Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 18 Ionawr 2022.
Wel, diolch yn fawr, Llywydd. Maen nhw i gyd yn bwyntiau pwysig. Mae'r Llywodraeth hon yn gwrthwynebu proses Llywodraeth y DU o fewnforio technegau o'r Unol Daleithiau i atal pleidleisio ymhlith poblogaethau y mae'n credu nad fyddan nhw efallai yn cefnogi eu plaid wleidyddol. Fe wnaethom ni wrthwynebu'r cyfyngiadau ar adolygiad barnwrol, ond rwy'n gweld bod Llywodraeth y DU wedi eu hadfywio eto, ac rydym yn gwrthwynebu'r mesurau y maen nhw'n bwriadu eu cyflwyno i gyfyngu ar allu pobl i gynnal protest ddilys. Felly, rwy'n cytuno â'r holl bwyntiau a wnaeth yr Aelod yn y fan yna.
Nid yw'r adolygiad rhynglywodraethol yn berffaith, ond mae'n gam ymlaen sylweddol o'r sefyllfa yr ydym ni wedi bod ynddi tan nawr. Un o'r datblygiadau mwyaf arwyddocaol, a dyma oedd un o'r meysydd y gwnaeth Llywodraeth Cymru a gweision sifil Cymru arwain arno, yn rhan o'r adolygiad, yw cyflwyno'r dull osgoi, ac yna datrys, anghydfod annibynnol hwnnw. Mae wedi bod yn gwbl anfoddhaol, pan geisiodd llywodraeth ddatganoledig godi anghydfod o fewn trefniadau Cyd-bwyllgor y Gweinidogion, mai Llywodraeth y DU yn unig a allai, yn gyntaf, benderfynu a oedd yr anghydfod yn dderbyniadwy—felly, ymdriniodd â rhai anghydfodau drwy ddweud nad oedd yn cydnabod bod anghydfod—ac yna, hyd yn oed os oedd yn dderbyniadwy, hi oedd y barnwr a'r rheithgor a'r llys apêl a'r holl bethau eraill y byddech chi'n eu disgwyl o ran anghydfod. Mae hynny ar sail wahanol iawn erbyn hyn. Nid, fel y dywedodd yr Aelod, wedi ei ymwreiddio mewn statud, ond yno i bawb ei weld, a gyda chosb wleidyddol sylweddol iawn i lywodraeth a fyddai'n ceisio, ar ôl ymrwymo i'r cytundeb, ei anwybyddu yn llwyr wedyn. Felly, mae pleidiau o argyhoeddiad gwleidyddol gwahanol iawn—y Blaid Geidwadol yn Llundain, yr SNP yn yr Alban, Sinn Fein a'r DUP yng Ngogledd Iwerddon, a'r Llywodraeth Lafur yng Nghymru—rydym ni i gyd wedi ymrwymo i'r adolygiad, a byddwn yn sicr yn mynd ati yn yr ysbryd o wneud popeth o fewn ein gallu i wneud yn siŵr ein bod ni i gyd yn cyd-fynd yn awr â'r ffyrdd newydd y mae'r adolygiad hwnnw wedi cytuno arnyn nhw.