8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i bandemig COVID-19 yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:56 pm ar 15 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Davies Gareth Davies Conservative 4:56, 15 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Fel y dywed y comisiynydd pobl hŷn, yn gwbl gywir:

'Bydd cynnal Ymchwiliad Cyhoeddus penodol i Gymru yn sicrhau bod y Cadeirydd a’r panel a fydd yn gyfrifol am yr Ymchwiliad yn deall datganoli a nodweddion diwylliannol a gwleidyddol arbennig Cymru, yn ogystal â chynrychioli amrywiaeth ein gwlad a bod yn hygyrch mewn ffordd na allai un Ymchwiliad ar gyfer pob rhan o’r DU fod.'

Dyna pam fod yn rhaid inni wrthod gwelliant Llywodraeth Cymru i'r ddadl hon a gwrthod eu safbwynt ar y mater hwn. Gwnaeth Llywodraeth Cymru benderfyniadau a'n harweiniodd ar hyd llwybr gwahanol i Loegr ac at un o'r cyfraddau marwolaeth COVID uchaf yn y byd. Roedd gennym Lywodraeth dan arweiniad Prif Weinidog Cymru a wrthododd dderbyn y dystiolaeth ar fasgiau wyneb am fisoedd, er bod tystiolaeth yn dangos eu heffeithiolrwydd wrth wrthsefyll lledaeniad Syndrom Anadlol Acíwt Difrifol a Syndrom Anadlol y Dwyrain Canol. Gwrthododd y Prif Weinidog gyflwyno eu defnydd yng Nghymru, ac wrth gael ei holi, dywedodd y Prif Weinidog, 'Nid ydynt ar waelod fy rhestr, nid ydynt hyd yn oed ar fy rhestr.' Faint o fywydau a gollwyd o ganlyniad i amharodrwydd y Prif Weinidog i wrando ar y dystiolaeth?

Caniatawyd i feirws SARS-CoV-2 ledaenu'n ddirwystr i raddau helaeth, gan arwain at niferoedd mwy o achosion a oedd angen triniaeth ysbyty, gan roi pwysau yn ei dro ar benaethiaid iechyd i symud cleifion allan o'r GIG ac i gartrefi gofal. Dyma pryd y gwnaeth Llywodraeth Cymru ei chamgymeriad mwyaf a mwyaf difrifol, drwy beidio â phrofi cleifion a'u gosod dan gwarantin cyn eu symud i gartrefi gofal. Caniataodd Llywodraeth Cymru i COVID-19 ledaenu'n ddirwystr i'r sector gofal. Faint o drigolion a staff y sector cartrefi gofal a fu farw o ganlyniad i fethiannau'r Llywodraeth hon? Mae eu methiannau wedi peryglu ein dinasyddion mwyaf agored i niwed a, heb os, wedi cyfrannu at farwolaethau cynifer o bobl. Sefydlwyd ysbytai maes ledled y wlad, ac yn hytrach na'u defnyddio i gadw cleifion agored i niwed yn ddiogel rhag y feirws, prin y gwnaed defnydd ohonynt o gwbl.

Caniatawyd i gleifion â COVID gymysgu â chleifion agored i niwed, gan ganiatáu i heintiau ledaenu'n gymharol ddirwystr. Bu farw un o bob pedwar o ddinasyddion Cymru a gollwyd yn sgil y pandemig o haint COVID a ddaliwyd mewn ysbyty yng Nghymru. Llywodraeth Cymru oedd yn gyfrifol am benderfyniadau a arweiniodd at y trychineb hwn, ac eto nid ydynt yn barod i dderbyn canlyniadau eu penderfyniadau. Yn lle hynny, fe wnaethant ddewis cuddio y tu ôl i ymchwiliad ar gyfer y DU gyfan, yn hytrach na wynebu ymchwiliad annibynnol ar gyfer Cymru yn unig—ymchwiliad a all ganolbwyntio'n gyfan gwbl ar y penderfyniadau a wnaed gan Weinidogion Cymru, ar gamau a effeithiodd ar ddinasyddion Cymru ac ar ddysgu gwersi penodol i Gymru er mwyn sicrhau na fydd Cymru byth yn cael ei rhoi mewn perygl eto fel y digwyddodd yn ystod cyfnodau cynnar y pandemig hwn.

Gwnaeth Gweinidogion Cymru benderfyniadau a effeithiodd yn uniongyrchol ar fywydau pob dinesydd yng Nghymru, penderfyniadau y byddwn yn talu amdanynt am genedlaethau, ac eto, nid ydynt yn barod i amddiffyn y penderfyniadau hynny i bobl Cymru. Mae'n wir y bydd dimensiwn Cymreig i ymchwiliad cyhoeddus ar gyfer y DU gyfan, ond ni fydd yn llawer mwy na throednodyn. Bydd ymchwiliad y DU yn canolbwyntio i raddau helaeth ar GIG Lloegr. Ac wedi'r cyfan, mae poblogaeth Lloegr yn dri chwarter poblogaeth y DU. Mae GIG Lloegr yn gwasanaethu bron i 20 gwaith yn fwy o bobl na’n GIG ni. Yr unig ffordd y caiff pobl Cymru yr atebion y maent eu hangen ac y maent yn eu haeddu yw drwy gynnal ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i bandemig COVID-19 yng Nghymru, ac rwy'n annog yr Aelodau i wrando ar eu cydwybod heno, rwy'n ymbil arnoch i wrthod ymdrechion Llywodraeth Cymru i osgoi craffu, ac rwy'n erfyn arnoch i wrando ar deuluoedd mewn profedigaeth ledled Cymru. Pleidleisiwch dros ein cynnig heddiw a gadewch inni gynnal ymchwiliad cyhoeddus yng Nghymru.