Part of the debate – Senedd Cymru am 4:37 pm ar 11 Ionawr 2022.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog, am y datganiad. Ydyn, rydyn ni mewn sefyllfa ansicr. Mae niferoedd achosion positif yn uchel. Rydyn ni'n gwybod hynny—rydw i'n gwybod o brofiad fy nheulu cyfan i a'm mhrawf positif i ar Ddiwrnod y Nadolig cymaint o ledaenu cymunedol sydd wedi bod. Ond edrych ymlaen sy'n bwysig i'w wneud rŵan. Dwi'n gwybod bod y Gweinidog eisiau taro tôn ddifrifol efo'r datganiad hynny heddiw—ac mae hynny'n hollol iawn, wrth gwrs, mae'n sefyllfa anodd mewn sawl ffordd—ond mi fuaswn i, dwi'n meddwl, wedi leicio ychydig mwy o sylw ar yr arwyddion cadarnhaol sydd gennym ni rŵan achos ar y rheini y byddwn ni'n gallu adeiladu, gobeithio, a'r rheini, gobeithio, wrth iddyn nhw ddod yn fwy eglur, a'r golau ym mhen draw'r twnnel yma'n dod yn fwy llachar, sydd angen arwain penderfyniadau mewn dyddiau i ddod.
Dwi'n ddiolchgar i'ch swyddogion chi sydd wedi rhoi dau briefing i fi dros y 24 awr diwethaf. Mae'n dda gweld yr arwyddion calonogol, y dystiolaeth reit glir ynglŷn â faint yn llai tebygol ydy unigolion o fynd yn sâl efo'r amrywiolyn yma o'i gymharu efo delta a'r newyddion da hyd yma o ran y pwysau ar adrannau gofal dwys yn benodol. Mae yna arwyddion clir hefyd, mae'n bwysig dweud, fod y rheoliadau sydd wedi bod mewn grym dros yr wythnosau diwethaf wedi bod yn effeithiol yn gyffredinol. Mi godaf i gwestiynau am ambell i elfen ohonyn nhw yn y man.
Wrth gwrs, oherwydd niferoedd uchel achosion positif—llawer mwy nag mewn unrhyw don arall—rydyn ni'n gwybod bod yna'n dal impact sylweddol ar wasanaethau iechyd. Mae hynny'n wir o ran niferoedd staff sy'n sâl, er bod llawer mwy yn colli gwaith am resymau eraill na sydd yna am resymau COVID—mae'n bwysig cofio hynny. Ac ar y pwynt hwnnw, a gaf i ofyn pam ddim gwneud y penderfyniad rŵan, fel mae'r RCN ac eraill yn gofyn, i roi gorchuddion wyneb FFP3 i staff i'w gwarchod nhw, i'w gwneud hi'n llai tebygol eu bod nhw'n cael eu taro gan y feirws?
Mae yna bwysau hefyd o ran faint sydd yn COVID positif yn yr ysbyty sydd angen cael eu trin yn wahanol o'r herwydd a'r pwysau sy'n dod yn sgil hynny. Mae'n bwysig cofio ei bod hi'n debyg iawn mai lleiafrif o gleifion COVID positif sydd yn yr ysbyty oherwydd problemau COVID; mae rhai yno wedi torri braich, ddywedwn ni, ond sydd yn digwydd bod yn COVID positif. Ac mae hi'n amlwg hefyd—rhaid cofio hyn—fod problemau eraill. Anghynaliadwyedd yr NHS—pwysau’r gaeaf, i roi enw arall arno fo—ydy prif sail yr heriau yn yr NHS ar hyn o bryd, a’r hyn mae sefyllfa COVID anodd yn ei wneud ydy gwaethygu hynny. Y canlyniad, wrth gwrs, ydy bod pwysau ar wasanaethau iechyd a gofal, oherwydd y don omicron, yn debyg o godi am sbel eto. Mae angen bod yn bwyllog, ond mae yna arwyddion ein bod ni’n cyrraedd pegwn y don ei hun o ran achosion. Efallai mai rhan o beth rydym ni’n ei weld, o ran achosion positif yn dechrau lefelu, ydy’r newid mewn rheolau profi—y ffaith bod llai o bobl yn cael prawf PCR erbyn hyn. Gaf i ofyn pa gamau mae’r Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau bod mwy o bobl yn cofnodi profion LFT positif? Mae hynny’n bwysig iawn.
Ond, fel mae’n edrych, mae yna arwyddion bod pethau yn dechrau gwella. Felly, fy nghwestiwn canolog i yn y fan hyn ydy: pa mor fuan, unwaith rydym ni yn hyderus ein bod ni wedi cyrraedd brig y don yna, fydd y Llywodraeth yn barod i ddechrau addasu’r rheoliadau diweddaraf? Dwi’n gwybod nad ydy’r Gweinidog ddim am roi amserlen i hynny. Dwi’n gwybod hefyd ei bod hi ddim eisiau unrhyw faint yn fwy o reoliadau na sydd angen eu cael. Ond tybed allwn ni ddisgwyl ymateb cyflym, o leiaf, ar rai o’r rheoliadau, ddywedwn ni. Yn gynharach heddiw, mi wnaeth Llyr Gruffydd roi’r achos dros ganiatáu mwy o bobl i fynd i wylio chwaraeon. Dwi’n nodi bod yr Alban, sydd fymryn ar y blaen i ni o ran y don—bosib wedi cyrraedd y pegwn erbyn hyn—wedi cyhoeddi heddiw eu bod nhw am groesawu torfeydd yn ôl i gemau chwaraeon eto. Gawn ni sicrwydd mai bwriad y Llywodraeth ydy gwneud hynny ar y cyfle cyntaf? Ac, wrth gwrs, efo gemau llai, ychydig gannoedd o dorf efallai, dwi’n gweld dim rheswm pam na ellid caniatáu y rheini yn syth, mewn difrif. Gaf i wahodd y Gweinidog i gymryd y cam hwn a chynnyddu faint sy’n cael dod at ei gilydd ar gyfer digwyddiadau awyr agored fel hynny?
Ac mae’r un peth yn wir, dwi’n meddwl, efo parkruns—rhywbeth sydd wedi cael ei godi gan Aelodau eraill hefyd. Mi liciwn i weld y rheini yn ailddechrau. Os ydy’r Llywodraeth ddim yn credu bod hynny’n ddiogel, efallai gallwn ni gael eglurhad pam gan y Gweinidog. Nid galw am godi pob un o’r rheoliadau ydw i yn fan hyn—dwi’n gwybod bod y Gweinidog yn sylweddoli hynny—ond, drwy’r amser, mae eisiau gweld lle mae modd mireinio a dwi yn credu bod yr arwyddion cadarnhaol sydd gennym ni rŵan yn rhai y dylid gweithredu arnyn nhw cyn gynted ag y bo modd.