7. Dadl Plaid Cymru: Anghydraddoldebau iechyd

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:54 pm ar 12 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 4:54, 12 Ionawr 2022

Wel, fel dŷn ni wedi clywed yn barod, mae anghydraddoldebau iechyd fel arfer yn symptom o anghydraddoldebau eraill, gydag incwm y prif ffactor fel arfer. Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac mae Mike Hedges ac eraill wedi cyfeirio at y ffigurau yma, mae pobl yn yr ardaloedd lleiaf llewyrchus yng Nghymru yn byw yn iach am 18 mlynedd yn llai na phobl yn yr ardaloedd mwyaf llewyrchus, ac mae pobl yn yr ardaloedd tlotaf hynny 23 y cant yn fwy tebygol o gael canser, a 48 y cant yn fwy tebygol o farw o'r salwch. Gydag iechyd meddwl hefyd, mae Rhun ap Iorwerth wedi cyfeirio at y ffaith bod yr elusen Platfform yn dangos bod iselder ddwywaith mwy cyffredin mewn grwpiau incwm isel, a bod pobl sydd â diffyg bwyd ac arian yn fwy tebygol o ddioddef problemau iechyd meddwl. Mae'r un patrwm i'w weld gydag anhwylderau iechyd meddwl difrifol, gyda phobl ar reng isaf yr ysgol gymdeithasol-economaidd wyth gwaith yn fwy tebygol o dderbyn diagnosis o sgitsoffrenia.

Felly, mae anghydraddoldebau materol yn achosi cylch dieflig o anghydraddoldebau eraill. Mae'n wir am anghydraddoldebau hil yng Nghymru hefyd. Rŷn ni'n gwybod bod pobl o leiafrifoedd ethnig yn derbyn 7.5 y cant yn llai o incwm na phobl wyn ar gyfartaledd, ac mae'r annhegwch incwm yma yn eu gadael yn fwy agored i glefydau, gan gynnwys COVID. Mae'r un peth yn wir am yr ystad dai yng Nghymru, fel dŷn ni wedi clywed. Rhaid i Lywodraeth Cymru, pan fyddant yn mynd ati gyda'r gwaith o ailadeiladu cymdeithas yn dilyn COVID, flaenoriaethu torri'r cylch dieflig hwn, fel bod cyfleoedd yn cael eu rhannu yn decach. Y ffordd orau o gynyddu'r safon byw cyffredinol, wrth gwrs, yw dechrau o'r gwaelod lan, gan mai yno mae'r angen mwyaf.

Felly, rwy'n erfyn ar Aelodau i gefnogi cynnig Plaid Cymru, sydd yn galw am strategaeth benodol i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd, a gwrthod gwelliant y Llywodraeth, sydd o blaid cadw'r cylch gorchwyl i'r hyn maen nhw eisoes wedi ymrwymo iddo. Mae'n hanfodol bod hyn yn digwydd cyn gynted â phosib wrth inni wynebu'r argyfwng prisiau ynni, fydd yn cael effaith erchyll ar bobl sydd eisoes yn cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd. Yn ôl adroddiad Marmot, mae oddeutu 10 y cant o farwolaethau ychwanegol yn y gaeaf yn ganlyniad i dlodi tanwydd, felly mae'n hanfodol, Llywydd, fod gweithredu pendant ynghylch y broblem rhwng nawr a'r gaeaf nesaf, os nad yn gynt.

Hoffwn i gloi drwy sôn am y ffactor arall sydd yn gyrru anghydraddoldeb, sef anghydraddoldeb daearyddol. Fe wnaeth adroddiad Marmot ar anghydraddoldebau iechyd yn Lloegr edrych ar hyn hefyd, gan nodi bod daearyddiaeth yn gwneud gwahaniaeth enfawr i ganlyniadau iechyd. Y gwir yw bod Cymoedd y de yn dal i ddioddef effaith cau'r pyllau glo yn y 1980au. Mae'n anhygoel i feddwl bod pobl mewn cymunedau yn y Cymoedd yn parhau i orfod wynebu incwm isel, a'r canlyniadau iechyd gwael sydd yn dod gyda hynny, 33 o flynyddoedd ar ôl i'r pyllau diwethaf gau, Cwm ac Oakdale, bron yr un faint o flynyddoedd dwi wedi bod ar y ddaear yma. Am fethiant gwleidyddol ydy'r ffaith yna. Mae'r bobl sydd yn byw yn yr ardaloedd ôl-ddiwydiannol yma yn dal i ddioddef o salwch diwydiannol, mae'r cyfraddau o broblemau iechyd eraill yn parhau i fod yn uchel oherwydd eu hamodau economaidd, ac mae diweithdra yn parhau i fod yn broblem ddifrifol.

Fe wnaeth adroddiad Sheffield Hallam ar sefyllfa economaidd a chymdeithasol cau pyllau glo yng Nghymru a Lloegr adrodd yn 2019 fod problemau iechyd yn bla ar yr ardaloedd hyn, gyda bron i 10 y cant yn derbyn taliadau lles am broblemau iechyd a'r nifer o swyddi mor isel. Mae'n hen bryd i gael Llywodraeth Cymru sydd o ddifrif yn gallu esgor ar ddadeni economaidd yn y Cymoedd. Os na fydd arwyddion o hyn i'w gweld erbyn diwedd y tymor hwn, y cwestiwn y bydd angen i'r Llywodraeth Llafur yma ofyn i'w hunain yw ai eu methiannau nhw sy'n gyfrifol am y diffyg cynnydd, oherwydd os nad hynny ydy'r ateb, yr unig esboniad arall yw bod hyn oll yn deillio o fod yn rhan o Deyrnas Gyfunol sydd ag anghydraddoldeb wrth ei chraidd, a hynny sydd yn llesteirio'r cymunedau hyn rhag gwireddu eu potensial.