Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 18 Ionawr 2022.
Mae'r rhaglen lywodraethu yn nodi ein hymrwymiad i adeiladu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd i'w rhentu yn gymdeithasol yn nhymor y Senedd hon. Dyrannwyd swm uchaf erioed o £250 miliwn i'r grant tai cymdeithasol yn y flwyddyn ariannol hon, gan ddyblu cyllideb 2020-21. Disgwylir i'r cyhoeddiad ystadegol cyntaf yn dangos cynnydd tuag at y targed hwn gael ei gyhoeddi ym mis Hydref eleni.