywodraethol diwygiedig a chadarn. Rydym yn dal yn obeithiol y bydd yr adolygiad ar y cyd yn gwella'r modd y cynhelir cysylltiadau rhynglywodraethol. Er ein bod yn wynebu perthynas heriol iawn â Llywodraeth y DU, gall creu systemau rhynglywodraethol mwy strwythuredig gyda mwy o barch cydradd a chyfranogiad fod yn gamau pwysig a chadarnhaol. Ers yr etholiad ym mis Mai, rydym wedi bod yn sefydlu ac yn ailsefydlu perthynas â Gweinidogion yng nghyd-destun ein rhaglen lywodraethu, ac yn ail-lunio cysylltiadau yng ngoleuni datblygiadau gwleidyddol ledled y DU.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gryfhau tryloywder cysylltiadau rhynglywodraethol a bydd yn parhau i weithredu yn unol â'r cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol. Diolch.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:23, 15 Rhagfyr 2021

Galwaf ar Huw Irranca-Davies i ymateb i'r ddadl.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl bwysig hon y prynhawn yma. Mae'n dda gweld bod gennym gonsensws ar fater mor bwysig â'r cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol a gweithio rhynglywodraethol. Mae'n hanfodol bwysig ein bod yn craffu'n dda yma yn y Senedd ar y tryloywder a'r atebolrwydd a grybwyllwyd fel dwy o'r tair egwyddor, ond hefyd ein bod yn parchu—ein bod yn rhoi lle i gyfrinachedd trafodaethau pan fo angen rhwng Llywodraethau hefyd.

Rwy'n croesawu'n fawr ymrwymiad y Gweinidog nid yn unig i gyflwyno'r cytundeb, ond hefyd i wneud i'r cytundeb weithio, a bydd ein pwyllgor yn awyddus i weithio gyda'r Llywodraeth i weld hynny'n digwydd ar ran y Senedd. I'r holl gyfranwyr heddiw ac i aelodau fy mhwyllgor, diolch yn fawr iawn. I'r Llywodraeth, edrychwn ymlaen at weithio gyda chi ar hyn a'i weld yn gwreiddio'n gadarn iawn, oherwydd mae cael y cytundebau ar waith yn un peth, mae gwneud iddynt weithio yn fater arall. Rydym yn ymwybodol iawn hefyd, Lywydd, y tu ôl i'r llenni, er gwaethaf y ddadl gynharach heddiw, fod peth gwaith da iawn yn digwydd ar sail rynglywodraethol ac mae'r cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol hwn yn caniatáu i'r Senedd gael golwg dda ar yr hyn sy'n digwydd ac i wneud sylwadau ac i graffu ar hynny hefyd. Felly, diolch yn fawr iawn i bawb. Diolch yn fawr am y cyfle i ddod â hyn i sylw'r Senedd.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:25, 15 Rhagfyr 2021

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? Dwi ddim yn gweld gwrthwynebiad. Felly, mi wnawn ni dderbyn y cynnig yn unol a Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.