– Senedd Cymru am 5:36 pm ar 12 Ionawr 2022.
Rydyn ni'n symud ymlaen i'r ddadl fer nawr. Bydd rhai ohonoch chi'n gadael y cyfarfod, o bosib. Gwnaf i adael rhyw gymaint o amser i basio i ganiatáu i hynny ddigwydd. Fe wnaf i alw'r ddadl fer nawr, felly. Mark Isherwood sy'n cyflwyno'r ddadl fer y prynhawn yma, felly drosodd i Mark Isherwood.
Diolch, Lywydd. Rwyf wedi cytuno i ganiatáu munud i Joel James a Jane Dodds siarad yn y ddadl hon. Yn anffodus, dywedir wrthyf nad yw'n bosibl darparu dehongliad Iaith Arwyddion Prydain yn fyw ar gyfer y ddadl fer hon, yn bennaf oherwydd y cymhlethdodau o wneud hynny dan y cyfyngiadau presennol ac mewn Cyfarfod Llawn rhithwir. Ond bydd ar gael gyda dehongliad Iaith Arwyddion Prydain ar ôl y ddadl yn yr un modd ag y gwneir gyda chwestiynau'r Prif Weinidog bob wythnos.
Lansiwyd yr adroddiad 'Pobl Fyddar Cymru: Anghydraddoldeb Cudd', a luniwyd gan grŵp iechyd meddwl a lles pobl fyddar Cymru, yng nghyfarfod grŵp trawsbleidiol y Senedd ar faterion byddar ar 21 Hydref gan un o awduron yr adroddiad, Dr Julia Terry, athro cyswllt iechyd meddwl a nyrsio ym Mhrifysgol Abertawe, i dynnu sylw at yr heriau a wynebir gan bobl fyddar yng Nghymru sy'n profi problemau iechyd meddwl ac i alw ar Lywodraeth Cymru i wneud newidiadau sylweddol.
Fel Cadeirydd y grŵp trawsbleidiol, addewais grybwyll yr adroddiad yn y Senedd ac rwy'n croesawu'r cyfle hwn i wneud hynny, yn y gobaith y gall greu ymateb cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru a helpu i sbarduno'r newid sydd ei angen. Mae'r adroddiad yn datgelu bod pobl fyddar yng Nghymru yn profi anghydraddoldebau iechyd meddwl sylweddol yn sgil prinder gwasanaethau hygyrch, diffyg gwasanaeth iechyd meddwl arbenigol i bobl fyddar yng Nghymru a hyfforddiant cyfyngedig ar faterion byddar i weithwyr iechyd a gofal. Mae'r materion a godwyd gan yr adroddiad yn cynnwys: gweithredu cyfyngedig ar safonau gwybodaeth hygyrch Cymru, sy'n golygu bod pobl fyddar yn dal i gael eu hamddifadu o wybodaeth mewn ffyrdd y gallant eu deall ac ymgysylltu â hwy; yr angen am wasanaeth cynghori a chyfeirio ar gyfer unigolion, teuluoedd a staff; bwlch gwybodaeth gan fod llawer o weithwyr iechyd proffesiynol heb fod yn gwybod am wasanaethau cwnsela i bobl fyddar a ddarparir gan bobl fyddar; a rhaid i bobl fyddar fynd i wardiau iechyd meddwl arbenigol yn Birmingham, Llundain neu Fanceinion i allu cyfathrebu'n llawn mewn BSL er mwyn cael eu hasesu a/neu eu trin. Fel y dywed Dr Julia Terry,
'Mae iechyd meddwl pobl Fyddar yng Nghymru wedi bod yn broblem sydd wedi'i hesgeuluso ers degawdau. Mae pobl Fyddar eisoes yn wynebu dwywaith y risg o broblemau iechyd meddwl ac yn ei chael yn anodd iawn cael cymorth gan mai anaml y mae gwasanaethau'n darparu gwybodaeth hygyrch neu wasanaethau sy'n berthnasol yn ddiwylliannol. Os na fydd unrhyw beth yn newid, bydd y risg yn parhau i iechyd meddwl pobl Fyddar yng Nghymru.'
