– Senedd Cymru am 5:55 pm ar 11 Ionawr 2022.
Eitem 9 yw'r eitem olaf, a hynny ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16. Dwi'n galw ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg i wneud y cynnig, sef Jeremy Miles.
Diolch, Llywydd. Rwy'n gwneud y cynnig heddiw. Rwy'n croesawu'r cyfle hwn i esbonio cefndir y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, ac amlinellu pam rwy'n argymell bod y Senedd yn rhoi caniatâd i ddarpariaeth gael ei gwneud yn y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16. Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am ystyried y memoranda cydsyniad deddfwriaethol, ac am yr adroddiad a luniwyd ym mis Rhagfyr. Rwy'n croesawu'r ohebiaeth gyda Chadeirydd y pwyllgor ac yn gobeithio bod fy ymatebion yn rhoi'r atebion i'r cwestiynau a godwyd gan y pwyllgor. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i aelodau'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu hystyriaethau a'u hadroddiad a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd, a nodaf fod y pwyllgor wedi cyhoeddi adroddiad pellach ddoe.
Rwy'n croesawu casgliadau ac argymhellion y ddau bwyllgor, a hoffwn drafod rhai o'u pwyntiau heddiw. Yn benodol, rwy'n nodi bod y ddau bwyllgor yn ystyried bod angen cael cydsyniad y Senedd ar gyfer yr hyn a oedd yn gymal 35 o'r Bil fel y'i cyflwynwyd i Dŷ'r Cyffredin, ac sydd ar hyn o bryd yn gymal 31. Ac rwy'n credu mai'r cymal dan sylw ar hyn o bryd yw cymal 32 o'r Bil, fel y'i diwygiwyd yng Nghyfnod Pwyllgor Tŷ'r Cyffredin. Dwi ddim yn cytuno gyda'r casgliad hwnnw. Mae'r prif ddarpariaethau a wneir gan y cymal hwn yn ymwneud gydag addysg bellach yn Lloegr, ac mae'r ddarpariaeth a wneir mewn perthynas â Chymru dim ond yn ailddatgan ac yn egluro'r gyfraith bresennol. Mae'r newidiadau hyn yn ganlyniadol i'r ddarpariaeth a wneir ar gyfer Lloegr.
Mae Rheol Sefydlog 29.1 yn gwneud eithriad ar gyfer darpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, trosiannol, dros dro, atodol ac arbed, ac yn fy marn i, mae'r ddarpariaeth a wneir mewn perthynas â Chymru gan y cymal hwn yn ganlyniadol i'r ddarpariaeth a wneir ar gyfer Lloegr, ac yn ymwneud â mater nad yw o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Felly, nid yw'r cymal hwn wedi ei gynnwys yn y memoranda cydsyniad deddfwriaethol rwyf wedi eu gosod i'r Senedd i'w hystyried.
Rwy'n nodi ac yn derbyn pryderon y ddau bwyllgor ynghylch yr oedi wrth osod ger bron y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol cychwynnol, a'r memoranda atodol dilynol i'r Bil. Y tro hwn, ni chawsom ni weld yr holl ddarpariaethau sy'n effeithio ar Gymru tan ychydig cyn i'r Bil gael ei gyflwyno i'r Senedd. Yn ogystal â hyn, roedd dadansoddiad datganoli Llywodraeth y DU yn wahanol i'n dadansoddiad ni, ac yn anffodus arweiniodd hyn at drafodaethau hirfaith i geisio datrys materion. Rwy'n falch bod Llywodraeth y DU, fodd bynnag, wedi ymateb yn gadarnhaol i'n ceisiadau am welliannau, ac rwy'n credu bod y Bil, fel y'i diwygiwyd yng Nghyfnod Pwyllgor Tŷ'r Cyffredin, nawr yn parchu cymhwysedd datganoledig ym maes addysg.
