1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 18 Ionawr 2022.
2. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithrediad y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU? OQ57472
Rwy'n diolch i Ken Skates, Llywydd, am y cwestiwn yna. Rydym yn croesawu cytundeb terfynol yr adolygiad rhynglywodraethol ym mhedwaredd flwyddyn galendr y broses honno. Nawr mae angen Llywodraeth y DU arnom sy'n gallu cyflawni ei chyfrifoldebau yn hytrach nag un sydd wedi ei pharlysu gan argyfyngau sy'n datblygu mewn Downing Street gwbl gamweithredol.
Diolch, Prif Weinidog. Fel chithau, rwy'n croesawu'r cytundebau ar ganlyniad terfynol yr adolygiad rhynglywodraethol, unwaith eto, o'r diwedd, fel y gwnaethoch chi ei ddweud. Ond wrth gwrs, fel y gwnaethoch chi ei ddweud, dim ond os ydyn nhw'n sefydlog ac yn canolbwyntio yn llwyr ar wasanaethu lles y cyhoedd y gall llywodraethau weithredu yn effeithiol. Mae wedi peri pryder darllen am y partïon, yr achosion o dorri cyfraith y cyfyngiadau symud, a sefyllfa arweinyddiaeth ansicr y Prif Weinidog, a'r cyfan, mae arnaf i ofn, yn creu'r perygl, fel y gwnaethoch chi ei ddweud, o barlysu Llywodraeth y DU ac felly'n tanseilio'r cysylltiadau rhynglywodraethol tan y bydd arweinydd newydd. Prif Weinidog, a allwch chi gynnig unrhyw sicrwydd i ni fod Llywodraeth y DU yn gallu cyflawni ei swyddogaethau yn gyfrifol o gofio popeth sydd wedi digwydd yn Downing Street yn ystod y pandemig?
Llywydd, mae arnaf i ofn nad wyf i'n credu y gallaf i gynnig sicrwydd o'r fath. Mae'n ymddangos i mi fod Llywodraeth y DU wedi ei dal yng ngolau llachar y digwyddiadau y mae wedi eu hachosi ei hun drwy ei diystyriaeth lwyr o'r rheolau y mae'r gweddill ohonom ni wedi ein rhwymo ganddyn nhw. Ac mewn ymgais nawr i ddianc o'r penblethau y mae wedi eu creu ei hun, mae popeth y mae'n ei wneud yn cael ei weld drwy'r lens hwnnw. Nid yw pob datganiad sy'n cael ei wneud, unrhyw fenter bolisi sy'n cael ei chyflwyno wedi eu hysgogi gan anghenion y wlad na phwysigrwydd mynd i'r afael â'r heriau allweddol sy'n ein hwynebu; mae pob un ohonyn nhw yn cael ei weld drwy lens sut y gall y Llywodraeth hon ddianc y trafferthion y mae wedi plymio ei hun iddyn nhw. Ac o dan yr amgylchiadau hynny, mae arnaf i ofn, ar y pethau y cyfeiriodd Ken Skates atyn nhw—yr angen am sefydlogrwydd, yr angen am lywodraeth sy'n canolbwyntio ar wasanaethu lles y cyhoedd—ni allaf gynnig unrhyw sicrwydd bod cyflwr presennol Llywodraeth y DU yn ffafriol i'r mathau hynny o rinweddau.
Wrth gwrs, mae Llywodraeth y DU, Prif Weinidog, wedi darparu rhaglen frechu sy'n well nag unrhyw un arall yn y byd sydd wedi bod o fudd mawr i bobl ledled Cymru, ac mae hefyd wedi rhyddhau adnoddau sylweddol ledled y wlad i helpu busnesau ac unigolion oresgyn heriau'r pandemig. Ac er gwaethaf eich haeriad nad yw'n gallu gweithredu yn iawn, hi wnaeth gyhoeddi yr adroddiad ar yr adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol yr wythnos diwethaf. Fel y gwnaethoch chi ei ddweud yn eich ateb cychwynnol i'r Aelod dros Dde Clwyd, fe wnaethoch chi groesawu cyhoeddiad yr adroddiad hwnnw yn gynnes, oherwydd wrth gwrs y bydd yn newid y trefniadau gweithio rhwng llywodraethau ledled y DU a'r gobaith yw y bydd yn sicrhau gwelliannau sylweddol i bobl sy'n byw ac yn gweithio ledled y Deyrnas Unedig gyfan. Un o'r pethau na wnaeth yr adolygiad rhynglywodraethol gyffwrdd arno oedd y fframwaith atebolrwydd y gallai'r system newydd o gydweithio gael ei seilio arno. A fyddech chi'n cytuno â mi bod angen i ni edrych bellach ar gorff rhyngseneddol er mwyn dwyn y gwahanol Lywodraethau i gyfrif am y trefniadau gweithio newydd i wneud yn siŵr eu bod nhw yn gwireddu'r dyheadau a nodir yn yr adolygiad yn wirioneddol?
