1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 18 Ionawr 2022.
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd tuag at dargedau adeiladu tai Llywodraeth Cymru? OQ57447
Mae'r rhaglen lywodraethu yn nodi ein hymrwymiad i adeiladu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd i'w rhentu yn gymdeithasol yn nhymor y Senedd hon. Dyrannwyd swm uchaf erioed o £250 miliwn i'r grant tai cymdeithasol yn y flwyddyn ariannol hon, gan ddyblu cyllideb 2020-21. Disgwylir i'r cyhoeddiad ystadegol cyntaf yn dangos cynnydd tuag at y targed hwn gael ei gyhoeddi ym mis Hydref eleni.
Diolch. Diolch, Prif Weinidog. Mae cynllun eich Llywodraeth i adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy yn darged uchelgeisiol. Fodd bynnag, mae'r gwaith o adeiladu cartrefi yn fy etholaeth i ar stop oherwydd targedau llygredd. Nid wyf i'n amau'r angen i fynd i'r afael â llygredd yn ein hafonydd, ond ni all yr ateb fod mor syml ag atal yr holl waith adeiladu tai. Mae o leiaf 10,000 o gartrefi, y mae 1,700 ohonyn nhw yn rhai fforddiadwy a chymdeithasol, i gyd yn mynd yn angof ac ni ellir bwrw ymlaen â nhw oherwydd canllawiau Cyfoeth Naturiol Cymru ar ffosfforws. Mae'n dechrau cael effaith ar swyddi a'r farchnad dai, oherwydd nid oes gan bobl sy'n gweithio yn y diwydiant adeiladu unrhyw sicrwydd hirdymor o ran eu swyddi, ac mae pobl ifanc leol yn cael eu gorfodi allan o'r farchnad dai gan renti sy'n cynyddu'n aruthrol a'r diffyg cartrefi cymdeithasol. Prif Weinidog, mae hwn yn fater brys iawn, ond mae'r grŵp goruchwylio presennol sy'n edrych ar ffosffadau yn cyfarfod yn llawer rhy anaml rwy'n credu, ac rwy'n deall eu bod nhw'n cael trafferth gyda maint y broblem. Prif Weinidog, a wnewch chi geisio sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen trawsbleidiol dan arweiniad gwleidyddol, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, fel y gellir mynd i'r afael â'r mater hwn gyda rhywfaint o frys, i ddod o hyd i ateb i'r broblem ac i gyrraedd targedau tai eich Llywodraeth? Diolch, Llywydd.
Rwy'n deall brys y mater. Dyna pam y bydd Llywodraeth Cymru yn talu am hyfforddiant awdurdodau lleol ar y broses asesu rheoliadau cynefinoedd, gan gynnwys elfen benodol ar faterion ffosfforws. Ond, mae dwy agwedd ar y brys: ceir brys o ran yr angen am dai cymdeithasol, ac rydym ni'n canolbwyntio yn fawr ar hynny fel Llywodraeth, oherwydd mae 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel yn uchelgeisiol, ac rydym ni eisiau gallu bwrw ymlaen a hynny. Ond y brys arall yw ymdrin â'r broblem ffosffad, sy'n gwbl real, ac nid yw adeiladu tai heb fynd i'r afael â'r broblem ffosffad yn ateb ar gyfer yr hirdymor.
Bydd yr Aelod, yn fwy na'r rhan fwyaf o Aelodau'r Senedd does bosib, yn ymwybodol o'r problemau sylweddol iawn yn Afon Gwy yn ei etholaeth ei hun, problemau a amlygwyd yr wythnos diwethaf yn adroddiad Pwyllgor Archwilio Amgylcheddol Tŷ'r Cyffredin—pwyllgor a gadeirir gan y Ceidwadwyr, pwyllgor â mwyafrif Ceidwadol arno. Mae ei astudiaeth achos o effaith ffosffad ar Afon Gwy yn gwbl gymhellol. Mae effaith ffosffad ar Afon Gwy yn cael ei hachosi yn bennaf gan lygredd amaethyddol, ond nid yn unig o bell ffordd. Mae hefyd yn cael ei achosi gan wastraff dynol, gan ddŵr ffo oddi ar ffyrdd, gan weithgarwch diwydiannol. Nid yw adeiladu tai mewn ffordd sy'n ychwanegu at y problemau, yn hytrach na helpu gyda'r angen dybryd i'w lliniaru, yn ateb y bydd y Llywodraeth hon yn gallu ei gefnogi. Felly, rwy'n cytuno â'r Aelod ynglŷn â'r brys. Mae'r brys ar yr ochr dai, ond mae ar yr ochr amgylcheddol hefyd, ac ni allwch chi ddatrys un ar draul y llall.