2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru ar 12 Ionawr 2022.
1. Pa ystyriaeth y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i rhoi i'r argymhellion a wnaed gan adolygiad annibynnol Syr Christopher Bellamy o gymorth cyfreithiol troseddol? OQ57418
Diolch am y cwestiwn. Mae Syr Christopher Bellamy yn gwneud llawer o argymhellion hanfodol am y system cyfiawnder troseddol a chymorth cyfreithiol troseddol. Bydd y graddau y mae Llywodraeth y DU yn derbyn ei argymhellion yn brawf da o'r graddau y maent wedi ymrwymo i achub y system cyfiawnder troseddol y maent yn gyfrifol amdani.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw. Gwnsler Cyffredinol, rwy'n siŵr eich bod yn cytuno â mi, a chyda Syr Christopher Bellamy, fod angen buddsoddiad enfawr ar y system cymorth cyfreithiol i'w hadfer i ryw lefel o iechyd ar ôl blynyddoedd o'i hesgeuluso gan wahanol Lywodraethau yn San Steffan. Ond os edrychwn y tu hwnt i gwmpas adolygiad Syr Christopher Bellamy, rydym wedi gweld pa mor anodd yw hi i bobl gyffredin gael cyfiawnder—yr is-bostfeistri hynny a gollfarnwyd yn gyfeiliornus yng Nghymru ac ar draws y DU, y rhai a gollodd eu bywydau yn Grenfell a'r cefnogwyr a'u teuluoedd a aeth i gêm bêl-droed ac na ddaeth adref yn eu holau. Roedd gan bob un ohonynt un peth yn gyffredin: roeddent i gyd yn wynebu rhwystrau enfawr rhag gallu cael cyfiawnder. Gwnsler Cyffredinol, a ydych yn cytuno â mi, ac a ydych yn cefnogi galwadau gan Andy Burnham, Steve Rotheram a Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin, am gyfraith Hillsborough yn awr?
Yn gyntaf, a gaf fi ddiolch ichi am y cwestiwn atodol pwysig iawn hwnnw? Hoffwn ddweud i ddechrau fy mod, wrth gwrs, wedi cyfarfod â Syr Christopher Bellamy ac mae llawer o'r pwyntiau rydych chi'n eu codi yn bwyntiau rwyf finnau wedi'u codi. Ac rwyf hefyd yn ddiolchgar iawn i'r Aelod am godi'r mater hwn yn rheolaidd oherwydd mae mynediad at gyfiawnder, i ryw raddau, yn dibynnu ar gael system cymorth cyfreithiol effeithiol sy’n gweithio. Nododd Syr Christopher Bellamy gyfres gyfan o broblemau sy’n ymwneud â mynediad at gyfiawnder gan gynnwys hygyrchedd cyfreithwyr, y diffyg cyngor cyfreithiol sy’n bodoli, a’r system ariannu hefyd. Ond roedd yn eithaf cyfyngedig mewn perthynas â chymorth cyfreithiol troseddol.
Ar ymgyrch cyfraith Hillsborough, mae gennyf ddiddordeb mawr iawn ynddi. Yn y gorffennol, bûm yn ymwneud ag achosion Orgreave a'r galw am ymchwiliad i Orgreave, er enghraifft, a phe bai gwersi wedi cael eu dysgu o hynny, gallai fod wedi cael effaith ar y ffordd y datblygodd Hillsborough ac yn y blaen.
Nawr daeth y cynigion, yn ôl fel rwy'n eu deall, gan Esgob Lerpwl mewn gwirionedd, a thri o'r rhai allweddol oedd y dylid cael eiriolwr cyhoeddus, cynrychiolaeth mewn cwestau, sy'n rhywbeth rwyf bob amser wedi dadlau o’i blaid, yn ogystal â dyletswydd gonestrwydd. Ac mae yna rai eraill wrth gwrs. Felly, rwy’n credu bod hon yn alwad bwysig iawn, ac rwy’n deall pam ei bod wedi digwydd. Mae'n ymwneud â sicrhau bod gan sylfaen y bobl mewn cymunedau’n cael mynediad at gyfiawnder ac rwy'n credu ei fod yn fater yr hoffwn ei archwilio ymhellach. Deddfwriaeth gan Lywodraeth y DU ydyw wrth gwrs, ond mae’n bosibl iawn y bydd gwersi perthnasol i Gymru eu dysgu, ac os yw’r Aelod yn hapus, rwy’n fwy na pharod i gyfarfod ag ef, a chydag Aelodau eraill mewn gwirionedd, er mwyn archwilio sut y gallai pwysigrwydd y galwadau am gyfraith Hillsborough fod yn berthnasol i Gymru a hefyd yn berthnasol i gyfiawnder sy’n digwydd yng Nghymru. Ac wrth gwrs, nid yw cyfiawnder wedi’i ddatganoli. Pe bai wedi’i ddatganoli, rwy’n credu efallai y gallem symud yn gynt ac mewn modd llawer mwy blaengar mewn perthynas â’r mater hwn. Ond rwy'n sicr yn ei archwilio; mae gennyf ddiddordeb mawr ynddo, ac rwy’n hapus i ymgysylltu â’r Aelod ac eraill i edrych arno ymhellach.