8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i bandemig COVID-19 yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:08 pm ar 15 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 5:08, 15 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Lywydd, mae'r cyd-destun eang ar gyfer gwneud ein penderfyniadau wedi'i gysylltu'n anorfod ag ystyried tirwedd ehangach gwyddoniaeth a pholisi'r DU. Er enghraifft, mae cyngor y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau, rhwydwaith Prif Swyddog Meddygol y DU, y Trysorlys a mesurau cymorth Llywodraeth y DU—maent i gyd yn gosod y paramedrau ar gyfer y penderfyniadau a wnaed yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru. Gwnaed penderfyniadau hefyd sy'n effeithio arnom yma yng Nghymru nad oedd gennym fawr ddim rheolaeth drostynt os o gwbl. Cymerwch yr amrywiolyn delta—cafodd Llywodraeth y DU gyfle i gyfyngu ar deithio o'r eiliad y clywsant am yr amrywiolyn yn India, ond cadwasant eu ffiniau ar agor am wythnosau, a hwn yw'r amrywiolyn mwyaf amlwg yma yng Nghymru am y tro. Ond fe wnaethom rybuddio Llywodraeth y DU hefyd i beidio â newid o brofion PCR i brofion llif unffordd ar gyfer teithio rhyngwladol, a phe na baem wedi newid, efallai y byddem wedi darganfod yr amrywiolyn omicron yn gynt. Hwn fydd yr amrywiolyn mwyaf amlwg yng Nghymru cyn bo hir, ac mae hyn yn profi pa mor gydgysylltiedig rydym â gweddill y DU, a sut y byddai'n anodd gwahanu ein profiad yn llwyr oddi wrth brofiad ein cymdogion yn Lloegr, a pham felly ei bod yn gwneud synnwyr i gael ymchwiliad ar gyfer y DU, ond gyda ffocws Cymreig. 

Nawr, rwy'n falch o'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i COVID, ac rwy'n ddiolchgar i bobl Cymru am eu cydweithrediad gyda'r ymateb i COVID. Wrth gwrs bod gwersi i'w dysgu, ac wrth gwrs y bydd meysydd lle mae'n rhaid inni wella, ond ceir meysydd hefyd lle mae ein hymateb i'r pandemig wedi dangos ffyrdd newydd a gwell o weithio. Rydym yn cymryd camau o fewn Llywodraeth Cymru a'r GIG i ddysgu'r gwersi hynny o ddydd i ddydd ac o wythnos i wythnos, wrth i ni barhau i ymateb i'r argyfwng parhaus. Ac mae'n bwysig fod y gwersi hyn yn cael eu dysgu yn awr, ac nad ydym yn aros am ganlyniad yr ymchwiliad cyn inni wneud gwelliannau.

Cafwyd ffocws y prynhawn yma ar heintiau COVID a ddaliwyd mewn ysbytai yng Nghymru. Nawr, un o'r rhesymau pam ein bod yn gwybod cymaint am hyn yw oherwydd bod y GIG yng Nghymru wedi cofnodi pob achos o haint, ond mae angen i bobl fod yn ymwybodol mai ni yw'r unig ran o'r DU i gael system TG genedlaethol sy'n gallu casglu a chofnodi data o'r fath. Nawr, bydd y wybodaeth hon yn helpu'r holl deuluoedd sydd, yn briodol, eisiau ac angen atebion. Mae'r GIG eisoes wedi dechrau ymchwilio i bob achos drwy'r broses 'Gweithio i Wella', ac rydym yn rhannu canlyniadau'r ymchwiliad hwnnw gyda theuluoedd.

Ac wrth gwrs rydym yn cydnabod y pryderon dilys ynghylch gallu ymchwiliad ar gyfer y DU i ganolbwyntio'n gyfartal ar y pedair gwlad fel rhan o'i gylch gwaith. Mae Prif Weinidog Cymru wedi trafod hyn gyda Phrif Weinidog y DU a Michael Gove. Nododd Prif Weinidog Cymru ei ddisgwyliadau ynglŷn â'r ffordd y caiff profiad pobl ei ystyried, ac mae hyn yn cynnwys sicrhau bod gan y tîm ymchwilio ehangach rywun â chysylltiadau â Chymru a phrofiad a dealltwriaeth ddiweddar a pherthnasol o'i threfniadau llywodraethu. A bydd disgwyl hefyd i dîm yr ymchwiliad ddod i Gymru i glywed tystiolaeth yn uniongyrchol gan bobl yng Nghymru. Mae Prif Weinidog Cymru wedi pwysleisio pwysigrwydd cynhyrchu penodau ar Gymru yn rhan o'r adroddiad hwnnw, fel y gall pobl fyfyrio'n dryloyw ar yr hyn a ddigwyddodd yng Nghymru a dod i gasgliadau.

Rydym yn disgwyl y bydd pobl yn cael cyfle i roi sylwadau ar gylch gorchwyl yr ymchwiliad yn y flwyddyn newydd, cyn iddynt gael eu cwblhau'n derfynol. Mae Prif Weinidog Cymru wedi cyfarfod â Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru ddwywaith i glywed yn uniongyrchol ganddynt, a chynhelir cyfarfod arall yn y flwyddyn newydd. Mae'n awyddus i'r grŵp rannu eu syniadau am y ffordd orau o sicrhau bod profiadau pobl o'r pandemig yn cael eu cynnwys yn rhan o'r ymchwiliad. Bydd ymchwiliad y DU yn dechrau yn y gwanwyn, ar adeg pan fydd y pandemig yn dal i fod gyda ni, ond rwy'n falch fod Llywodraeth y DU wedi ymgynghori â Phrif Weinidog Cymru cyn cyhoeddi penodiad y Farwnes Heather Hallett yn gadeirydd ymchwiliad y DU i COVID heddiw. A gwyddom fod ganddi hanes o fod yn sensitif i Lywodraethau datganoledig yn y Deyrnas Unedig drwy ei hymwneud â Gogledd Iwerddon.

Mae ymddangosiad yr amrywiolyn omicron, ynghyd â chyfraddau uchel o achosion yn barhaus, yn golygu bod ein ffocws yn parhau ar ymateb i'r argyfwng presennol a chadw Cymru'n ddiogel. Rwy'n gwahodd yr Aelodau i gefnogi ein gwelliannau i'r cynnig. Diolch, Lywydd.