Nod grŵp iechyd meddwl a lles pobl fyddar Cymru, sy'n cynnwys ystod eang o arbenigwyr sy'n gweithio yn y maes ac a fu'n cydweithio gyda gweithwyr proffesiynol byddar a gweithwyr proffesiynol sy'n clywed i lunio'r adroddiad hwn, yw codi ymwybyddiaeth o fewn Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid perthnasol eraill ac argymell ffyrdd o wella canlyniadau iechyd meddwl i bobl fyddar yng Nghymru.
Cynhaliwyd chwiliad llenyddiaeth, yna casglwyd data o astudiaethau achos gan bobl fyddar a dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain, gwerthusiadau o fentrau hybu iechyd meddwl a oedd yn cynnwys pobl fyddar, ystadegau gan wasanaethau dehongli Iaith Arwyddion Prydain a gwybodaeth gan wasanaethau iechyd meddwl arbenigol i bobl fyddar yn y DU. Mae 40 y cant o bobl fyddar yn profi problemau iechyd meddwl—dwywaith y lefel ymhlith pobl mewn poblogaethau sy'n clywed. Yn anffodus, adroddodd Cymdeithas Iechyd Meddwl a Byddardod Prydain yn 2020 mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU nad yw'n darparu llwybr neu wasanaeth clir i ddiwallu anghenion pobl fyddar sy'n profi iechyd meddwl gwael. Mae'r pandemig coronafeirws wedi gorfodi llawer o bobl i fyw mewn tlodi ac i wynebu argyfwng iechyd meddwl, gyda'r allgáu a wynebir gan ddefnyddwyr BSL byddar hyd yn oed yn fwy amlwg.
Mae'r adroddiad hwn yn tynnu sylw at ganfyddiadau mai cyfyngedig yw mynediad pobl fyddar at ofal iechyd yn aml, at amrywio o ran mynediad at addysg, at agweddau cymdeithasol negyddol ac at lai o gyfleoedd gwaith a hamdden. Mae llawer o bobl fyddar heb gael eu cofnodi fel pobl fyddar yn eu cofnodion gofal sylfaenol. Os cânt eu cyfeirio wedyn at wasanaethau iechyd eraill, yn aml ni chaiff manylion penodol a allai effeithio ar eu profiad o'r gwasanaeth iechyd eu trosglwyddo ac felly ni fydd y manylion hynny'n hysbys. Yn 2019, comisiynodd Iechyd Cyhoeddus Cymru adroddiad i archwilio ymddygiadau a rhwystrau iechyd a brofir gan bobl fyddar yng Nghymru a nododd fod mynediad at wasanaethau iechyd yn broblem fawr, ac mae pobl fyddar yn aml yn osgoi cysylltiad â gwasanaethau iechyd oherwydd profiadau gwael yn y gorffennol. Roedd hynny cyn i'r pandemig ddechrau. Yn 2010, comisiynodd Llywodraeth Cymru Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw (RNID) i ymchwilio i'r rhwystrau i gynhwysiant a wynebir gan bobl fyddar a thrwm eu clyw yng Nghymru. Tynnodd 84 y cant o ymatebwyr byddar sylw at y ffaith ei bod yn anodd defnyddio gwasanaethau iechyd gan mai cyfyngedig oedd y ddarpariaeth i bobl fyddar ddefnyddio gwasanaethau yng Nghymru, yn enwedig gwasanaethau iechyd. Er bod y Cynulliad, fel yr oedd ar y pryd, wedi cydnabod BSL fel iaith yn ei hawl ei hun yn 2006, ceir prinder dehonglwyr BSL o hyd. Ar y gofrestr genedlaethol o weithwyr cyfathrebu proffesiynol sy'n gweithio gyda phobl fyddar a phobl ddall a byddar, dim ond 48 o unigolion sydd wedi'u cofrestru fel rhai sy'n byw yng Nghymru, gyda chwech ar lefel hyfforddiant, sy'n is na'r targed o 64 a bennwyd gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at