Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 12 Ionawr 2022.
Nid yw'r cyhoedd yn dwp. Roedd llawer o'n tystion a'n cyfranwyr yn rhagweld y cynnydd enfawr hwn mewn costau ynni y mae aelwydydd bellach yn ymrafael ag ef. Roeddent yn rhagweld y byddai'n creu tswnami neu storm berffaith, ac mae arnaf ofn ei bod hi bellach wedi cyrraedd. Mae hwn yn fwy nag argyfwng ynni wedi ei ddwysáu gan argyfwng hinsawdd. Mae Prydain bellach yn llawer tlotach o ganlyniad i'r penderfyniad a wnaed i adael y farchnad sengl gyda'n cymdogion Ewropeaidd, ac mae Cymru wedi cael ei tharo'n arbennig o galed gan fod gweithgynhyrchwyr yn llawer mwy agored na gwasanaethau i'r cynnydd mewn biwrocratiaeth ac oedi mewn porthladdoedd. Ac mae'n amlwg fod oedi o'r fath wedi arwain at gynnydd sylweddol yng nghostau bwydydd bob dydd. Yn blwmp ac yn blaen, mae'r problemau'n gwaethygu yn hytrach na gwella. Mae costau byw cynyddol, a diwedd cymorth allweddol gan y Llywodraeth, yn arwydd o gyfnod anodd iawn i ddod i lawer iawn o aelwydydd.
Beth y gallwn ei wneud ynglŷn â hyn? Wel, yn gyntaf oll, rhaid inni weithio gyda'n gilydd. Gwnaethom 14 o argymhellion yn ein hadroddiad, yn cwmpasu popeth o gasglu data i ôl-ddyledion y dreth gyngor, a hoffwn ddiolch i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol am ei hymateb defnyddiol ac adeiladol i argymhellion y pwyllgor, ac am dderbyn naw argymhelliad yn llawn, a'r pum argymhelliad arall mewn egwyddor.
Gan adeiladu ar y rhybuddion gan ein tystion, mae'n hanfodol nad yw pobl sy'n cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd yn syrthio i ddwylo pobl sydd ond yn gwneud pethau'n waeth iddynt. Mae creu'r gronfa gynghori sengl gan Lywodraeth Cymru ddwy flynedd yn ôl, gan integreiddio'r holl wasanaethau cynghori, yn ei gwneud yn fwy tebygol y bydd pobl yn cael cymorth ar gam cynharach o'u dyled. Ceir penderfyniad Llywodraeth Cymru, yng ngoleuni ein hargymhelliad, i ddefnyddio sefydliadau yn y gymuned i ledaenu'r neges o obaith a help i grwpiau wedi'u targedu nad ydynt efallai'n gwybod am y gwasanaethau cynghori sengl hyn. Hefyd, mae angen inni adeiladu ar y negeseuon cyfryngau cymdeithasol effeithiol iawn y maent wedi'u defnyddio i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar fudd-daliadau i fynd i'r afael yn awr â lleihau'r stigma sy'n gysylltiedig â bod mewn dyled. Rhaid i bobl ofyn am help gan y rhai sy'n gallu cynnig dewisiadau amgen da yn lle benthycwyr carreg y drws a benthycwyr arian didrwydded.
Gallwn i gyd gytuno fod tlodi tanwydd bellach yn peri pryder mawr, ac mae taliad tanwydd y gaeaf Llywodraeth Cymru o £100 i aelwydydd incwm isel yn darparu rhywfaint o gymorth yn y tymor byr ond nid yw'n ddigon. Bydd y pwyllgor yn dychwelyd at yr angen am gynlluniau cyflymach i fynd i'r afael â thlodi tanwydd, gan gynnwys sicrhau bod pob cartref cymdeithasol yn cyrraedd sgôr ynni A yn yr amser byrraf posibl, yn ein hymchwiliad sydd ar y ffordd i'r rhaglen Cartrefi Clyd a'r hyn y mae angen inni ei wneud ynglŷn â thlodi tanwydd. Ond ni allwn golli golwg ar heriau eraill.
Er enghraifft, y broblem ddyled fwyaf cyffredin a ddaeth i sylw Cyngor ar Bopeth yn 2020 oedd dyledion y dreth gyngor. Yn ystod y flwyddyn ariannol 2020-21 gwelwyd y cynnydd un flwyddyn mwyaf ers 20 mlynedd mewn ôl-ddyledion treth gyngor, gan godi i bron £157 miliwn. Clywsom bryderon am bocedi o arfer gwael o ran sut y caiff y dyledion hyn eu casglu weithiau, ac rydym yn croesawu parodrwydd Llywodraeth Cymru i adolygu sut y mae protocol y dreth gyngor ar gyfer Cymru yn gweithio, ac a oes angen ei gryfhau neu ei roi ar sail statudol. Rydym yn croesawu agwedd agored Llywodraeth Cymru tuag at ystyried 'coelcerthi dyledion' yn y sector cyhoeddus sy'n debygol o fod yn anadferadwy, ond mae angen i bob un ohonom gydnabod bod costau cyfle i benderfyniad o'r fath.
Nodwyd bod dyledion ym maes tai ac achosion o droi allan hefyd wedi gwaethygu cryn dipyn, a chadarnhaodd tystion fod y gwaharddiad ar droi allan ar draws y sector rhentu cyfan wedi bod yn hanfodol i atal digartrefedd pan oedd y pandemig ar ei anterth. Mae argymhelliad 10 yn cyfeirio at bwysigrwydd cadw'r cyfnod rhybudd adran 21 o chwe mis ar gyfer troi allan heb fai ar ôl i unrhyw reoliadau sy'n gysylltiedig â COVID ddod i ben. Nodwn fod Llywodraeth Cymru, yn ei hymateb, wedi ymrwymo o'r diwedd i weithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 cyn toriad yr haf eleni, a rhaid i'r Senedd sicrhau ei bod yn cadw at hyn. Gobeithiwn y bydd y pandemig yn cilio, ond bydd y dyledion y bydd yn eu gadael ar ôl yn parhau ymhell wedi hynny.