1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 11 Ionawr 2022.
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leddfu'r pwysau ar GIG Cymru y gaeaf hwn? OQ57435
Diolch. Llywydd, y camau diweddaraf mwyaf arwyddocaol i helpu codi'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd y gaeaf hwn yw’r ymgyrch brechiadau atgyfnerthu a'r mesurau atal i leihau effaith ton omicron o'r coronafeirws.
Diolch, Prif Weinidog. Dros yr wythnos diwethaf, mae tri o bobl yn fy rhanbarth wedi cysylltu â mi ynglŷn â phroblemau yr oeddent wedi wynebu yn cael ambiwlans i gymydog neu aelod o'r teulu. Mewn un achos, roedd y person yn cael trawiad ar y galon ac fe ddywedwyd wrth ei chymydog nad oedd ambiwlans am hyd at chwe awr a bod angen canfod ffordd amgen i'w chael i'r ysbyty. Fe roddwyd y ffôn i lawr arni gan ddweud bod mwy o alwadau ffôn yn dod drwyddo, gan adael i'r cymydog orfod ffonio o gwmpas i geisio canfod rhywun i fynd â'r person i'r ysbyty. Wrth lwc, llwyddwyd i gael lifft, ac fe gafodd y person driniaeth frys ac mae hi bellach gartref yn gwella. Ond byddai wedi bod yn stori wahanol iawn pe na byddai rhywun wedi bod ar gael i fynd â hi. Pa gefnogaeth sydd yn cael ei rhoddi gan Lywodraeth Cymru i'r gwasanaeth ambiwlans a'n hysbytai i sicrhau bod gwasanaeth ar gael i fynd â phobl mewn sefyllfa argyfyngus i'r ysbyty, yn arbennig mewn ardaloedd lle nad oes canran uchel o berchnogaeth ar geir na thrafnidiaeth gyhoeddus neu dacsis ar gael yn rhwydd?
Llywydd, diolch i Heledd Fychan am y cwestiwn ychwanegol yna. Wrth gwrs, rwy'n falch i glywed bod pethau wedi troi mas fel gwnaethon nhw yn yr achos mae hi wedi siarad amdano. Mae effaith omicron a'r coronafeirws ar y gwasanaeth ambiwlans yn un uchel iawn. Mae mwy o bobl yn dost yn yr ymddiriedolaeth ambiwlans yng Nghymru nag yn unrhyw le arall dros y gwasanaeth iechyd i gyd. So, rŷn ni wedi gwneud lot o bethau fel Llywodraeth: mwy o arian, mwy o staff, mwy o hyfforddiant, mwy o bosibiliadau i wneud pethau mewn ffyrdd gwahanol, ac ar hyn o bryd mae help gyda ni hefyd oddi wrth y fyddin, a bydd mwy o bobl o'r fyddin ar gael i helpu'r gwasanaeth ambiwlans dros yr wythnosau sydd i ddod tan ddiwedd mis Mawrth nag mewn unrhyw amser dros gyfnod coronafeirws i gyd. Nawr, dydy hynny ddim yn golygu y bydd popeth yn gallu bod fel oedd e cyn i'r coronafeirws ddechrau. Un o'r problemau sy'n wynebu pobl yn y gwasanaeth ambiwlans yw bod nifer y bobl sy'n dioddef o coronafeirws pan fyddan nhw'n dod i'w helpu nhw wedi cynyddu hefyd, ac mae hwnna'n cymryd mwy o amser—gwisgo PPE, glanhau’r ambiwlans, ac yn y blaen—ac mae hwnna'n arafu'r cyfleon sydd gyda'r bobl yn y gwasanaeth ambiwlans i fynd mas ar yr hewl unwaith eto i helpu pobl eraill. So, mae'r sefyllfa yn un heriol, ond rŷn ni fel Llywodraeth yn gwneud popeth allwn ni ei wneud i gefnogi'r gwasanaeth ambiwlans, a nawr mae help arall gyda ni hefyd.
Prif Weinidog, mae'n amlwg bod GIG Cymru o dan bwysau sylweddol ar hyn o bryd oherwydd y pandemig, ond rydym hefyd yn ymwybodol y bu GIG Cymru, mewn cyfnod cyn y pandemig, dan bwysau sylweddol ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Wrth gwrs, mae angen i ni leddfu'r pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys drwy annog y defnydd o wasanaethau eraill, fel unedau mân anafiadau a defnyddio fferyllfeydd, cyflwyno canolfannau llawfeddygol rhanbarthol i ymdrin â'r ôl-groniad o driniaeth, a hefyd ei gwneud yn llawer haws cael gafael ar wasanaethau meddygon teulu. Prif Weinidog, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y meysydd yr wyf newydd eu hamlinellu?
Wel, gallaf helpu gyda nifer ohonyn nhw, Llywydd, neu fel arall byddwn i yma drwy'r prynhawn, rwy'n credu. Ond y pwynt cyntaf i'w wneud, fel y gwn y bydd Russell George yn ei gydnabod, yw bod y rhannau eraill hynny o'r system hefyd dan bwysau sylweddol ar hyn o bryd. Dim ond yn gynharach heddiw y gwelais yr effaith ar y proffesiwn fferyllol, nifer y fferyllwyr cymunedol sy'n sâl ar hyn o bryd gyda coronafeirws neu'n hunanynysu ac felly ni allan nhw gynnig y gwasanaethau sydd fel arall yn ychwanegiad mor ddefnyddiol at y GIG.
Felly, mae gweithredoedd Llywodraeth Cymru yn cwmpasu cryn amrywiaeth o bethau, gan gynnwys llawer o'r pethau ond nid y cyfan y soniodd yr Aelod amdanyn nhw. Yn sicr, mae'n golygu cryfhau fferyllfeydd cymunedol—yr oeddwn yn falch iawn o weld ein bod wedi dod i gytundeb yn ddiweddar ar gontract gyda fferylliaeth gymunedol a fydd yn golygu y bydd ystod estynedig o wasanaethau ar gael mewn mwy o rannau o Gymru, fel y gall mwy o gleifion gael gofal diogel a chlinigol priodol ym maes fferylliaeth gymunedol. Rydym wedi cwblhau trafodaethau contract gyda phwyllgor meddygon teulu Cymru hefyd. Bydd hynny'n canolbwyntio'n benodol ar fynediad at y tîm gofal sylfaenol, nid yn unig at feddygon teulu, ond fel yr wyf yn ei ddweud o hyd yn y fan yma, y tîm ehangach hwnnw o bobl sy'n darparu gwasanaethau ym maes gofal sylfaenol ac eto'n aml iawn yn gweld pobl mewn ffordd sy'n arbed amser pobl sydd â set fwy cyflawn o sgiliau ac felly'n gallu gofalu am achosion mwy heriol. Felly, ym mhob rhan o'r system, nod Llywodraeth Cymru yw atgyfnerthu'r gwasanaeth iechyd yn ystod y cyfnod hwn o argyfwng, ond ei wneud mewn ffordd sy'n cyfrannu at adferiad hirdymor y GIG pan fyddwn o'r diwedd yn symud y tu hwnt i'r pandemig presennol.