ymchwil sy'n dangos bod plant byddar, yn enwedig plant a anwyd i rieni sy'n clywed, o dan anfantais o'u genedigaeth, gan nad oes ganddynt fynediad at yr un cyfleoedd addysg ac iechyd â'u cyfoedion sy'n clywed; bod yna rieni sy'n clywed heb gael unrhyw brofiad o iaith weledol, megis BSL, nac wedi cael unrhyw gysylltiad â modelau rôl byddar; os na all rhieni a brodyr a chwiorydd ddefnyddio BSL, fod plant wedi'u hynysu a bod teuluoedd yn cael trafferth cyfathrebu; nad oes fawr o gymorth neu adnoddau i deulu plentyn byddar allu dysgu BSL; nad yw plant byddar yn cael cyfle i gael cyfleoedd dysgu achlysurol, i ofyn cwestiynau, i gael newyddion, gwybodaeth neu gyfalaf cymdeithasol sy'n ymestyn i addysg; bod pobl fyddar yn profi unigedd, gwahaniaethu a straen rheolaidd yn ddyddiol, sy'n cyfrannu at brofiadau o orbryder ac iselder; bod pobl fyddar yn brwydro'n barhaus i gael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl, gyda darpariaeth gyfyngedig ar eu cyfer yng Nghymru; nad oes gan dde Cymru rwydwaith iechyd meddwl arbenigol i bobl fyddar, a bod y gwasanaeth yng ngogledd Cymru bellach wedi'i ddiddymu; bod cleifion byddar sydd angen gofal cleifion mewnol at ei gilydd yn cael eu cyfeirio i Loegr, yn bell iawn oddi wrth eu teuluoedd a'u rhwydweithiau cymdeithasol, ac ar gost ariannol sylweddol i'r gwasanaeth iechyd; bod y banc data cyswllt diogel gwybodaeth ddienw, neu SAIL, sydd wedi'i leoli ym Mhrifysgol Abertawe, yn nodi nad yw systemau yng Nghymru yn gallu darparu gwybodaeth gywir am niferoedd pobl fyddar na nifer y bobl fyddar sydd â phroblemau iechyd meddwl, a bod Gwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru yn cefnogi'r farn hon; yn aml nad yw ffurflenni cleifion newydd mewn meddygfeydd meddygon teulu yn gofyn ynglŷn â'r clyw, felly anaml y caiff y wybodaeth hon ei chasglu ar gronfeydd data iechyd neu systemau canolog; bod llawer o feddygfeydd meddygon teulu heb fod yn gwybod am drefniadau lleol ar gyfer trefnu dehonglwyr BSL i alluogi pobl fyddar i gymryd rhan mewn trafodaethau ystyrlon mewn apwyntiadau iechyd; gyda dros 2,500 o blant yng Nghymru yn fyddar, fod tua 1,000 o blant yng Nghymru yn debygol o fod mewn perygl o wynebu problemau iechyd meddwl yn y dyfodol; nad oes cyswllt sefydledig ar hyn o bryd rhwng gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed byddar yng Nghymru a gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed byddar yn y DU, yn wahanol i wasanaethau CAMHS ar gyfer rhai sy'n clywed yng Nghymru a gwasanaethau CAMHS i rai sy'n clywed mewn ardaloedd eraill yn y DU; bod pedwar prif ddarparwr gwasanaethau dehongli ar gyfer pobl fyddar yng Nghymru, ond bod trefniadau ar gyfer archebu dehonglwyr BSL yn dameidiog ac nad ydynt bob amser yn hysbys i bobl fyddar. Yn aml, nid yw staff iechyd yn gwybod sut y mae systemau archebu'n gweithio ac nid ydynt yn gwybod sut i helpu. Gall dehongli ar-lein fod yn ddewis arall, ond mae'r defnydd ohono yng Nghymru yn parhau'n isel oherwydd problemau gweithdrefnol a thechnegol.
