Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 11 Ionawr 2022.
Llywydd, rwy'n rhannu rhwystredigaeth Vikki Howells yn llwyr ynghylch y ffordd y cafodd llwyddiant ei gyfleu mewn ffordd a achosodd gymaint o bryder i gynifer o bobl, oherwydd bod y system sgrinio yng Nghymru yn llwyddiant. Ni yma oedd rhan gyntaf y Deyrnas Unedig i newid ein system sgrinio i brawf mwy sensitif ar gyfer canser ceg y groth yn 2018. Rydym wedi cael brechiad ar gyfer HPV ymhlith menywod ifanc ers 2008, a bydd y risgiau o ganser ceg y groth yn y blynyddoedd i ddod yn wahanol iawn, ac yn llawer is nag yr oedden nhw i gynifer o bobl yn y gorffennol.
Edrychwch, rwy'n mynd i gofnodi os caf i, Llywydd, beth mae'r penderfyniad yn ei olygu mewn gwirionedd. Pan fydd rhywun yn cael prawf yn y dyfodol, os yw'r prawf yn dangos perygl uchel o HPV a bod newidiadau i'r celloedd yn y sampl a gymerwyd, caiff wahoddiad ar unwaith am golposgopi. Os oes arwyddion o HPV risg uchel ond nad oes unrhyw newidiadau i'r celloedd, yna bydd y cyfnod cyn y sgrinio nesaf yn flwyddyn. Os nad oes HPV ac nad oes unrhyw newidiadau i'r celloedd yn ymddangos yn y sampl, yna caiff wahoddiad i gael ei sgrinio'n serfigol ymhen pum mlynedd. Mae'n newid sy'n sicrhau budd gorau'r system ac yn achub mwy o fywydau.
Nawr, mae gwersi i Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghylch sut y gwnaethon nhw gyfleu hyn. Methwyd ag egluro i bobl buddion yr hyn a oedd yn cael ei gynnig, sut y bydd hyn yn gwneud y system yn well ac yn gryfach ac yn fwy llwyddiannus, ac, o ganlyniad, gwelsom y llif hwnnw o bobl yn drysu ac yn pryderu o ganlyniad. Rwy'n credu bod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi gwneud ei orau i adennill rhywfaint o'r tir hwnnw ers hynny, drwy roi gwybodaeth gliriach a gwell, ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r trydydd sector ac elusennau canser hynny a ddaeth i mewn ac a helpodd gyda'r ymdrech esboniadol honno. Y tro nesaf, mae angen i ni sicrhau bod hynny'n iawn cyn i'r cyhoeddiad gael ei wneud, nid fel rhyw fath o ymdrech achub ar ôl i bethau fynd o chwith.