Rheoliadau Diogelwch Tomenni Glo

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 12 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 3:03, 12 Ionawr 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb. Gwn y bydd Llywodraeth Cymru yn ymwybodol iawn o’r pryderon hyn ynghylch diogelwch tomenni glo. Mae’n rhywbeth rwyf wedi’i godi droeon yn y Senedd, ac fel y nodwyd gennych, gwn fod gwaith yn mynd rhagddo i ganfod i atebion i sicrhau bod y tomenni yr ystyrir eu bod yn peri’r risg fwyaf, yn enwedig, yn ddiogel. Byddai'n dda gennyf ddeall safbwynt cyfreithiol Llywodraeth Cymru ar hyn. Dywedodd y Gweinidog cyllid mewn datganiad ym mis Medi y llynedd:

'Mae cyfrifoldeb cyfreithiol a moesol ar Lywodraeth y DU i weithio gyda Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r mater hwn ac i ariannu’r costau hirdymor hyn.'

Gwnsler Cyffredinol, a wnewch chi esbonio beth yw’r cyfrifoldebau cyfreithiol hyn sydd gan Lywodraeth y DU, o dan Ddeddf Mwyngloddiau a Chwareli (Tomenni) 1969 yn ôl pob tebyg, a pha rôl y gallwch ei chwarae i helpu i sicrhau bod y cyfrifoldebau hynny’n cael eu cyflawni? Oherwydd, fel y dywedodd y dirprwy Weinidog newid hinsawdd ddiwedd y llynedd, mae Llywodraeth y DU yn ymwrthod â’r cyfrifoldebau hynny ar hyn o bryd.

Ac yn olaf, os caf, fe gyfeirioch chi yn eich ateb cyntaf at yr ymgynghoriad a gynhelir gan Gomisiwn y Gyfraith, sy'n rhywbeth rwy'n ei groesawu. A fyddech cystal â rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y gwaith a wnaed hyd yn hyn a rhoi dyddiad i ni pryd rydych yn disgwyl iddynt gyhoeddi eu hargymhellion, os gwelwch yn dda?