8. Cyfnod Pleidleisio

– Senedd Cymru am 5:32 pm ar 12 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:32, 12 Ionawr 2022

Dyma ni nawr yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Mae'r bleidlais gyntaf ar ddadl Plaid Cymru ar anghydraddoldebau iechyd, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, ac yn erbyn 27. Felly, fel sy'n ofynnol i mi, o dan Reol Sefydlog 6.20, dwi'n arfer fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y cynnig. Y canlyniad yw 27 o blaid, neb yn ymatal, 28 yn erbyn, felly mae'r cynnig wedi'i wrthod.

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru – Anghydraddoldebau iechyd - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 27, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y cynnig

Rhif adran 3332 Eitem 7. Dadl Plaid Cymru – Anghydraddoldebau iechyd - Cynnig heb ei ddiwygio

Ie: 27 ASau

Na: 27 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 6 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:34, 12 Ionawr 2022

Felly, rŷn ni'n symud ymlaen i bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Dwi'n agor y bleidlais ar welliant 1. Cau'r bleidlais. O blaid 27, un yn ymatal a 26 yn erbyn, ac felly, mae gwelliant 1 wedi'i gymeradwyo.

Eitem 7, Dadl Plaid Cymru - Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 27, Yn erbyn: 26, Ymatal: 1

Derbyniwyd y gwelliant

Rhif adran 3333 Eitem 7, Dadl Plaid Cymru - Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths

Ie: 27 ASau

Na: 26 ASau

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 6 ASau

Wedi ymatal: 1 AS

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Wedi ymatal: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:35, 12 Ionawr 2022

Dwi nawr, felly, yn galw am bleidlais ar y cynnig wedi'i ddiwygio gan welliant 1.

Cynnig NDM7877 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi'r anghydraddoldebau iechyd dwfn sy'n bodoli ar hyn o bryd yng Nghymru.

2. Yn nodi ymhellach, oherwydd yr anghydraddoldebau hyn, fod pandemig COVID-19 wedi cael effaith anghymesur ar lawer o unigolion, teuluoedd a chymunedau ledled Cymru.

3. Yn cydnabod bod amryfal resymau yn achosi anghydraddoldeb iechyd a bod hyn yn gofyn am ddull gweithredu integredig a thrawslywodraethol.

4. Yn cydnabod ymhellach yr ymrwymiadau sylweddol a nodir yn y Rhaglen Lywodraethu ar draws pob maes o weithgarwch y llywodraeth sydd wedi’u cynllunio i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:35, 12 Ionawr 2022

Agor y bleidlais. O blaid 27, un yn ymatal a 26 yn erbyn, felly mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi ei dderbyn. 

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - Anghydraddoldebau iechyd - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 27, Yn erbyn: 26, Ymatal: 1

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Rhif adran 3334 Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - Anghydraddoldebau iechyd - Cynnig wedi'i ddiwygio

Ie: 27 ASau

Na: 26 ASau

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 6 ASau

Wedi ymatal: 1 AS

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Wedi ymatal: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:36, 12 Ionawr 2022

Dyna'r cyfan o bleidleisiau y prynhawn yma.