Yn seiliedig ar ei ganfyddiadau, mae'r adroddiad yn gwneud cyfres o argymhellion i fynd i'r afael â'r problemau hyn ac felly i wella iechyd meddwl cadarnhaol pobl fyddar yng Nghymru. Fel y dywed Dr Julia Terry,
'mae angen dechrau sgwrs gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu atebion tymor byr a hirdymor i wella gwasanaethau yng Nghymru i bobl Fyddar sy'n profi iechyd meddwl gwael.'
I grynhoi, mae grŵp iechyd meddwl a lles pobl fyddar Cymru yn awyddus i ddechrau deialog gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r materion a godwyd yn yr adroddiad hwn. Mae'n hanfodol fod cynnydd yn cael ei wneud tuag at atebion uniongyrchol a thymor byr, yn ogystal â darpariaeth hirdymor effeithiol i wella llwybrau iechyd meddwl ar gyfer pobl fyddar yng Nghymru.
Fis Chwefror diwethaf, cafodd fy nghynnig yn argymell bod y Senedd
'yn nodi cynnig ar gyfer Bil a fyddai'n gwneud darpariaeth i annog pobl i ddefnyddio iaith arwyddion Prydain (BSL) yng Nghymru, a gwella mynediad at addysg a gwasanaethau drwy gyfrwng BSL' ei basio yma gyda chefnogaeth drawsbleidiol, heb i'r un Aelod bleidleisio yn erbyn, gyda Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn ymatal fel mater o drefn. Nododd fy nghynnig y byddai fy Mil arfaethedig yn
'sicrhau bod gan y gymuned fyddar a phobl sydd wedi colli eu clyw lais yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion defnyddwyr gwasanaethau'.
Cysylltodd nifer fawr o bobl fyddar a grwpiau pobl fyddar ledled Cymru â mi i gefnogi hyn, gan ddweud wrthyf, er bod Llywodraeth Cymru yn datblygu siarter BSL newydd i Gymru, fod fy Mil BSL arfaethedig yn gam enfawr ymlaen. Dim ond un person a ysgrifennodd i wrthwynebu.
Fel y dywedais ar y pryd,
'mae'n amlwg fod yna awydd am ddeddfwriaeth BSL o'r fath ar draws siambr y Senedd. Byddwn yn parhau i fynd ar drywydd hyn ar ran y gymuned F/fyddar'.
Er fy mod wedi parhau i gyflwyno ceisiadau am Fil Aelod preifat yn y Senedd hon yn unol â hynny ac y byddaf yn parhau i wneud hynny, nid wyf wedi bod yn llwyddiannus hyd yma. Felly, rwy'n cloi drwy annog Llywodraeth Cymru i nodi ei chefnogaeth i Fil o'r fath yn ystod y tymor seneddol hwn. Diolch yn fawr.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Mark am godi pwnc mor bwysig i'w drafod a chaniatáu i mi gyfrannu. Fel y gŵyr rhai ohonoch, fel Mark, mae gennyf innau anawsterau clywed, ac roeddwn am ddefnyddio'r cyfle hwn i dynnu sylw at fy mhrofiadau fy hun ac i bwysleisio pwysigrwydd y mater hwn i'r Llywodraeth a'r angen i fynd i'r afael ag ef o ddifrif.
Yn blentyn, cefais ddiagnosis o lid y glust ganol, neu glust ludiog, ac yn anffodus, ar ôl sawl llawdriniaeth ysbyty i geisio lleddfu hyn, mae pilenni fy nghlustiau'n wan ac yn greithiog iawn. Ychydig flynyddoedd yn ôl, fe wnaethant grebachu yn y pen draw, ac o ganlyniad, aeth fy nghlyw, a oedd bob amser yn wael, gryn dipyn yn waeth a datblygais dinitws difrifol hefyd, a bydd hyn oll yn gwaethygu gydag oedran.
