Part of the debate – Senedd Cymru am 5:36 pm ar 12 Ionawr 2022.
Diolch, Lywydd. Rwyf wedi cytuno i ganiatáu munud i Joel James a Jane Dodds siarad yn y ddadl hon. Yn anffodus, dywedir wrthyf nad yw'n bosibl darparu dehongliad Iaith Arwyddion Prydain yn fyw ar gyfer y ddadl fer hon, yn bennaf oherwydd y cymhlethdodau o wneud hynny dan y cyfyngiadau presennol ac mewn Cyfarfod Llawn rhithwir. Ond bydd ar gael gyda dehongliad Iaith Arwyddion Prydain ar ôl y ddadl yn yr un modd ag y gwneir gyda chwestiynau'r Prif Weinidog bob wythnos.
Lansiwyd yr adroddiad 'Pobl Fyddar Cymru: Anghydraddoldeb Cudd', a luniwyd gan grŵp iechyd meddwl a lles pobl fyddar Cymru, yng nghyfarfod grŵp trawsbleidiol y Senedd ar faterion byddar ar 21 Hydref gan un o awduron yr adroddiad, Dr Julia Terry, athro cyswllt iechyd meddwl a nyrsio ym Mhrifysgol Abertawe, i dynnu sylw at yr heriau a wynebir gan bobl fyddar yng Nghymru sy'n profi problemau iechyd meddwl ac i alw ar Lywodraeth Cymru i wneud newidiadau sylweddol.
Fel Cadeirydd y grŵp trawsbleidiol, addewais grybwyll yr adroddiad yn y Senedd ac rwy'n croesawu'r cyfle hwn i wneud hynny, yn y gobaith y gall greu ymateb cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru a helpu i sbarduno'r newid sydd ei angen. Mae'r adroddiad yn datgelu bod pobl fyddar yng Nghymru yn profi anghydraddoldebau iechyd meddwl sylweddol yn sgil prinder gwasanaethau hygyrch, diffyg gwasanaeth iechyd meddwl arbenigol i bobl fyddar yng Nghymru a hyfforddiant cyfyngedig ar faterion byddar i weithwyr iechyd a gofal. Mae'r materion a godwyd gan yr adroddiad yn cynnwys: gweithredu cyfyngedig ar safonau gwybodaeth hygyrch Cymru, sy'n golygu bod pobl fyddar yn dal i gael eu hamddifadu o wybodaeth mewn ffyrdd y gallant eu deall ac ymgysylltu â hwy; yr angen am wasanaeth cynghori a chyfeirio ar gyfer unigolion, teuluoedd a staff; bwlch gwybodaeth gan fod llawer o weithwyr iechyd proffesiynol heb fod yn gwybod am wasanaethau cwnsela i bobl fyddar a ddarparir gan bobl fyddar; a rhaid i bobl fyddar fynd i wardiau iechyd meddwl arbenigol yn Birmingham, Llundain neu Fanceinion i allu cyfathrebu'n llawn mewn BSL er mwyn cael eu hasesu a/neu eu trin. Fel y dywed Dr Julia Terry,
'Mae iechyd meddwl pobl Fyddar yng Nghymru wedi bod yn broblem sydd wedi'i hesgeuluso ers degawdau. Mae pobl Fyddar eisoes yn wynebu dwywaith y risg o broblemau iechyd meddwl ac yn ei chael yn anodd iawn cael cymorth gan mai anaml y mae gwasanaethau'n darparu gwybodaeth hygyrch neu wasanaethau sy'n berthnasol yn ddiwylliannol. Os na fydd unrhyw beth yn newid, bydd y risg yn parhau i iechyd meddwl pobl Fyddar yng Nghymru.'
Nod grŵp iechyd meddwl a lles pobl fyddar Cymru, sy'n cynnwys ystod eang o arbenigwyr sy'n gweithio yn y maes ac a fu'n cydweithio gyda gweithwyr proffesiynol byddar a gweithwyr proffesiynol sy'n clywed i lunio'r adroddiad hwn, yw codi ymwybyddiaeth o fewn Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid perthnasol eraill ac argymell ffyrdd o wella canlyniadau iechyd meddwl i bobl fyddar yng Nghymru.