9. & 10. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd: Cynnig 1 a Chynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd: Cynnig 2

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:35 pm ar 18 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 6:35, 18 Ionawr 2022

Gallwn fynd ymlaen i fanylu ar ein gwrthwynebiad i nifer o gymalau eraill y Bil maith hwn, sy'n mynd i effeithio'n andwyol ac yn anghymesur ar leiafrifoedd, ar fenywod, ar blant, ar ein hawliau sifil, ac a fydd yn sicr o waethygu'r anghydraddoldebau presennol yn ein system cyfiawnder troseddol. Ond fe wnaf i gloi drwy ddatgan bod y Bil yn enghraifft arall o pam mae angen i ni ddatganoli cyfiawnder i Gymru. Mae datganoli pwerau dros gyfiawnder yn hanfodol er mwyn darparu system gyfiawnder decach, mwy dyngarol a mwy atebol, a fydd ag anghenion, gwerthoedd a budd pobl Cymru wrth ei chalon. Diolch.