Part of the debate – Senedd Cymru am 5:40 pm ar 12 Ionawr 2022.
Cynhaliwyd chwiliad llenyddiaeth, yna casglwyd data o astudiaethau achos gan bobl fyddar a dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain, gwerthusiadau o fentrau hybu iechyd meddwl a oedd yn cynnwys pobl fyddar, ystadegau gan wasanaethau dehongli Iaith Arwyddion Prydain a gwybodaeth gan wasanaethau iechyd meddwl arbenigol i bobl fyddar yn y DU. Mae 40 y cant o bobl fyddar yn profi problemau iechyd meddwl—dwywaith y lefel ymhlith pobl mewn poblogaethau sy'n clywed. Yn anffodus, adroddodd Cymdeithas Iechyd Meddwl a Byddardod Prydain yn 2020 mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU nad yw'n darparu llwybr neu wasanaeth clir i ddiwallu anghenion pobl fyddar sy'n profi iechyd meddwl gwael. Mae'r pandemig coronafeirws wedi gorfodi llawer o bobl i fyw mewn tlodi ac i wynebu argyfwng iechyd meddwl, gyda'r allgáu a wynebir gan ddefnyddwyr BSL byddar hyd yn oed yn fwy amlwg.
Mae'r adroddiad hwn yn tynnu sylw at ganfyddiadau mai cyfyngedig yw mynediad pobl fyddar at ofal iechyd yn aml, at amrywio o ran mynediad at addysg, at agweddau cymdeithasol negyddol ac at lai o gyfleoedd gwaith a hamdden. Mae llawer o bobl fyddar heb gael eu cofnodi fel pobl fyddar yn eu cofnodion gofal sylfaenol. Os cânt eu cyfeirio wedyn at wasanaethau iechyd eraill, yn aml ni chaiff manylion penodol a allai effeithio ar eu profiad o'r gwasanaeth iechyd eu trosglwyddo ac felly ni fydd y manylion hynny'n hysbys. Yn 2019, comisiynodd Iechyd Cyhoeddus Cymru adroddiad i archwilio ymddygiadau a rhwystrau iechyd a brofir gan bobl fyddar yng Nghymru a nododd fod mynediad at wasanaethau iechyd yn broblem fawr, ac mae pobl fyddar yn aml yn osgoi cysylltiad â gwasanaethau iechyd oherwydd profiadau gwael yn y gorffennol. Roedd hynny cyn i'r pandemig ddechrau. Yn 2010, comisiynodd Llywodraeth Cymru Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw (RNID) i ymchwilio i'r rhwystrau i gynhwysiant a wynebir gan bobl fyddar a thrwm eu clyw yng Nghymru. Tynnodd 84 y cant o ymatebwyr byddar sylw at y ffaith ei bod yn anodd defnyddio gwasanaethau iechyd gan mai cyfyngedig oedd y ddarpariaeth i bobl fyddar ddefnyddio gwasanaethau yng Nghymru, yn enwedig gwasanaethau iechyd. Er bod y Cynulliad, fel yr oedd ar y pryd, wedi cydnabod BSL fel iaith yn ei hawl ei hun yn 2006, ceir prinder dehonglwyr BSL o hyd. Ar y gofrestr genedlaethol o weithwyr cyfathrebu proffesiynol sy'n gweithio gyda phobl fyddar a phobl ddall a byddar, dim ond 48 o unigolion sydd wedi'u cofrestru fel rhai sy'n byw yng Nghymru, gyda chwech ar lefel hyfforddiant, sy'n is na'r targed o 64 a bennwyd gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at ymchwil sy'n dangos bod plant byddar, yn enwedig plant a anwyd i rieni sy'n clywed, o dan anfantais o'u genedigaeth, gan nad oes ganddynt fynediad at yr un cyfleoedd addysg ac iechyd â'u cyfoedion sy'n clywed; bod yna rieni sy'n clywed heb gael unrhyw brofiad o iaith weledol, megis BSL, nac wedi cael unrhyw gysylltiad â modelau rôl byddar; os na all rhieni a brodyr a chwiorydd ddefnyddio BSL, fod plant wedi'u hynysu a bod teuluoedd yn cael trafferth cyfathrebu; nad oes fawr o gymorth neu adnoddau i deulu plentyn byddar allu dysgu BSL; nad yw plant byddar yn cael cyfle i gael cyfleoedd dysgu achlysurol, i ofyn cwestiynau, i gael newyddion, gwybodaeth neu gyfalaf cymdeithasol sy'n ymestyn i addysg; bod pobl fyddar yn profi unigedd, gwahaniaethu a straen rheolaidd yn ddyddiol, sy'n cyfrannu at brofiadau o orbryder ac iselder; bod pobl fyddar yn brwydro'n barhaus i gael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl, gyda darpariaeth gyfyngedig ar eu cyfer yng Nghymru; nad oes gan dde Cymru rwydwaith iechyd meddwl arbenigol i bobl fyddar, a bod y gwasanaeth yng ngogledd Cymru bellach wedi'i ddiddymu; bod cleifion byddar sydd angen gofal cleifion mewnol at ei gilydd yn cael eu cyfeirio i Loegr, yn bell iawn oddi