Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 18 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 1:49, 18 Ionawr 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, fe wnaethoch chi honni yr wythnos diwethaf nad camau eich Llywodraeth chi oedd yn gyfrifol am effaith y cyfyngiadau ar fusnesau Cymru dros y Nadolig a'r flwyddyn newydd. A allwch chi ddweud wrthyf pwy oedd yn gyfrifol am y cyfyngiadau hyn, oherwydd y tro diwethaf i mi edrych, chi oedd y Prif Weinidog? Neu ai rhyw rym allfydol nad yw'r un ohonom ni'n ymwybodol ohono oedd hwn?