Mae bod yn drwm eich clyw yn effeithio ar fwy na gallu rhywun i glywed. Yn fy mhrofiad i, mae'n arwain at deimlo'n unig ac yn ynysig, at golli cyswllt â'r amgylchedd mewn amgylcheddau swnllyd, at deimlo'n gyfoglyd mewn amgylcheddau tawel neu pan fydd rhywun yn siarad yn rhy dawel neu dyner, a diffyg hyder cyffredinol mewn sefyllfaoedd cymdeithasol, gyda'r eironi poenus y gallaf glywed pobl yn siarad, ond na allaf ddeall yr hyn y maent yn ei ddweud. Yn anad dim, rwy'n credu na fydd pobl byth yn deall yn iawn pa mor annifyr yw gofyn i rywun ailadrodd ei hun yn barhaus, y teimladau a gewch pan fydd hyn yn codi eu gwrychyn a'r effaith y mae'n ei chael arnoch pan gewch eich diystyru fel rhywun twp neu ddi-ddeall.
Gallwch hefyd anghofio am ddysgu iaith arall, cymerodd flynyddoedd o therapi lleferydd i mi allu dysgu Saesneg, ac mae hyn wedi fy ngwneud yn ofnadwy o hunanymwybodol o'r ffordd rwy'n siarad. Roeddwn yn lwcus iawn fy mod wedi cael help a chefnogaeth gan fy rhieni, fy nheulu a fy ffrindiau, ond gwn nad yw hyn yn wir am nifer fawr o bobl sy'n dioddef nam ar eu clyw, yn enwedig yr henoed. Dyma'r mathau o rwystrau y mae pobl fyddar yn eu hwynebu sy'n eu hatal rhag gwireddu eu potensial llawn a gwneud y mwyaf o'u lles corfforol a meddyliol. Er i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) ddod i rym yn 2015, ni chafwyd arolwg cynhwysfawr diweddar o iechyd a lles y gymuned fyddar yng Nghymru. Felly, mae angen arolwg manwl penodol o'r boblogaeth i asesu sut y mae aelodau o gymuned fyddar Cymru yn rhyngweithio'n benodol, fel y dywedodd Mark, â gwasanaethau cyhoeddus a gofal iechyd yn eu cymunedau eu hunain a beth yw cyflwr eu llesiant. Diolch byth, ceir gwell ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd o fyddardod. Fodd bynnag, mae hwn yn dal i fod yn gyflwr sy'n cyfyngu cymaint ar y bywyd sydd ar gael i eraill, a gellid ei wneud gymaint yn well pe bai'n cael ei gydnabod yn llawnach gan gymdeithas a chan y Llywodraeth. Diolch am gyflwyno'r ddadl hon, Mark, ac rwyf am ddiolch i Jane hefyd am gyfrannu ati. Diolch.
Yn gyntaf, a gaf i ddiolch i Mark Isherwood am wneud dadl ar y topig yma, sy'n bwysig, bwysig iawn, a hefyd dwi'n ddiolchgar iawn i gymryd rhan?
Rwyf wedi gwneud ychydig iawn o waith gyda phlant a'u teuluoedd sydd â phroblemau clyw, ac yn amlwg yn fy ngwaith fel gweithiwr cymdeithasol rwyf wedi dod ar draws plant a phobl ifanc sy'n fyddar. Fel y clywsom, mae'n fater sy'n ymwneud â ffigurau. Nid ydym yn glir faint o bobl, plant a phobl ifanc ledled Cymru sy'n fyddar mewn gwirionedd, ond mae tua 3,200 o blant yng Nghymru yn fyddar yn ôl y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar yng Nghymru, ac maent hwy'n dweud, drwy eu hymchwil, fod tua 60 y cant yn fwy tebygol o brofi problemau iechyd meddwl na phlant eraill.
