Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 18 Ionawr 2022.
Diolch i Vikki Howells am y cwestiwn yna. Mae ein blaenoriaethau ar gyfer y sector manwerthu yng Nghwm Cynon, fel mewn mannau eraill, yn cynnwys ymrwymiad eglur i bolisïau gwaith teg a chynnydd gyrfaol er mwyn denu'r gweithlu y bydd ei angen yn y dyfodol. Rydym ni hefyd yn canolbwyntio ar bwysigrwydd gwasanaethau manwerthu lleol sydd wedi'u gwreiddio yn y cymunedau lleol hynny a'r economi sylfaenol.