wrth eu teuluoedd a'u rhwydweithiau cymdeithasol, ac ar gost ariannol sylweddol i'r gwasanaeth iechyd; bod y banc data cyswllt diogel gwybodaeth ddienw, neu SAIL, sydd wedi'i leoli ym Mhrifysgol Abertawe, yn nodi nad yw systemau yng Nghymru yn gallu darparu gwybodaeth gywir am niferoedd pobl fyddar na nifer y bobl fyddar sydd â phroblemau iechyd meddwl, a bod Gwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru yn cefnogi'r farn hon; yn aml nad yw ffurflenni cleifion newydd mewn meddygfeydd meddygon teulu yn gofyn ynglŷn â'r clyw, felly anaml y caiff y wybodaeth hon ei chasglu ar gronfeydd data iechyd neu systemau canolog; bod llawer o feddygfeydd meddygon teulu heb fod yn gwybod am drefniadau lleol ar gyfer trefnu dehonglwyr BSL i alluogi pobl fyddar i gymryd rhan mewn trafodaethau ystyrlon mewn apwyntiadau iechyd; gyda dros 2,500 o blant yng Nghymru yn fyddar, fod tua 1,000 o blant yng Nghymru yn debygol o fod mewn perygl o wynebu problemau iechyd meddwl yn y dyfodol; nad oes cyswllt sefydledig ar hyn o bryd rhwng gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed byddar yng Nghymru a gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed byddar yn y DU, yn wahanol i wasanaethau CAMHS ar gyfer rhai sy'n clywed yng Nghymru a gwasanaethau CAMHS i rai sy'n clywed mewn ardaloedd eraill yn y DU; bod pedwar prif ddarparwr gwasanaethau dehongli ar gyfer pobl fyddar yng Nghymru, ond bod trefniadau ar gyfer archebu dehonglwyr BSL yn dameidiog ac nad ydynt bob amser yn hysbys i bobl fyddar. Yn aml, nid yw staff iechyd yn gwybod sut y mae systemau archebu'n gweithio ac nid ydynt yn gwybod sut i helpu. Gall dehongli ar-lein fod yn ddewis arall, ond mae'r defnydd ohono yng Nghymru yn parhau'n isel oherwydd problemau gweithdrefnol a thechnegol.
Yn seiliedig ar ei ganfyddiadau, mae'r adroddiad yn gwneud cyfres o argymhellion i fynd i'r afael â'r problemau hyn ac felly i wella iechyd meddwl cadarnhaol pobl fyddar yng Nghymru. Fel y dywed Dr Julia Terry,
'mae angen dechrau sgwrs gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu atebion tymor byr a hirdymor i wella gwasanaethau yng Nghymru i bobl Fyddar sy'n profi iechyd meddwl gwael.'
I grynhoi, mae grŵp iechyd meddwl a lles pobl fyddar Cymru yn awyddus i ddechrau deialog gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r materion a godwyd yn yr adroddiad hwn. Mae'n hanfodol fod cynnydd yn cael ei wneud tuag at atebion uniongyrchol a thymor byr, yn ogystal â darpariaeth hirdymor effeithiol i wella llwybrau iechyd meddwl ar gyfer pobl fyddar yng Nghymru.
Fis Chwefror diwethaf, cafodd fy nghynnig yn argymell bod y Senedd
'yn nodi cynnig ar gyfer Bil a fyddai'n gwneud darpariaeth i annog pobl i ddefnyddio iaith arwyddion Prydain (BSL) yng Nghymru, a gwella mynediad at addysg a gwasanaethau drwy gyfrwng BSL' ei basio yma gyda chefnogaeth drawsbleidiol, heb i'r un Aelod bleidleisio yn erbyn, gyda Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn ymatal fel mater o drefn. Nododd fy nghynnig y byddai fy Mil arfaethedig yn
'sicrhau bod gan y gymuned fyddar a phobl sydd wedi colli eu clyw lais yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion defnyddwyr gwasanaethau'.
Cysylltodd nifer fawr o bobl fyddar a grwpiau pobl fyddar ledled Cymru â mi i gefnogi hyn, gan ddweud wrthyf, er bod Llywodraeth Cymru yn datblygu siarter BSL newydd i Gymru, fod fy Mil BSL arfaethedig yn gam enfawr ymlaen. Dim ond un person a ysgrifennodd i wrthwynebu.
Fel y dywedais ar y pryd,
'mae'n amlwg fod yna awydd am ddeddfwriaeth BSL o'r fath ar draws siambr y Senedd. Byddwn yn parhau i fynd ar drywydd hyn ar ran y gymuned F/fyddar'.
Er fy mod wedi parhau i gyflwyno ceisiadau am Fil Aelod preifat yn y Senedd hon yn unol â hynny ac y byddaf yn parhau i wneud hynny, nid wyf wedi bod yn llwyddiannus hyd yma. Felly, rwy'n cloi drwy annog Llywodraeth Cymru i nodi ei chefnogaeth i Fil o'r fath yn ystod y tymor seneddol hwn. Diolch yn fawr.