Yr unig gymal y mae angen cydsyniad y Senedd arno yw cymal 15, sy'n addasu Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 mewn modd sy'n effeithio ar y swyddogaethau sydd wedi'u datganoli i Weinidogion Cymru. Mae'r swyddogaethau hynny'n ymwneud â phwerau i wneud rheoliadau o ran cymorth i fyfyrwyr, ac maen nhw'n arferadwy ar yr un pryd gan Weinidogion Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol o ran Cymru. Dim ond o ran swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol y mae'r addasiadau'n gymwys, ac maen nhw'n gadael swyddogaethau Gweinidogion Cymru yn gyflawn. Ac ar y sail honno, rwy'n gofyn i'r Aelodau roi eu caniatâd i gynnwys cymal 15 yn y Bil.
Galwaf nawr ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies.
Diolch eto, Llywydd. Rydym wedi llunio dau adroddiad sy'n cwmpasu'r tri memorandwm cydsyniad deddfwriaethol a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ar y Bil hwn. Gobeithiaf eu bod wedi bod o gymorth i'r Gweinidog wrth iddo barhau i lywio trafodaethau rhynglywodraethol ar y Bil, yn ogystal ag i'r Aelodau sy'n cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma.
Rhoddodd ein hadroddiad cyntaf ni, y gwnaethom ni ei osod gerbron y Senedd fis Tachwedd diwethaf, grynodeb o'n hystyriaeth ni o femorandwm gwreiddiol Llywodraeth Cymru ar y Bil, yn ogystal â memorandwm Rhif 2. Nawr, yn yr adroddiad hwnnw, daethom ni i nifer o gasgliadau a oedd yn llywio'r argymhellion a wnaethom ni wedyn i'r Gweinidog. Hyd yma, rydym ni'n dal i aros am ymateb ffurfiol i'r adroddiad hwnnw gan y Gweinidog, sy'n amlwg yn siomedig i'r pwyllgor a'r Senedd. Ond, efallai y bydd y Gweinidog eisiau, yn ei sylwadau, roi rhywbeth ar y cofnod heddiw fel esboniad. Mae ef wedi sôn bod y Bil hwn wedi bod braidd yn gymhleth, ac weithiau mae ef wedi gorfod ymateb mewn modd munud olaf i ryw welliannau wedi'u cyflwyno gan San Steffan, ond byddai'n helpu.
Nawr, bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod memorandwm Rhif 3 wedi'i osod ar 10 Rhagfyr, ychydig cyn toriad y Nadolig. Fodd bynnag, gwnaethom ni lwyddo i adrodd ar y memorandwm atodol arall hwn erbyn prynhawn ddoe. Dim ond dau argymhelliad a wnaethom ni yn yr adroddiad cyntaf i'r Gweinidog eu hystyried. O ystyried yr amser sydd nawr wedi mynd heibio, mae'r argymhellion hyn, fel yr ydym ni newydd glywed, wedi'u disodli gan ddatblygiadau diweddar yn Senedd y DU, gan fod y Bil wedi'i ddiwygio yn ystod ei daith seneddol. Wrth fynd heibio, rydym ni'n nodi bod hyn yn amlygu cymhlethdod dealladwy craffu yn gyffredinol, ond hefyd gymhlethdod ychwanegol craffu yma yn y Senedd o ddeddfwriaeth sy'n tarddu ac yn datblygu yn Senedd y DU.
Gofynnodd argymhelliad 1 yn ein hadroddiad cyntaf bod y Gweinidog, cyn dadl y Senedd ar y cynnig cydsyniad perthnasol, yn cadarnhau pa welliannau y byddai angen i Lywodraeth Cymru eu gweld yn cael eu gwneud i gymalau 1 a 4 o'r Bil er mwyn iddo argymell bod y Senedd yn rhoi ei gydsyniad i'r Bil. Wrth gwrs, mae gwelliannau nawr wedi'u gwneud i'r Bil sydd wedi arwain Llywodraeth Cymru i benderfynu nad oes angen cydsyniad deddfwriaethol y Senedd mwyach o ran cymalau 1 a 4 hynny.
