Part of the debate – Senedd Cymru am 6:05 pm ar 11 Ionawr 2022.
Fel rŷm ni wedi datgan fel plaid nifer o weithiau wrth drafod cynigion memoranda cydsyniad deddfwriaethol, rydym ni'n credu mewn egwyddor mai Senedd Cymru ddylai deddfu mewn meysydd polisïau datganoledig. Ac ar adeg pan fo Llywodraeth San Steffan yn dangos dro ar ôl tro eu hawydd a'u penderfyniad i dramgwyddo'r egwyddor honno, mae'n ddyletswydd arnom ni i sicrhau nad yw Cymru a'i Llywodraeth yn cael eu gwthio i'r ymylon wrth lunio polisi yn y meysydd yma. Rydym ni felly yn mynd i wrthwynebu'r cynnig.
Mae'n hollbwysig, ar adeg pan fo sectorau ledled Cymru—y sector addysg yn enwedig—yn ei chael hi'n anodd o ran capasiti i ddarparu gwasanaethau oherwydd heriau ac effaith y pandemig, sicrhau ein bod yn osgoi gosod unrhyw feichiau diangen ar sefydliadau a chyrff allweddol yng Nghymru, nac yn achosi unrhyw ansicrwydd neu ddryswch iddyn nhw o ran cynllunio eu darpariaeth. Mae'r sector addysg eisoes yn wynebu heriau anferth, ac ni ddylem ganiatáu i unrhyw ddarpariaethau yng nghymalau'r Bil amharu ar y sefydliadau sy'n ymateb i anghenion sgiliau Cymru, boed hynny mewn modd penodol neu o ran egwyddor gyffredinol. Mae'r ddeialog y bu'n rhaid ei chael rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wedi dangos y diffyg cyffredinol yn y berthynas a'r agwedd mae angen ei gwrthod yn llwyr. Y pwynt ehangach yw nad yw'r newidiadau a'r diwygiadau arfaethedig i'r cymalau a nodwyd fel rhai problematig yn wreiddiol yn ddigonol i sicrhau nad yw sylfaen ein democratiaeth yn cael ei thanseilio mewn modd cyffredinol—cymal technegol wrth gymal technegol, Deddf wrth Ddeddf.
Fel mae Cadeirydd y pwyllgor cyfansoddiad wedi amlinellu, mae angen mwy o fanylion efallai, a mwy o sicrwydd am y pryderon posib a amlinellwyd yn adroddiadau'r pwyllgor a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg—mwy o fanylion ynglŷn â'r ansicrwydd allai'r cymalau hyn a'r pryderon yma achosi i sefydliadau, ac o ran y dargyfeirio posib o ran adnoddau yn groes i flaenoriaethau Cymreig a all barhau i fod yn beryglon o fewn y Bil wrth inni roi ein cydsyniad i Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol ddeddfu mewn maes polisi datganoledig. Ac yn bennaf, efallai, yn sgil y broses y mae'r Gweinidog wedi'i hamlinellu, wedi'i hesbonio a'i disgrifio inni y prynhawn yma, a'r brys yma, a'r dryswch yma y mae e'n cyfleu, mae'r broses gyfan yn sicr o greu dryswch inni o ran y broses graffu. Dyw hynny ddim yn gallu cael ei gymeradwyo na'i ganiatáu.
Wrth orffen, hoffwn dynnu sylw hefyd at y ffaith bod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, yn ogystal â'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, wedi nodi nifer o bryderon, ac rŷm ni wedi eu clywed nhw y prynhawn yma, yn ymwneud ag oedi wrth osod yr LCM a'r SLCM, gan nodi pwysigrwydd cadw at yr amserlenni a nodir yn Rheolau Sefydlog y Senedd. Yn hyn o beth, nodwyd nad oedd digon o amser i ystyried na chraffu ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol a'r SLCM yma yn ddigon manwl. Dŷn nhw ddim yn denu sylw ar lawr ein Siambr fel y dadleuon mawr neu'r cwestiynau amserol, ac anaml iawn mae unrhyw sôn amdanyn nhw yn y penawdau, ond maen nhw'n bwysig ac, yn dawel bach, maen nhw'n gwanhau llais ein democratiaeth.