Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 18 Ionawr 2022.
Wel, Llywydd, cyflwynais ddydd Gwener yr wythnos diwethaf amserlen sy'n ymestyn i ganol mis nesaf ar gyfer gwneud penderfyniadau, ar yr amod y byddai sefyllfa iechyd y cyhoedd yng Nghymru yn golygu y byddai'n ddiogel diddymu amddiffyniadau pellach. Mae pobl yn gyfarwydd iawn â'r amserlen honno. Bydd yn arwain, ddydd Gwener yr wythnos hon, gobeithio, at ddychwelyd i lefel rhybudd 0 ar gyfer gweithgareddau yn yr awyr agored; ar 28 Ionawr, at ddychwelyd i lefel rhybudd 0 ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau dan do; ac yna adolygiad tair wythnos erbyn 10 Chwefror o'r mesurau sy'n weddill. Nawr, byddwn yn cymryd cyngor y prif swyddog meddygol, Syr Frank Atherton, ac eraill ar hyd y llwybr hwnnw, a chyn gynted ag y bydd hi'n ddiogel gwneud hynny, o safbwynt iechyd y cyhoedd, yna byddwn yn gwneud y newidiadau i adlewyrchu sefyllfa well. Ond mae llawer o ddefnydd o'r gair 'os' yn yr ateb yna, Llywydd. Yr un mwyaf oll yw i ba raddau y gallwn ni barhau i weld y gwelliannau yr ydym ni wedi eu gweld yn effaith omicron ac amrywiolion coronafeirws eraill yng Nghymru, yn ein cymdeithas, yn ein hysbytai ac yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Rwy'n credu bod pobl yng Nghymru yn deall bod ganddyn nhw Lywodraeth sy'n gwneud penderfyniadau mewn ffordd sy'n ymateb i dystiolaeth, nid i bwysau gwleidyddol, sy'n gwneud penderfyniadau mewn ffordd y gellir ei chyfleu yn rhesymegol iddyn nhw, ac mae'r gefnogaeth yr ydym ni wedi ei chael gan bobl yng Nghymru drwy gydol y pandemig cyfan yn dibynnu ar y ffordd yr ydym ni wedi helpu, yn ofalus, yn bwyllog ac yn unol â'r wyddoniaeth, i gadw Cymru yn ddiogel. A dyna'n union sut y byddwn ni'n parhau.