Llywydd, fe wnes i groesawu canlyniad yr adolygiad rhynglywodraethol. Roeddwn i yno yn 2018 pan gafodd ei sefydlu gan Theresa May a'r Prif Weinidogion eraill ar y pryd, ac mae Llywodraeth Cymru a gweision sifil Cymru yn arbennig wedi rhoi oriau lawer iawn i geisio gwneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud y ddogfen honno cystal ag y gall fod. Mae rhai mesurau atebolrwydd ynddi. Mae yn arwain llywodraethau ledled y Deyrnas Unedig i gyflwyno dogfennau ac adroddiadau amrywiol o flaen y pedair Senedd. Rwy'n gwbl agored i'r pwynt y mae Mr Millar yn ei wneud am gyrff seneddol yn cydweithio i wella atebolrwydd, ond mater iddyn nhw fyddai hynny, wrth gwrs, yn hytrach nag i unrhyw lywodraeth ei arwain. Rwyf i wedi croesawu yn rheolaidd iawn yr arian y mae Llywodraeth y DU wedi ei fuddsoddi i gynnal yr economi yn ystod argyfwng COVID. Rwyf i wedi credu erioed y bu'n well i'r gallu i sicrhau brechlynnau i'w defnyddio ledled y Deyrnas Unedig gael ei wneud ar sail y DU, er bod gweithredu'r brechiadau ac, wrth gwrs, y rhaglen sydd wedi gwneud defnydd ohonyn nhw wedi bod yn nwylo gwahanol lywodraethau'r Deyrnas Unedig. Nid wyf i'n cael unrhyw anhawster yn cydnabod yr holl bethau hynny. Rwy'n tybio, ym mhreifatrwydd ei ystafelloedd pwyllgora ei hun, y byddai'r Aelod ei hun yn cydnabod nad yw hwn yn gyfnod da i Lywodraeth y DU, ac mae'n anochel bod ei gallu i gyflawni uchelgeisiau'r adolygiad rhynglywodraethol yn cael ei beryglu gan ddigwyddiadau'r cyfnod diweddar a'r ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi troi i mewn arni hi ei hun i geisio dod o hyd i ffordd drwy'r llanastr y mae wedi ei greu ei hun.
Prif Weinidog, roeddwn innau hefyd yn falch, fel Mr Skates a chithau, o ddarllen yr adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol yr wythnos diwethaf, a sefydlu trefn datrys anghydfodau annibynnol. Fel y gwyddom ni, mae angen proses o'r fath i fynd i'r afael yn effeithiol â Llywodraeth San Steffan sy'n deddfu dro ar ôl tro mewn meysydd datganoledig, ond sydd hefyd yn cyfyngu ar hawliau pobl Cymru i brotestio, i bleidleisio, i ddefnyddio adolygiad barnwrol ac i ddefnyddio'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol i ddiddymu is-ddeddfwriaeth. Fodd bynnag, fy mhryder i, Prif Weinidog, yw na fydd sail statudol i'r system newydd hon ac na fydd yn rhwymo'r Llywodraeth. Gyda Llywodraeth yn San Steffan sydd wedi anwybyddu confensiwn Sewel yn llwyr—mae confensiwn Sewel wedi mynd allan drwy'r ffenestr gyda'r Llywodraeth hon—pa mor hyderus ydych chi y bydd y system newydd hon yn arwain at barch tuag at y Senedd hon, ond yn bwysicach byth, at barchu hawliau pobl Cymru? Diolch yn fawr.
Wel, diolch yn fawr, Llywydd. Maen nhw i gyd yn bwyntiau pwysig. Mae'r Llywodraeth hon yn gwrthwynebu proses Llywodraeth y DU o fewnforio technegau o'r Unol Daleithiau i atal pleidleisio ymhlith poblogaethau y mae'n credu nad fyddan nhw efallai yn cefnogi eu plaid wleidyddol. Fe wnaethom ni wrthwynebu'r cyfyngiadau ar adolygiad barnwrol, ond rwy'n gweld bod Llywodraeth y DU wedi eu hadfywio eto, ac rydym yn gwrthwynebu'r mesurau y maen nhw'n bwriadu eu cyflwyno i gyfyngu ar allu pobl i gynnal protest ddilys. Felly, rwy'n cytuno â'r holl bwyntiau a wnaeth yr Aelod yn y fan yna.
Nid yw'r adolygiad rhynglywodraethol yn berffaith, ond mae'n gam ymlaen sylweddol o'r sefyllfa yr ydym ni wedi bod ynddi tan nawr. Un o'r datblygiadau mwyaf arwyddocaol, a dyma oedd un o'r meysydd y gwnaeth Llywodraeth Cymru a gweision sifil Cymru arwain arno, yn rhan o'r adolygiad, yw cyflwyno'r dull osgoi, ac yna datrys, anghydfod annibynnol hwnnw. Mae wedi bod yn gwbl anfoddhaol, pan geisiodd llywodraeth ddatganoledig godi anghydfod o fewn trefniadau Cyd-bwyllgor y Gweinidogion, mai Llywodraeth y DU yn unig a allai, yn gyntaf, benderfynu a oedd yr anghydfod yn dderbyniadwy—felly, ymdriniodd â rhai anghydfodau drwy ddweud nad oedd yn cydnabod bod anghydfod—ac yna, hyd yn oed os oedd yn dderbyniadwy, hi oedd y barnwr a'r rheithgor a'r llys apêl a'r holl bethau eraill y byddech chi'n eu disgwyl o ran anghydfod. Mae hynny ar sail wahanol iawn erbyn hyn. Nid, fel y dywedodd yr Aelod, wedi ei ymwreiddio mewn statud, ond yno i bawb ei weld, a gyda chosb wleidyddol sylweddol iawn i lywodraeth a fyddai'n ceisio, ar ôl ymrwymo i'r cytundeb, ei anwybyddu yn llwyr wedyn. Felly, mae pleidiau o argyhoeddiad gwleidyddol gwahanol iawn—y Blaid Geidwadol yn Llundain, yr SNP yn yr Alban, Sinn Fein a'r DUP yng Ngogledd Iwerddon, a'r Llywodraeth Lafur yng Nghymru—rydym ni i gyd wedi ymrwymo i'r adolygiad, a byddwn yn sicr yn mynd ati yn yr ysbryd o wneud popeth o fewn ein gallu i wneud yn siŵr ein bod ni i gyd yn cyd-fynd yn awr â'r ffyrdd newydd y mae'r adolygiad hwnnw wedi cytuno arnyn nhw.