1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 12 Ionawr 2022.
5. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch cyflymu'r broses o weithredu'r rhaglen ôl-ffitio i aelwydydd mewn tlodi tanwydd? OQ57417
Rwy'n gweithio gyda chyd-Weinidogion yn y Cabinet ar gamau gweithredu i fynd i'r afael â thlodi. Mae'r cynllun cymorth tanwydd gaeaf newydd, y cynnydd arfaethedig yng nghyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y rhaglen Cartrefi Clyd o 2022-23, a'r ymgynghoriad ar iteriad nesaf y rhaglen Cartrefi Clyd yn dangos ein hymrwymiad yn y maes hwn.
Diolch, Weinidog. Clywais eich sylwadau cynharach, ac rwyf am ganolbwyntio yn fy nghwestiwn atodol ar rôl y sector preifat, am mai yn y sector rhentu preifat y ceir y cartrefi sydd wedi'u hinswleiddio waethaf, a dyna lle mae tenantiaid hefyd yn gorfod talu rhenti uwch. Roeddwn yn siarad ag etholwr y penwythnos hwn am yr anallu i gadw eu hystafell fyw yn gynnes, hyd yn oed ar ôl wyth neu naw awr o gael y gwres ynghynn. Yn amlwg, mae'r allyriadau carbon a'r arian sydd ynghlwm i gyd yn mynd allan drwy'r ffenestr, yn enwedig gan nad yw'r landlord yn yr achos penodol hwn yn cynnal a chadw'r adeilad yn iawn, ac mae'n amlwg eu bod yn gwneud elw mawr o'r rhenti y maent yn eu codi. Rwyf am edrych yn arbennig ar yr holl adeiladau nad ydynt yn cydymffurfio â sgôr effeithlonrwydd E y dystysgrif perfformiad ynni, oherwydd dyna'r lefel ofynnol. Nid wyf yn deall pam y ceir esemptiadau o hyd i unrhyw un sy'n ceisio rhentu pan fo hon yn lefel ofynnol absoliwt ac mae'n amlwg fod angen inni sicrhau bod y sector rhentu preifat yn chwarae ei ran. Mae gwelliant wedi bod yng Nghaerdydd, ond mae ceir dros 5,000 o gartrefi o hyd nad ydynt yn bodloni'r sgôr E ofynnol ar gyfer effeithlonrwydd ynni, sydd, yn amlwg, yn golygu costau enfawr i unigolion yn ogystal ag i'r amgylchedd. Felly, beth y gellir ei wneud i gael landlordiaid i chwarae eu rhan yn hyn oll?
Diolch am y cwestiwn hollbwysig hwn y prynhawn yma, Jenny Rathbone. Rydych wedi crynhoi'r sefyllfa enbyd y mae llawer o rentwyr preifat ynddi. Fel y gwyddoch, awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am orfodi safonau effeithlonrwydd ynni gofynnol yn y sector rhentu preifat, felly Rhentu Doeth Cymru, gan weithio gydag awdurdodau lleol a landlordiaid, sydd i fod i ddarparu'r wybodaeth honno am helpu i gyrraedd y safonau gofynnol. Rydym wedi ein sicrhau bod Rhentu Doeth Cymru yn gweithio'n agos gyda chynllun Nyth y rhaglen Cartrefi Clyd i gyfeirio aelwydydd a allai fod yn bodloni'r cymhwysedd ar gyfer y gwelliannau effeithlonrwydd ynni hynny i'r cartref. Rwyf eisoes wedi sôn y prynhawn yma am y £30 miliwn ychwanegol yn y gyllideb ar gyfer effeithlonrwydd ynni aelwydydd incwm is yn y flwyddyn ariannol nesaf. Dyna gynnydd o 10 y cant. Ond yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth sy'n cael ei ddatblygu'n bennaf gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, gyda fy nghefnogaeth i, i edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud i gyflymu'r rhaglen Cartrefi Clyd a'r strategaeth tlodi tanwydd.