Rwyf am sôn yn fyr iawn am broblemau amddiffyn plant gyda phlant a phobl ifanc sy'n fyddar. Ceir ymchwil sy'n dangos bod nifer y profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn uwch mewn plant sy'n fyddar. Maent yn fwy tebygol o gael eu cam-drin am sawl rheswm. Yn achos plant sy'n fyddar, yn aml tybir yn anghywir fod arwyddion o drallod yn gysylltiedig â nam y plentyn yn hytrach na chael eu cydnabod fel arwydd o gam-drin. Ceir diffyg ymwybyddiaeth neu gytundeb ynglŷn â'r hyn a olygir wrth gam-drin plant byddar ac anabl, ac mae hyn yn arwain at amwysedd ym meddyliau plant ac oedolion ynghylch y camau gweithredu mwyaf priodol. Yn olaf, mae'r NSPCC yn dweud wrthym fod plant byddar ac anabl yn aml yn anweledig o ran siarad â hwy ac ymgynghori â hwy. Mewn rhai achosion, roedd gwasanaethau'n absennol o'u bywydau ac i eraill roedd y ddarpariaeth yn annigonol neu'n amhriodol.
Felly, i orffen, yn y cyfraniad byr hwn, mae angen cymorth ychwanegol ar blant a phobl ifanc byddar a'u teuluoedd yng Nghymru a help i allu cysylltu â'u cymunedau. Mae angen hyfforddiant a chymorth ychwanegol i'r rhai sy'n gweithio gyda hwy, yn enwedig mewn perthynas â'u hiechyd meddwl, ac mae angen i'n systemau, megis ein system cyfiawnder ieuenctid, addasu eu harferion i sicrhau eu bod yn diwallu eu hanghenion. Unwaith eto, diolch i Mark am y ddadl hon. Diolch am ganiatáu i mi gymryd rhan, a diolch i Joel hefyd. Diolch yn fawr iawn.
Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol nawr i ymateb i'r ddadl. Jane Hutt.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Mark Isherwood am gyflwyno'r ddadl hon heddiw ac am sicrhau bod y mater pwysig hwn yn cael ei gyflwyno fel rhan o ymrwymiad amlwg y Senedd hon i hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru? Ac a gaf fi hefyd ddiolch i Joel James am eich cyfraniad heno? Joel, fe roesoch chi ddisgrifiad mor bwerus o'ch profiad personol o fyw gydag anawsterau clyw yn eich bywyd, ac mae hynny'n dystiolaeth mor bwysig i ni, nid yn unig heno ond yn eich rôl yma fel Aelod o'r Senedd ac ym mhob dim rydych yn cyfrannu ato ar ffurf dadleuon, cwestiynau ac ymchwiliadau. Felly, diolch am ddweud wrthym am eich bywyd heddiw. Diolch yn fawr iawn, Joel. Diolch i Jane hefyd, Jane Dodds, am yr hyn rydych wedi'i ddisgrifio a'r dystiolaeth a roddwyd gennych fel rhan o'r ddadl hon o ganlyniad i'ch gwaith, yn enwedig gyda phlant a phobl ifanc.
Rwyf am gydnabod a diolch i Mark hefyd am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw, oherwydd fel y dywedoch chi, ar 24 Chwefror y llynedd, bron i flwyddyn yn ôl, ym mlwyddyn olaf y bumed Senedd, y gwnaethom drafod eich cynnig am Fil a fyddai'n darparu ar gyfer annog y defnydd o Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru a gwella mynediad at addysg a gwasanaethau mewn BSL, ac roeddwn yn falch o ymateb i'r ddadl honno. Ac wrth gwrs, yr wythnos diwethaf, cawsom ddatganiadau a dadleuon eraill.
Fis Rhagfyr diwethaf, gwnaethom nodi diwrnod rhyngwladol hawliau pobl anabl, a gwneuthum ddatganiad bryd hynny, yn tynnu sylw at y ffordd y mae'r pandemig COVID-19 wedi cael effaith ddinistriol ar bobl anabl, gan waethygu anghydraddoldebau a oedd eisoes yn bodoli. Mae'r ddadl hon yn mynd y tu hwnt i hynny, a chyn y pandemig, o ran camau polisi rydym am eu cymryd gyda'n gilydd.