Nawr, er ein bod ni'n cytuno ag asesiad diweddaraf Llywodraeth Cymru ynghylch cymalau 1 a 4 fel y maen nhw wedi'u gwella, a gawn ni awgrymu y byddai wedi bod yn well, er mwyn cynorthwyo'r Senedd i graffu ar y memoranda cydsyniad deddfwriaethol, pe bai'r Gweinidog wedi rhoi rhagor o fanylion o'r cychwyn ynghylch y newidiadau penodol yr oedd ef eisiau eu gweld yn cael eu gwneud i'r Bil, pe bai hyn wedi bod yn bosibl bryd hynny? Nawr, efallai y bydd ef yn dadlau nad oedd modd iddo eu rhagweld bryd hynny, ond byddai'n ddefnyddiol gwybod hynny.
Gofynnodd argymhelliad 2 yn ein hadroddiad cyntaf ni i'r Gweinidog gadarnhau pam na ddylai cydsyniad y Senedd gael ei geisio ar gyfer cymal newydd 25, a gafodd ei ychwanegu at y Bil yng Nghyfnod Adrodd yr Arglwyddi. Er bod memorandwm Rhif 3 yn cadarnhau bod y cymal wedi'i ddileu o'r Bil gan Dŷ'r Cyffredin, y gwir amdani yw ei fod yn gymal perthnasol at ddibenion ein gweithdrefnau cydsynio pan gafodd memorandwm Rhif 2 ei osod ddiwedd mis Hydref y llynedd.
Roedd ein hadroddiad cyntaf hefyd yn cynnwys ein casgliad, er ei fod wedi'i hepgor o femorandwm gwreiddiol Llywodraeth Cymru, y dylai cydsyniad y Senedd gael ei geisio ar gyfer cymal 35 o'r Bil. Yn wir, cadarnhaodd nodiadau esboniadol Llywodraeth y DU i'r Bil fod y cymal yn ymwneud â mater datganoledig. Fel y mae'r Gweinidog wedi sôn, yr ydym ni'n ymwybodol bod y mater hwn wedi'i godi mewn gohebiaeth rhwng y pwyllgor Plant, Phobl Ifanc ac Addysg a'r Gweinidog. Ac, fel y mae ein hadroddiad cyntaf ni'n ei wneud yn glir, nid ydym ni'n cytuno â safbwynt y Gweinidog. Mae'r Gweinidog yn honni, fel y mae ef wedi'i wneud heddiw, nad yw'r cymal hwn yn gwneud unrhyw newid i'r gyfraith bresennol; mae'n ailddatgan y ddarpariaeth bresennol. Ond, fel pwyllgor, rydym ni'n tynnu sylw at eiriad Rheol Sefydlog 29.1(i), sy'n nodi nad yw'n gwahaniaethu rhwng cyfraith newydd neu ailddatganiad o'r gyfraith bresennol, ond bod darpariaeth mewn Bil yn y DU yn ddarpariaeth berthnasol at ddibenion proses gydsynio'r Senedd os yw'n gwneud darpariaeth at unrhyw ddiben o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
O gofio bod y Bil wedi mynd drwy sawl cyfnod gwella yn Senedd y DU, fel y mae pethau, mae'r cymal hwn, fel y mae'r Gweinidog wedi'i grybwyll, bellach wedi'i rifo'n gymal 31. Mae ein hunig argymhelliad ni yn ein hadroddiad a gafodd ei osod ddoe yn ailadrodd y farn y gwnaethom ni ei mynegi fis Tachwedd diwethaf, a gofynnodd i'r Gweinidog gadarnhau, cyn y ddadl y prynhawn yma, pam na ddylai cydsyniad y Senedd gael ei geisio ar gyfer y cymal yn y Bil. Mae ef wedi cynnig esboniad y prynhawn yma, ond efallai y bydd angen i ni ddal i gytuno i anghytuno ar ôl ei esboniad arall. Ond edrychaf ymlaen at glywed unrhyw ymateb gweinidogol arall y prynhawn yma i'r pwyntiau hyn, a hefyd at dderbyn yr ymateb ysgrifenedig ffurfiol i'n hadroddiadau gan y Gweinidog cyn gynted â phosibl. Diolch yn fawr iawn, Llywydd a Gweinidog.
