Part of the debate – Senedd Cymru am 4:32 pm ar 15 Rhagfyr 2021.
Rwyf am ddechrau gyda chyfaddefiad. Pan alwais i a fy nghyd-Aelodau Plaid Cymru am yr ymchwiliad cyhoeddus i’r pandemig yng Nghymru yn ystod misoedd cyntaf y pandemig, efallai na nodais rywbeth yn ddigon clir: pan nododd y Llywodraeth eu bod hwythau hefyd yn cefnogi ymchwiliad, tybiais yn anghywir eu bod hwy, fel finnau, yn cyfeirio at ymchwiliad penodol i Gymru. A phan eglurodd y Llywodraeth eu bod mewn gwirionedd yn cefnogi ymchwiliad ar gyfer y DU gyfan a chynnwys ystyriaeth o'r hyn a ddigwyddodd yng Nghymru fel rhan o'r ymchwiliad ar gyfer y DU gyfan yn unig, roeddwn yn meddwl i gychwyn fy mod wedi camglywed, ond nid oeddwn wedi camglywed. Eglurwyd yn ddiweddarach fod Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at bennod, neu benodau, ar Gymru mewn darn o waith ar gyfer y DU gyfan. Pam y rhagdybiais hynny? Oherwydd yn fy meddwl i, roedd hi mor amlwg fod yn rhaid inni gael ymchwiliad sy'n ymroi'n llwyr i ystyried beth ddigwyddodd yma.
Dewisodd Cymru ddatganoli fel y gallem ddechrau ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb am ein dyfodol ein hunain—i aeddfedu fel cenedl. Tyfodd y gefnogaeth gychwynnol fain honno o blaid sefydlu'r Cynulliad yn gefnogaeth aruthrol o blaid deddfu llawn. Bellach, mae gennym Senedd—Senedd Cymru, ac mae Llywodraeth a ffurfir ohoni'n cael y fraint o'n harwain drwy unrhyw gyfnodau anodd y gallem eu hwynebu fel cenedl.
Her COVID, wrth gwrs, yw'r her fwyaf o bell ffordd a wynebwyd gan unrhyw Lywodraeth Cymru, ac yn sicr, gallwn wneud rhai sylwadau cyffredinol am weithredoedd Llywodraeth Cymru wrth fynd i'r afael â'r her honno. Heb os, mae wedi bod o ddifrif ynglŷn â'i dyletswyddau. Mae wedi gwneud ei gorau gyda chywirdeb, yn fy marn i, i geisio cyflawni'r canlyniadau gorau i bobl Cymru. Yna, gallwn graffu ar elfennau penodol o'i gweithredoedd. Mae wedi gwneud llawer o bethau'n dda. Mae wedi gwneud camgymeriadau hefyd. Mae wedi gweithredu'n gyflym ar brydiau. Mae wedi llusgo'i thraed ar adegau eraill. Ar brydiau, mae wedi manteisio ar ein gallu i fod yn ystwyth fel cenedl fach. Ar adegau eraill, mae wedi methu achub ar rai cyfleoedd. Mae rhai pethau y byddem yn dymuno'u hailadrodd gyda mwy fyth o frwdfrydedd, pe baem yn wynebu her o'r fath eto, a phethau eraill, heb os, y byddem am eu hosgoi. Mae rhai penderfyniadau wedi achub bywydau, ac mae eraill wedi achosi risgiau diangen. Nawr, mae hynny oll, mewn sawl ffordd, yn anochel. Mae wedi bod yn oddeutu 21 mis o benderfyniadau anodd a phwysau di-baid ar y Llywodraeth ac ar Weinidogion, ond un peth nad oes unrhyw amheuaeth yn ei gylch yw bod yn rhaid inni ddysgu. Byddwn yn wynebu heriau tebyg eto. Rhai anoddach fyth, o bosibl. Efallai y bydd hynny yn ystod ein hoes ni, efallai na fydd, ond ni yw'r rhai, y funud hon, a all sicrhau ein bod yn gwneud popeth a allwn yn ein hymdrech i ddod o hyd i atebion.
