Part of the debate – Senedd Cymru am 6:00 pm ar 11 Ionawr 2022.
Rhoddodd ein hadroddiad cyntaf ni, y gwnaethom ni ei osod gerbron y Senedd fis Tachwedd diwethaf, grynodeb o'n hystyriaeth ni o femorandwm gwreiddiol Llywodraeth Cymru ar y Bil, yn ogystal â memorandwm Rhif 2. Nawr, yn yr adroddiad hwnnw, daethom ni i nifer o gasgliadau a oedd yn llywio'r argymhellion a wnaethom ni wedyn i'r Gweinidog. Hyd yma, rydym ni'n dal i aros am ymateb ffurfiol i'r adroddiad hwnnw gan y Gweinidog, sy'n amlwg yn siomedig i'r pwyllgor a'r Senedd. Ond, efallai y bydd y Gweinidog eisiau, yn ei sylwadau, roi rhywbeth ar y cofnod heddiw fel esboniad. Mae ef wedi sôn bod y Bil hwn wedi bod braidd yn gymhleth, ac weithiau mae ef wedi gorfod ymateb mewn modd munud olaf i ryw welliannau wedi'u cyflwyno gan San Steffan, ond byddai'n helpu.
Nawr, bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod memorandwm Rhif 3 wedi'i osod ar 10 Rhagfyr, ychydig cyn toriad y Nadolig. Fodd bynnag, gwnaethom ni lwyddo i adrodd ar y memorandwm atodol arall hwn erbyn prynhawn ddoe. Dim ond dau argymhelliad a wnaethom ni yn yr adroddiad cyntaf i'r Gweinidog eu hystyried. O ystyried yr amser sydd nawr wedi mynd heibio, mae'r argymhellion hyn, fel yr ydym ni newydd glywed, wedi'u disodli gan ddatblygiadau diweddar yn Senedd y DU, gan fod y Bil wedi'i ddiwygio yn ystod ei daith seneddol. Wrth fynd heibio, rydym ni'n nodi bod hyn yn amlygu cymhlethdod dealladwy craffu yn gyffredinol, ond hefyd gymhlethdod ychwanegol craffu yma yn y Senedd o ddeddfwriaeth sy'n tarddu ac yn datblygu yn Senedd y DU.
Gofynnodd argymhelliad 1 yn ein hadroddiad cyntaf bod y Gweinidog, cyn dadl y Senedd ar y cynnig cydsyniad perthnasol, yn cadarnhau pa welliannau y byddai angen i Lywodraeth Cymru eu gweld yn cael eu gwneud i gymalau 1 a 4 o'r Bil er mwyn iddo argymell bod y Senedd yn rhoi ei gydsyniad i'r Bil. Wrth gwrs, mae gwelliannau nawr wedi'u gwneud i'r Bil sydd wedi arwain Llywodraeth Cymru i benderfynu nad oes angen cydsyniad deddfwriaethol y Senedd mwyach o ran cymalau 1 a 4 hynny.
Nawr, er ein bod ni'n cytuno ag asesiad diweddaraf Llywodraeth Cymru ynghylch cymalau 1 a 4 fel y maen nhw wedi'u gwella, a gawn ni awgrymu y byddai wedi bod yn well, er mwyn cynorthwyo'r Senedd i graffu ar y memoranda cydsyniad deddfwriaethol, pe bai'r Gweinidog wedi rhoi rhagor o fanylion o'r cychwyn ynghylch y newidiadau penodol yr oedd ef eisiau eu gweld yn cael eu gwneud i'r Bil, pe bai hyn wedi bod yn bosibl bryd hynny? Nawr, efallai y bydd ef yn dadlau nad oedd modd iddo eu rhagweld bryd hynny, ond byddai'n ddefnyddiol gwybod hynny.
Gofynnodd argymhelliad 2 yn ein hadroddiad cyntaf ni i'r Gweinidog gadarnhau pam na ddylai cydsyniad y Senedd gael ei geisio ar gyfer cymal newydd 25, a gafodd ei ychwanegu at y Bil yng Nghyfnod Adrodd yr Arglwyddi. Er bod memorandwm Rhif 3 yn cadarnhau bod y cymal wedi'i ddileu o'r Bil gan Dŷ'r Cyffredin, y gwir amdani yw ei fod yn gymal perthnasol at ddibenion ein gweithdrefnau cydsynio pan gafodd memorandwm Rhif 2 ei osod ddiwedd mis Hydref y llynedd.
Roedd ein hadroddiad cyntaf hefyd yn cynnwys ein casgliad, er ei fod wedi'i hepgor o femorandwm gwreiddiol Llywodraeth Cymru, y dylai cydsyniad y Senedd gael ei geisio ar gyfer cymal 35 o'r Bil. Yn wir, cadarnhaodd nodiadau esboniadol Llywodraeth y DU i'r Bil fod y cymal yn ymwneud â mater datganoledig. Fel y mae'r Gweinidog wedi sôn, yr ydym ni'n ymwybodol bod y mater hwn wedi'i godi mewn gohebiaeth rhwng y pwyllgor Plant, Phobl Ifanc ac Addysg a'r Gweinidog. Ac, fel y mae ein hadroddiad cyntaf ni'n ei wneud yn glir, nid ydym ni'n cytuno â safbwynt y Gweinidog. Mae'r Gweinidog yn honni, fel y mae ef wedi'i wneud heddiw, nad yw'r cymal hwn yn gwneud unrhyw newid i'r gyfraith bresennol; mae'n ailddatgan y ddarpariaeth bresennol. Ond, fel pwyllgor, rydym ni'n tynnu sylw at eiriad Rheol Sefydlog 29.1(i), sy'n nodi nad yw'n gwahaniaethu rhwng cyfraith newydd neu ailddatganiad o'r gyfraith bresennol, ond bod darpariaeth mewn Bil yn y DU yn ddarpariaeth berthnasol at ddibenion proses gydsynio'r Senedd os yw'n gwneud darpariaeth at unrhyw ddiben o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
O gofio bod y Bil wedi mynd drwy sawl cyfnod gwella yn Senedd y DU, fel y mae pethau, mae'r cymal hwn, fel y mae'r Gweinidog wedi'i grybwyll, bellach wedi'i rifo'n gymal 31. Mae ein hunig argymhelliad ni yn ein hadroddiad a gafodd ei osod ddoe yn ailadrodd y farn y gwnaethom ni ei mynegi fis Tachwedd diwethaf, a gofynnodd i'r Gweinidog gadarnhau, cyn y ddadl y prynhawn yma, pam na ddylai cydsyniad y Senedd gael ei geisio ar gyfer y cymal yn y Bil. Mae ef wedi cynnig esboniad y prynhawn yma, ond efallai y bydd angen i ni ddal i gytuno i anghytuno ar ôl ei esboniad arall. Ond edrychaf ymlaen at glywed unrhyw ymateb gweinidogol arall y prynhawn yma i'r pwyntiau hyn, a hefyd at dderbyn yr ymateb ysgrifenedig ffurfiol i'n hadroddiadau gan y Gweinidog cyn gynted â phosibl. Diolch yn fawr iawn, Llywydd a Gweinidog.