Fel rŷm ni wedi datgan fel plaid nifer o weithiau wrth drafod cynigion memoranda cydsyniad deddfwriaethol, rydym ni'n credu mewn egwyddor mai Senedd Cymru ddylai deddfu mewn meysydd polisïau datganoledig. Ac ar adeg pan fo Llywodraeth San Steffan yn dangos dro ar ôl tro eu hawydd a'u penderfyniad i dramgwyddo'r egwyddor honno, mae'n ddyletswydd arnom ni i sicrhau nad yw Cymru a'i Llywodraeth yn cael eu gwthio i'r ymylon wrth lunio polisi yn y meysydd yma. Rydym ni felly yn mynd i wrthwynebu'r cynnig.
Mae'n hollbwysig, ar adeg pan fo sectorau ledled Cymru—y sector addysg yn enwedig—yn ei chael hi'n anodd o ran capasiti i ddarparu gwasanaethau oherwydd heriau ac effaith y pandemig, sicrhau ein bod yn osgoi gosod unrhyw feichiau diangen ar sefydliadau a chyrff allweddol yng Nghymru, nac yn achosi unrhyw ansicrwydd neu ddryswch iddyn nhw o ran cynllunio eu darpariaeth. Mae'r sector addysg eisoes yn wynebu heriau anferth, ac ni ddylem ganiatáu i unrhyw ddarpariaethau yng nghymalau'r Bil amharu ar y sefydliadau sy'n ymateb i anghenion sgiliau Cymru, boed hynny mewn modd penodol neu o ran egwyddor gyffredinol. Mae'r ddeialog y bu'n rhaid ei chael rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wedi dangos y diffyg cyffredinol yn y berthynas a'r agwedd mae angen ei gwrthod yn llwyr. Y pwynt ehangach yw nad yw'r newidiadau a'r diwygiadau arfaethedig i'r cymalau a nodwyd fel rhai problematig yn wreiddiol yn ddigonol i sicrhau nad yw sylfaen ein democratiaeth yn cael ei thanseilio mewn modd cyffredinol—cymal technegol wrth gymal technegol, Deddf wrth Ddeddf.
Fel mae Cadeirydd y pwyllgor cyfansoddiad wedi amlinellu, mae angen mwy o fanylion efallai, a mwy o sicrwydd am y pryderon posib a amlinellwyd yn adroddiadau'r pwyllgor a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg—mwy o fanylion ynglŷn â'r ansicrwydd allai'r cymalau hyn a'r pryderon yma achosi i sefydliadau, ac o ran y dargyfeirio posib o ran adnoddau yn groes i flaenoriaethau Cymreig a all barhau i fod yn beryglon o fewn y Bil wrth inni roi ein cydsyniad i Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol ddeddfu mewn maes polisi datganoledig. Ac yn bennaf, efallai, yn sgil y broses y mae'r Gweinidog wedi'i hamlinellu, wedi'i hesbonio a'i disgrifio inni y prynhawn yma, a'r brys yma, a'r dryswch yma y mae e'n cyfleu, mae'r broses gyfan yn sicr o greu dryswch inni o ran y broses graffu. Dyw hynny ddim yn gallu cael ei gymeradwyo na'i ganiatáu.
Wrth orffen, hoffwn dynnu sylw hefyd at y ffaith bod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, yn ogystal â'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, wedi nodi nifer o bryderon, ac rŷm ni wedi eu clywed nhw y prynhawn yma, yn ymwneud ag oedi wrth osod yr LCM a'r SLCM, gan nodi pwysigrwydd cadw at yr amserlenni a nodir yn Rheolau Sefydlog y Senedd. Yn hyn o beth, nodwyd nad oedd digon o amser i ystyried na chraffu ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol a'r SLCM yma yn ddigon manwl. Dŷn nhw ddim yn denu sylw ar lawr ein Siambr fel y dadleuon mawr neu'r cwestiynau amserol, ac anaml iawn mae unrhyw sôn amdanyn nhw yn y penawdau, ond maen nhw'n bwysig ac, yn dawel bach, maen nhw'n gwanhau llais ein democratiaeth.
Rwy'n galw ar y Gweinidog addysg nawr i ymateb.