Pan alwais i a fy nghyd-Aelodau Plaid Cymru am sefydlu ymchwiliad yn gynnar, dywedwyd wrthym y byddai'n tynnu sylw oddi ar y gwaith o fynd i'r afael â'r pandemig. Yr hyn sy'n tynnu sylw oddi ar yr ymdrech i sicrhau ein bod yn dysgu'r gwersi gorau posibl yw treigl amser. Fe wnaethom ddadlau y gellid penodi cadeirydd fan lleiaf. Efallai y gellid rhoi fframweithiau ar waith. Gellid dechrau casglu tystiolaeth tra bo'r atgofion yn dal i fod yn fyw, mewn amser real, mewn ffyrdd nad oeddent yn torri ar draws y gwaith o ymladd y pandemig. A dyma ni, yn wynebu ail Nadolig mewn pandemig, a thrwy gydgysylltu ein hunain ag ymchwiliad y DU, nid oes gennym amserlen o hyd. Nid oes gennym hanfodion ymchwiliad go iawn hyd yn oed. Mae'n parhau i fod yn ymrwymiad mewn egwyddor, tra bo cwestiynau go iawn heb eu hateb ynghylch cymaint o feysydd: profi, cartrefi gofal, ymyrraeth gynnar, cyfarpar diogelu personol, brechu, awyru, cau ysgolion, digwyddiadau mawr, ymweliadau â chartrefi gofal, y rhestr warchod, gwisgo masgiau, iechyd meddwl, cymorth economaidd a llawer mwy.
Bydd cyd-Aelodau ar draws y Siambr, rwy'n siŵr, yn canolbwyntio ar wahanol elfennau. Ym mhob un o'r meysydd hyn, ein profiadau: colli anwyliaid, dioddef afiechyd, gweithio ym maes iechyd a gofal a sectorau allweddol eraill, colli addysg, busnesau dan bwysau—digwyddodd y cyfan yng nghyd-destun penderfyniadau a wnaed yng Nghymru, a bydd persbectif yn allweddol os ydym am gael atebion gonest. Drwy ddiffiniad, ni fydd ymchwiliad y DU yn edrych ar bethau o bersbectif Cymreig. Efallai y bydd yn ystyried, o'r tu allan, yr hyn a ddigwyddodd yng Nghymru, ond ni fydd ganddo bersbectif Cymreig. Efallai y bydd yn ystyried y rhyngweithio rhwng penderfyniadau mewn gwahanol rannau o'r DU, ond ni fydd yn ystyried y rhyngweithio hwnnw o bersbectif Cymreig.
Lywydd, i gloi, byddwn yn cefnogi cynnig y Ceidwadwyr heddiw, er fy mod, ar yr un pryd, mae'n rhaid imi ddweud, yn gresynu'n fawr at natur gweithredoedd Llywodraeth Geidwadol y DU mewn perthynas â'r pandemig mewn cymaint o ffyrdd. Ac rydym yn gwrthod gwelliant Llywodraeth Cymru. Nid yw dweud eich bod wedi cael sicrwydd gan Lywodraeth y DU, eich bod wedi cael y sicrwydd rydych yn ei geisio gan Brif Weinidog y DU, yn ddigon da. Heb amheuaeth, mae'r ffordd y mae Prif Weinidog y DU ei hun wedi tanseilio ymddiriedaeth pobl drwy ei weithredoedd dro ar ôl tro, yn tanseilio ein hymddiriedaeth ni ymhellach y byddai ymchwiliad ar gyfer y DU gyfan yn rhoi'r ateb y mae Cymru'n chwilio amdano. Rydym bellach yn gwneud penderfyniadau drosom ein hunain yng Nghymru drwy Lywodraeth Cymru, a hynny'n briodol. Rydym yn croesawu hynny fel cenedl, ac mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru groesawu'r craffu mwyaf manwl.