Part of the debate – Senedd Cymru am 5:05 pm ar 15 Rhagfyr 2021.
Llywydd, mae'r pandemig hwn wedi bod yn hir ac yn anodd, ac mae wedi effeithio ar bob agwedd o'n bywydau ni o ddydd i ddydd. Mewn byd delfrydol, byddem ni'n edrych ymlaen at y Nadolig a'r flwyddyn newydd erbyn hyn, ond unwaith eto, rŷn ni'n wynebu amrywiolyn newydd sy'n symud yn gyflym, ac fe allai degau o filoedd o bobl ar draws y wlad gael eu heintio gan yr amrywiolyn hwn cyn y Nadolig.
Mae hwn yn gyfnod pryderus ac ansicr i ni i gyd. Ond os bydd e'n gyfnod anodd a phoenus, hefyd, mi fydd e'n sicr nawr yn gyfnod sydd yn fwy caled i unrhyw un sydd wedi colli unrhyw un sy'n annwyl iddyn nhw yn ystod y pandemig yma. Yn anffodus, mae llawer o deuluoedd wedi colli rhywun annwyl, gormod o lawer o deuluoedd. Mae'r feirws yma'n greulon, ac mae wedi lladd. Mewn llawer o achosion, mae gan y teuluoedd sydd wedi cael eu gadael ar ôl gwestiynau—cwestiynau y mae hi ond yn iawn i'r teuluoedd yna ddisgwyl cael atebion iddyn nhw.
O ystyried yr effaith eang mae'r pandemig wedi'i chael, mae'n hollol briodol bod ymchwiliad cyhoeddus yn cael ei gynnal. Dylai'r ymchwiliad hwn ystyried nid yn unig sut rŷn ni fel Llywodraeth wedi ymateb i'r pandemig hwn, ond sut mae cyrff cyhoeddus eraill wedi ymateb, hefyd.
Mae'r pandemig wedi effeithio ar bob rhan o'r Deyrnas Unedig. Mae perthynas agos iawn rhwng llawer o benderfyniadau a gafodd eu gwneud a chamau a gafodd eu cymryd yma yng Nghymru a'r hyn a oedd yn digwydd ar draws holl wledydd y Deyrnas Unedig. O safbwynt craffu ar y penderfyniadau a gafodd eu gwneud gan Lywodraeth Cymru a sefydliadau eraill y sector cyhoeddus yng Nghymru yn ystod y pandemig, rŷn ni'n credu mai ymchwiliad ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan yw'r opsiwn orau ar gyfer gwneud hynny mewn ffordd sy'n briodol ac yn agored. Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi y bydd ymchwiliad annibynnol yn cael ei sefydlu, a bydd e'n ystyried y pandemig o safbwynt y Deyrnas Unedig gyfan.
Rŷn ni yn Llywodraeth Cymru yn credu ei fod e'n bwysig bod y penderfyniadau a gafodd eu gwneud yma yng Nghymru ac yn y gwledydd datganoledig eraill yn cael eu hystyried o fewn cyd-destun ehangach na'r penderfyniadau sydd wedi cael eu gwneud yn San Steffan. Cafodd cryn dipyn o'r ymateb i'r pandemig ei reoli ar lefel y Deyrnas Unedig. Mae llawer o bobl wedi gweithio ochr yn ochr â'r Llywodraeth i gynghori a rhoi arweiniad. Rŷn ni'n credu, wrth gynnal yr ymchwiliad, ei bod hi'n bwysig mabwysiadu dull sy'n edrych ar bob agwedd ar y cyd. Mae'n rhaid ymchwilio i'r ffordd yr aeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ogystal â Llywodraethau datganoledig ati i ymateb i'r pandemig.