Diolch, Llywydd. Gaf i jest ymateb a diolch i'r ddau gyfrannwr yn y ddadl? Jest i ateb y pwynt oedd Sioned Williams yn ei wneud nawr, rwy'n cytuno â'r ffaith ei bod yn annymunol bod proses graffu a phroses benderfynu'r Senedd hon yn dibynnu ar amserlen y Senedd yn San Steffan, wrth gwrs. Rwy wedi esbonio sut mae hynny wedi achosi elfen o oedi o ran cyflwyno’r memoranda, sydd yn annymunol, a fyddai dim un ohonon ni eisiau gweld hynny, wrth gwrs. Ond, beth buaswn i'n dweud yng nghyd-destun y memorandwm penodol hwn yw, erbyn hyn, yn sgil y ffaith bod y trafodaethau rhyngom ni a'r Llywodraeth yn San Steffan wedi dwyn ffrwyth yn yr ystyr eu bod nhw wedi ymateb i'r hyn yr oeddem ni'n gofyn amdano fel diwygiadau, erbyn hyn mater cul iawn sydd ar ôl ar wyneb y Bil sydd yn mynnu cydsyniad y Senedd hon, dwi'n falch o allu dweud.
Diolch i Huw Irranca-Davies ac rwy'n achub ar y cyfle unwaith eto i ddiolch i'w bwyllgor, a'r pwyllgor plant a phobl ifanc, am ystyried nifer o femoranda sydd wedi ymddangos fel rhan o'r ddeddfwriaeth hon. O ran y pwyntiau a wnaeth y pwyllgor ar gymalau 1 a 4 o'r Bil, rwy'n gobeithio bod fy llythyr at y pwyllgor Plant Phobl Ifanc ac Addysg, a gafodd ei gopïo i'w bwyllgor, ddiwedd mis Tachwedd yn nodi ein barn fel Llywodraeth yn ddigon llawn o ran y ddau gymal hynny. Mae arnaf i ofn y bydd yn rhaid i'n barn ni amrywio ynghylch y dadansoddiad o ran cymal 31. Rwy'n hyderus bod ein safbwynt ni fel Llywodraeth ar sail gadarn, ond rwy'n parchu'r ffaith ei fod ef a'r pwyllgor yn arddel safbwynt ychydig yn wahanol o ran hynny. Ond, unwaith eto, rwy'n gobeithio nad yw'n fater o sylwedd mor arwyddocaol fel bod hynny'n achosi her ymarferol iddo.
Yn olaf, dylwn i gydnabod ac ymddiheuro nad yw'r pwyllgor wedi derbyn yr ymateb ffurfiol i'r adroddiad. Rwy'n gobeithio bod fy sylwadau heddiw wedi nodi, o leiaf ar gyfer y cofnod heddiw, ein safbwynt ni o ran un pwynt sy'n weddill ar sylwedd y materion a oedd yn yr adroddiad hwnnw. O'r cof, rwy'n credu y bydd llawer ohonyn nhw wedi cael eu trin yn y trydydd memorandwm, ond rwy'n cydnabod yn llwyr nad yw hynny wedi bod yn destun ymateb ffurfiol i'r pwyllgor, ac fe wnaf yn siŵr ei fod yn ei gael. Diolch yn fawr iawn. Felly, rwy'n gofyn i'r Senedd gefnogi'r cynnig a chydsynio i'r ddarpariaeth sy'n cael ei gwneud yn y Bil hwn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi'n gweld gwrthwynebiad, ac felly fe fyddwn ni'n gohirio'r bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.
Cyn i ni atal y cyfarfod ar gyfer y cyfnod pleidleisio, dwi eisiau galw Carolyn Thomas i wneud un esboniad, eglurhad, i'w roi ar y Cofnod. Carolyn Thomas.
Diolch, Llywydd. Wnes i ddim datgan fy mod yn gynghorydd yn sir y Fflint mewn cyfeiriad at y ddadl ar y gyllideb ddrafft, eitem rhif 3 ar yr agenda. Rwy'n ymddiheuro, ac a gaf i wneud hynny'n ôl-weithredol?
Diolch am yr esboniad yna. Felly, fe fyddwn ni nawr yn cymryd toriad byr ar gyfer paratoi'n dechnegol ar gyfer y bleidlais. Toriad byr, felly, nawr.