O ran y pandemig, nid oes amheuaeth nad yw wedi effeithio'n andwyol ar bobl fyddar, wrth iddynt orfod wynebu cyfyngiadau'n gysylltiedig â COVID-19 sydd wedi cyfyngu ar y defnydd o ddydd i ddydd o BSL, ac mae hyn wedi'i gydnabod heno, onid yw, Mark, yn y ffordd y methwyd defnyddio BSL ar gyfer y ddadl hon? Ond rwy'n falch iawn y bydd yn cael ei defnyddio yn dilyn y ddadl.
O ran ein fforwm cydraddoldeb i bobl anabl, a gadeirir gennyf: cyfarfod yn aml iawn yn ystod y pandemig; ceisio ymateb yn briodol i'r materion sy'n effeithio ar bobl anabl hefyd; a chyfarfod â chynrychiolwyr sefydliadau sy'n cefnogi pobl fyddar. Mae pobl fyddar eu hunain, yn hollbwysig, yn rhan o'r fforwm hwnnw. Mae rhai hefyd yn aelodau o'r grŵp llywio, y sonioch chi amdano yn eich cwestiynau i mi y prynhawn yma, Mark, y grŵp llywio a ddatblygodd yr adroddiad 'Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19', a gomisiynwyd gennym fel rhan o waith y fforwm, ac mae'r adroddiad hwnnw'n canolbwyntio ar yr annhegwch amlwg y mae pobl anabl yn ei wynebu, ond mae hefyd yn tynnu sylw at y rhwystrau sy'n effeithio ar bobl fyddar a'r defnydd o BSL. Mae'n rhaid inni gydnabod, ochr yn ochr â'r defnydd o BSL, wrth gwrs, yr effaith y byddai hyn yn ei chael mewn perthynas â siaradwyr gwefusau a darllenwyr gwefusau. Mae'n adroddiad sobreiddiol iawn. Rwy'n falch eich bod wedi tynnu sylw Aelodau eraill o'r Senedd ato heddiw ac yn y ddadl hon.
Mae gennym y tasglu hawliau anabledd, a byddant—. Yn amlwg, bydd y ddadl hon, rwy'n siŵr, yn dystiolaeth bwysig i fwydo i mewn i hynny, oherwydd mae'n mynd i fwrw ymlaen ag argymhellion yr adroddiad—y tasglu—ac mae'n cynnwys canfyddiadau ac argymhellion mewn perthynas â phrofiadau pobl fyddar yn ystod y pandemig.
Y llynedd, fel Llywodraeth Cymru, fe wnaethom gomisiynu Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain i gynnal adroddiad archwilio ar BSL. Cafodd hynny ei gydnabod heno. Hefyd, bydd canfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad, y byddaf yn eu rhannu gyda chi wrth gwrs, yn darparu fframwaith defnyddiol iawn ar gyfer ymateb i'r adroddiad 'Drws ar Glo', y cymorth penodol rydym ei angen ar gyfer pobl fyddar, y gallwn ei gynnwys yn rhaglen waith y tasglu hawliau anabledd. Rwyf wedi sôn ei fod wedi cael ei gyfarfod cyntaf. Mae'n cynnwys pobl a sefydliadau o bob rhan o Gymru sydd â phrofiad bywyd, arbenigedd a gallu i greu newid hirhoedlog.
Byddem yn ceisio trosi adroddiadau ymchwil yn gamau gweithredu ymarferol a chynaliadwy, gan wella canlyniadau a newid pethau er gwell i bobl anabl a phobl fyddar ledled Cymru. Wrth gwrs, mae hyn i gyd wedi'i seilio ar y model cymdeithasol o anabledd, i gydnabod bod gwerthoedd, ymddygiadau a strwythurau cymdeithas, polisïau cymdeithasol ac economaidd ac amgylcheddau adeiledig—maent yn analluogi pobl, ac mae'r adroddiad 'Drws ar Glo' wedi datgelu'r gwaith sydd ei angen i sicrhau newid hirdymor.
