Part of the debate – Senedd Cymru am 5:59 pm ar 11 Ionawr 2022.
Diolch eto, Llywydd. Rydym wedi llunio dau adroddiad sy'n cwmpasu'r tri memorandwm cydsyniad deddfwriaethol a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ar y Bil hwn. Gobeithiaf eu bod wedi bod o gymorth i'r Gweinidog wrth iddo barhau i lywio trafodaethau rhynglywodraethol ar y Bil, yn ogystal ag i'r Aelodau sy'n cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma.