Part of the debate – Senedd Cymru am 5:00 pm ar 15 Rhagfyr 2021.
Mae'n rhaid imi ddweud bod hon yn un o'r dadleuon anoddaf y gall unrhyw un ohonom gyfrannu ati yn ôl pob tebyg, a chyn imi wneud fy nghyfraniad, hoffwn wneud apêl i'r Prif Weinidog a'i Gabinet: hanner Aelodau'r Senedd yn ôl y sôn fydd yn galw am hyn, ond mae cynifer o bobl yn galw am yr ymchwiliad hwn, felly byddwch yn barod i sefyll dros eich egwyddorion, a gadewch i ni gael ymchwiliad os gwelwch yn dda.
Roeddwn yn meddwl o ddifrif, o ddechrau'r pandemig, y byddai ymchwiliad yn digwydd yn awtomatig. Nid oeddwn yn meddwl y byddwn yn eistedd yma heno yn ymbil ar y Prif Weinidog i wneud hyn. Ond roedd hyd yn oed yn fwy trist pan gyfarfûm â Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru yn y Senedd y mis diwethaf, ac roedd eu straeon torcalonnus am golled bersonol, galar a chaledi unwaith eto'n amlygu ac yn tanlinellu eu hymbil taer am atebion.
Felly, gadewch imi fod yn glir: drwy ei chefnogaeth ddiysgog i ymchwiliad pedair gwlad gan Lywodraeth y DU, mae Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd yn amddifadu'r cyhoedd yng Nghymru o atebion ynghylch y penderfyniadau a wnaeth ar ei phen ei hun. Mae rhai wedi awgrymu mai ffordd y Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru o arddangos eu grym oedd y penderfyniadau hynny. Y cyfan rwy'n ei wybod yw hyn, roedd yna adegau pan oeddem fel pe baem yn crwydro i gyfeiriad gwahanol yma. Cafwyd dull anhrefnus o lacio cyfyngiadau symud, yn amrywio o'r rheol pum milltir anghredadwy, a fethodd gydnabod realiti cefn gwlad Cymru, i gael gwared yn sydyn ar y cyfyngiadau symud yn llwyr yng Nghymru ar ôl y cyfnod atal byr. Mae gwrthod yr ymchwiliad hwn yn golygu na allwn werthuso effaith dulliau cyfyngu penodol, ac mae'n eironig ein bod yn gofyn yn awr am yr ymchwiliad hwn ar ddechrau cyfnod dieithr arall yn y pandemig.
Wrth i nifer y bobl sy'n mynd i ysbytai yng Nghymru ar gyfer triniaeth canser ostwng dros 40,000, a chyda Llywodraeth Cymru yn gwrthod bod yn rhan o borth profi Llywodraeth y DU, gan ddweud y byddech yn datblygu un eich hun, dim ond i gael gwared ar y syniad lai na mis yn ddiweddarach, drwy wrthod yr ymchwiliad hwn, nid yw Cymru bellach yn gallu bwrw ymlaen ag unrhyw baratoadau pandemig newydd. O ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi postio mwy na 13,000 o lythyrau gwarchod i'r cyfeiriadau anghywir ym mis Ebrill a mis Mai 2020, a bod hyn wedi'i waethygu ymhellach pan gafodd manylion mwy na 18,000 o unigolion eu postio'n ddamweiniol ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae gwrthod yr ymchwiliad hwn yn golygu na allwn ddeall yn llawn y rhesymeg a oedd yn sail i'r dewisiadau a wnaed ar y pryd. Gwyddom y byddai cynnal ymchwiliad cyhoeddus sy'n benodol i Gymru o fudd i Lywodraeth Cymru mewn gwirionedd. Ymhell o fod yn droednodyn yn nogfen ymchwiliad mwy y DU, fel y mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi dweud yn glir, bydd cynnal ymchwiliad cyhoeddus sy'n benodol i Gymru yn sicrhau bod y panel yn deall yn union beth aeth o'i le, pryd aeth o'i le, a sut y gallant wneud gwahaniaeth mewn gwirionedd.
Hyd heddiw, mae gennyf fusnesau lletygarwch sy'n pryderu y byddwch unwaith eto'n penderfynu gwahardd gwerthu alcohol mewn tafarndai, cyfyngiad anghymesur a niweidiodd y diwydiant, yn enwedig ym mis Rhagfyr, lle gall busnesau bellach wneud hyd at 25 y cant o'u trosiant blynyddol. Mae gennyf etholwyr sy'n parhau i fod yn ddryslyd ynghylch yr oedi cyn profi a rhyddhau cleifion o'r ysbyty i gartrefi gofal yn ogystal â'r oedi cyn ymuno ag ap profi ac olrhain y GIG. Cymru bellach sydd â'r nifer fwyaf o farwolaethau yn y DU gyfan, gyda chyfradd farwolaethau o 282 ym mhob 100,000. Drwy guddio y tu ôl i ymchwiliadau i benderfyniadau Llywodraeth y DU ar COVID-19, mae Llywodraeth Cymru yn tanseilio ein gallu i ystyried, cofio a pharatoi ar gyfer yr hyn sydd i ddod nesaf. Lywydd, atebolrwydd yw conglfaen unrhyw ddemocratiaeth. Rwy'n ymuno â chyd-Aelodau yn y Siambr hon a thrigolion o bob rhan o Gymru sydd wedi colli teuluoedd i annog Llywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i'r pandemig COVID yng Nghymru. Diolch.