Mae BSL yn ffordd allweddol o gyfathrebu â phobl fyddar sy'n galluogi cynhwysiant cymdeithasol effeithiol a mynediad at wasanaethau. Yn 2004, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gydnabod BSL yn ffurfiol fel iaith yn ei hawl ei hun. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cyfathrebu hygyrch. Ni yw'r Llywodraeth gyntaf yn y DU i sicrhau bod ein cynadleddau i'r wasg ar COVID-19 yn cynnwys dehonglwr BSL.
Sefydlwyd y grŵp cyfathrebu hygyrch hefyd i oresgyn rhwystrau a gwella mynediad at wybodaeth, ac mae hynny wedi bod yn amhrisiadwy. Mae angen gwneud llawer mwy i gydlynu dull o hyrwyddo cefnogaeth i BSL. Rydym wedi ymrwymo i wneud hyn, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu siarter BSL, a phan fydd y broses archwilio wedi'i chwblhau, rydym yn rhagweld y byddwn yn ymrwymo i siarter BSL Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain. Byddai hyn yn ein galluogi i arwain drwy esiampl, a gobeithio y gall y Comisiwn ymrwymo i hyn ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru.
Hoffwn ddweud hefyd ein bod yn cydnabod y ddarpariaeth iechyd meddwl, grŵp iechyd meddwl a lles pobl fyddar Cymru, ac yn cydnabod yr adroddiad y mae Mark Isherwood wedi tynnu sylw ato heno, o'r enw 'Pobl Fyddar Cymru: Anghydraddoldeb Cudd'. Rwyf wedi gofyn i swyddogion ystyried y canfyddiadau fel rhan o'r gwaith tuag at weithredu 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', a'r fframwaith gweithredu ar gyfer Cymru, y fframwaith gofal a chymorth integredig i bobl sy'n fyddar neu sy'n byw â cholled clyw. Rhaid inni brif ffrydio hyn yn glir ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, ac nid iechyd a gofal cymdeithasol yn unig ond ar draws Llywodraeth Cymru o ran mynediad at dai, trafnidiaeth, addysg—pob dim.
Mae llawer mwy y gallwn ei ddweud heno ynglŷn â sut rydym yn symud hyn yn ei flaen, ond hoffwn ddweud bod y fframwaith gweithredu ar gyfer 2017-20, y fframwaith gofal a chymorth integredig ar gyfer pobl fyddar neu sy'n byw â cholled clyw, wedi'i ymestyn i 2023. Bydd hwn yn llywio—nid arwain yn unig ond llywio—canlyniadau'r ddarpariaeth o ran gofal a chymorth ledled Cymru. Ac rydym yn gweithio'n agos, yn enwedig gyda byrddau iechyd, i sicrhau bod gwybodaeth am anghenion iechyd pobl â nam ar y synhwyrau yn cael ei chyfleu yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010, fel y nodwyd yn y safonau ar gyfer Cymru.
Felly, a gaf fi ddweud i orffen ein bod wedi ymrwymo fel Llywodraeth Cymru i hyrwyddo a chryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol i bobl yng Nghymru? Rwy'n croesawu'r cyfle heddiw i drafod yr anghydraddoldebau a wynebir gan bobl fyddar. Rydym wedi clywed beth sydd ar y gweill i fynd i'r afael â'r rhain a sut y gallwn adeiladu ar yr hyn sy'n gweithio, beth arall sydd angen ei wneud i ddileu'r rhwystrau y mae cymdeithas yn eu codi, ac rydym yn falch hefyd fod ymrwymiad cryf i'w weld yma yn drawsbleidiol i fynd i'r afael â gwahaniaethu ar sail anabledd. Fel gyda phob anghydraddoldeb, mae'n cymryd ymrwymiad cyfunol ac egni pob arweinydd a chymuned ledled Cymru i sicrhau gwelliannau parhaus a gwell canlyniadau i holl ddinasyddion Cymru. Diolch yn fawr i chi i gyd.
Ie wir, diolch i bawb a gyfrannodd at y ddadl bwysig honno. Fe ddaw hynny â thrafodion heddiw i ben.