7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar y Cytundeb Cysylltiadau Rhyng-sefydliadol rhwng Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:07 pm ar 15 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 4:07, 15 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Er bod fy mhwyllgor, gan adeiladu ar waith y pwyllgor a'i rhagflaenodd, wedi arwain ar hyn, mae'r cytundeb yn cynrychioli'r safbwynt y cytunwyd arno ar y wybodaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei darparu i'r Senedd gyfan mewn perthynas â chyfranogiad Gweinidogion Cymru mewn cyfarfodydd rhynglywodraethol ffurfiol ar lefel weinidogol, y cytundebau, y concordatau, a'r memoranda cyd-ddealltwriaeth. Mae gwybodaeth o'r fath yn dod yn fwyfwy hanfodol i ni fel Aelodau o'r Senedd ar gyfer monitro a deall gwaith Gweinidogion Cymru yng nghyd-destun y DU.

Nawr, fel y soniais yn fyr, argymhellodd ein pwyllgor rhagflaenol yn y pumed Senedd i Lywodraeth Cymru y dylai ymrwymo i gytundeb a fyddai'n cefnogi gwaith craffu'r Senedd ar Lywodraeth Cymru yn ei hymwneud rhynglywodraethol. Roedd Llywodraeth Cymru'n cytuno, a bydd rhai o'r Aelodau'n gwybod bod iteriad cyntaf y cytundeb hwn wedi'i sefydlu a'i nodi'n ffurfiol gan y pumed Senedd ym mis Mawrth 2019.

Un o'r pethau cyntaf a wnaeth ein pwyllgor, yn fuan iawn ar ôl ymffurfio, oedd mynd ati i sefydlu cytundeb newydd gyda Llywodraeth Cymru a oedd yn addas i'r diben yn ein chweched Senedd. Rwy'n falch iawn fod y Prif Weinidog yr un mor agored i barhad y cytundeb, a'n bod wedi gallu dod â'r fersiwn newydd hon i'r Senedd cyn i 2021 ddod i ben. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hefyd i nodi ar gyfer y cofnod, er bod trafodaethau ar gytundeb newydd wedi'u cynnal, fod Llywodraeth Cymru, serch hynny, wedi bodloni'r gofyniad yn y cytundeb gwreiddiol ac wedi cyflwyno adroddiad blynyddol ar 28 Medi, sy'n ganmoladwy, ac i'w groesawu.

Mae'r cytundeb yn sefydlu tair egwyddor a fydd yn llywodraethu'r berthynas rhwng y Senedd a Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chysylltiadau rhynglywodraethol. Yr egwyddorion hyn yw tryloywder, atebolrwydd a pharch at y rhan y mae'n rhaid i drafodaethau cyfrinachol ei chwarae rhwng llywodraethau. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod prif ddiben y Senedd o graffu ar weithgarwch Llywodraeth Cymru. Yn gyfnewid am hynny, fel rydym ni yn y Senedd yn amlwg yn cydnabod, bydd angen trafodaeth rynglywodraethol gyfrinachol weithiau rhwng Llywodraethau'r DU. Felly, mae'r cytundeb yn ceisio sicrhau bod egwyddorion atebolrwydd Llywodraeth Cymru i'r Senedd, a thryloywder yng nghyd-destun y berthynas hon, bellach wedi'u cynnwys yn y cysylltiadau a systemau rhynglywodraethol.

Hoffwn dynnu sylw'r Senedd hefyd at ymrwymiad pellach gan y Prif Weinidog sydd wedi'i gynnwys yn ein hadroddiad ar y cytundeb. Mae'r ymrwymiad hwn yn adeiladu ar brotocol a oedd ar waith rhwng y pwyllgor a'n rhagflaenodd a Llywodraeth Cymru yn y pumed Senedd. Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno yn awr y bydd Llywodraeth Cymru yn ysgrifennu at fy mhwyllgor ac at bwyllgorau perthnasol eraill y Senedd i'n hysbysu am unrhyw fwriad i roi cydsyniad i Lywodraeth y DU arfer pŵer deddfwriaethol dirprwyedig mewn maes a ddatganolwyd i Gymru ac unwaith eto, mae hyn yn wirioneddol glodwiw. A lle mae amser yn caniatáu, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i roi cyfle i'r Senedd fynegi barn cyn rhoi cydsyniad. At hynny, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno datganiad mewn perthynas ag arfer pob pŵer deddfwriaethol dirprwyedig gan un o Weinidogion y DU mewn maes datganoledig y mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi cydsyniad iddo, gan egluro'r sail resymegol dros y cydsyniad hwnnw, a gwneir hyn fel arfer o fewn tri diwrnod gwaith i ddyddiad gosod gerbron neu hysbysu Senedd y DU.

Felly, er y bydd fy mhwyllgor yn parhau i arwain ar fonitro gweithrediad y cytundeb a chydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru â'i delerau, byddwn yn annog pwyllgorau eraill y Senedd i ymgyfarwyddo ag ef, a'r goblygiadau a'r manteision posibl i'w gwaith craffu. Ac a gaf fi, wrth gloi, ddiolch i aelodau fy mhwyllgor, fy nghyd-Aelodau ar y pwyllgor, am eu diwydrwydd yn y mater hwn, a'r tîm clercio hefyd sydd wedi bod yn rhagorol yn hyn o beth, ond hefyd, diolch i Lywodraeth Cymru am y ffordd y maent wedi gweithio gyda ni i gyflwyno'r cytundeb hwn? Diolch yn fawr iawn.