Part of the debate – Senedd Cymru am 5:48 pm ar 12 Ionawr 2022.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Mark am godi pwnc mor bwysig i'w drafod a chaniatáu i mi gyfrannu. Fel y gŵyr rhai ohonoch, fel Mark, mae gennyf innau anawsterau clywed, ac roeddwn am ddefnyddio'r cyfle hwn i dynnu sylw at fy mhrofiadau fy hun ac i bwysleisio pwysigrwydd y mater hwn i'r Llywodraeth a'r angen i fynd i'r afael ag ef o ddifrif.
Yn blentyn, cefais ddiagnosis o lid y glust ganol, neu glust ludiog, ac yn anffodus, ar ôl sawl llawdriniaeth ysbyty i geisio lleddfu hyn, mae pilenni fy nghlustiau'n wan ac yn greithiog iawn. Ychydig flynyddoedd yn ôl, fe wnaethant grebachu yn y pen draw, ac o ganlyniad, aeth fy nghlyw, a oedd bob amser yn wael, gryn dipyn yn waeth a datblygais dinitws difrifol hefyd, a bydd hyn oll yn gwaethygu gydag oedran.
Mae bod yn drwm eich clyw yn effeithio ar fwy na gallu rhywun i glywed. Yn fy mhrofiad i, mae'n arwain at deimlo'n unig ac yn ynysig, at golli cyswllt â'r amgylchedd mewn amgylcheddau swnllyd, at deimlo'n gyfoglyd mewn amgylcheddau tawel neu pan fydd rhywun yn siarad yn rhy dawel neu dyner, a diffyg hyder cyffredinol mewn sefyllfaoedd cymdeithasol, gyda'r eironi poenus y gallaf glywed pobl yn siarad, ond na allaf ddeall yr hyn y maent yn ei ddweud. Yn anad dim, rwy'n credu na fydd pobl byth yn deall yn iawn pa mor annifyr yw gofyn i rywun ailadrodd ei hun yn barhaus, y teimladau a gewch pan fydd hyn yn codi eu gwrychyn a'r effaith y mae'n ei chael arnoch pan gewch eich diystyru fel rhywun twp neu ddi-ddeall.
Gallwch hefyd anghofio am ddysgu iaith arall, cymerodd flynyddoedd o therapi lleferydd i mi allu dysgu Saesneg, ac mae hyn wedi fy ngwneud yn ofnadwy o hunanymwybodol o'r ffordd rwy'n siarad. Roeddwn yn lwcus iawn fy mod wedi cael help a chefnogaeth gan fy rhieni, fy nheulu a fy ffrindiau, ond gwn nad yw hyn yn wir am nifer fawr o bobl sy'n dioddef nam ar eu clyw, yn enwedig yr henoed. Dyma'r mathau o rwystrau y mae pobl fyddar yn eu hwynebu sy'n eu hatal rhag gwireddu eu potensial llawn a gwneud y mwyaf o'u lles corfforol a meddyliol. Er i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) ddod i rym yn 2015, ni chafwyd arolwg cynhwysfawr diweddar o iechyd a lles y gymuned fyddar yng Nghymru. Felly, mae angen arolwg manwl penodol o'r boblogaeth i asesu sut y mae aelodau o gymuned fyddar Cymru yn rhyngweithio'n benodol, fel y dywedodd Mark, â gwasanaethau cyhoeddus a gofal iechyd yn eu cymunedau eu hunain a beth yw cyflwr eu llesiant. Diolch byth, ceir gwell ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd o fyddardod. Fodd bynnag, mae hwn yn dal i fod yn gyflwr sy'n cyfyngu cymaint ar y bywyd sydd ar gael i eraill, a gellid ei wneud gymaint yn well pe bai'n cael ei gydnabod yn llawnach gan gymdeithas a chan y Llywodraeth. Diolch am gyflwyno'r ddadl hon, Mark, ac rwyf am ddiolch i Jane hefyd am gyfrannu ati. Diolch.