3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar COVID-19

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 18 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:02, 18 Ionawr 2022

Does dim llawer iawn o sylwadau gen i i'w gwneud heddiw, mewn difrif. Wythnos yn ôl, roeddwn i'n galw ar y Gweinidog i roi tipyn mwy o sylw i'r arwyddion positif oedd, roeddwn i'n sicr yn credu, yn dechrau dod i'r amlwg yn ôl yr ystadegau. Mi oedd hi braidd yn gyndyn i wneud hynny bryd hynny, a dwi'n deall, wrth gwrs, mai bod yn bwyllog oedd hi, ond mi oedd pethau yn dechrau edrych yn well ac, yn wir, mae pethau'n edrych yn llawer gwell erbyn hyn, a dwi'n ddiolchgar am y briff a gefais i efo cyd-aelodau'r pwyllgor iechyd amser cinio heddiw yn cadarnhau bod y prif fesuryddion i gyd yn edrych yn sylweddol well a bod pethau'n cyflymu hefyd o ran y broses wella.

Erbyn wythnos i ddydd Gwener, rŵan, mi fyddwn ni mewn sefyllfa lle bydd y rheoliadau diweddaraf wedi cael eu codi, a dwi yn croesawu hynny, ond mi hoffwn innau ofyn pa ystyriaeth fydd yn cael ei rhoi i symud ynghynt na hynny, hyd yn oed. Oes yna le i dynnu newidiadau ymlaen? Achos yr argraff dwi'n ei chael ydy bod pethau yn cyflymu a chyflymu o ran dod allan o'r don yma, felly mi fyddai hyd yn oed ychydig o ddyddiau yn gallu gwneud gwahaniaeth. Dwi'n meddwl am y sector lletygarwch, er enghraifft, sydd wedi cael ei tharo yn drwm, a dwi wrth gwrs yn apelio arnoch chi i weithio efo Gweinidog yr Economi—dwi'n ei weld yntau yn y Senedd rithiol yma y prynhawn yma—i sicrhau bod pob cymorth posib i'w gyfeirio at y sector honno, ac unrhyw sectorau eraill sy'n dioddef, yn eu cyrraedd nhw mor fuan â phosib.

Rydw innau hefyd eisiau jest gofyn am sylw pellach eto, os caf i, ar y gwaith sy'n cael ei wneud i asesu'r amser hunanynysu presennol. Mi fydd y Gweinidog, fel minnau, dwi'n gwybod, yn edrych ymlaen nid yn unig i'w gael i lawr i bum diwrnod o saith, ond i'w gael lawr i ddim, fel bod dim angen hunanynysu o gwbl, ond yn bwyllog rydyn ni'n gorfod gwneud hyn. Mae'n bwysig, dwi'n meddwl, ein bod ni'n deall beth ydy'r balans o ystyriaethau, o ran tystiolaeth feddygol bur o ran pa mor heintus ydy pobl a phryd ac ystyriaethau eraill, economaidd ac ati. Dwi'n nodi, serch hynny, fod Sefydliad Iechyd y Byd yn nerfus iawn ynglŷn â lleihau'r amser ynysu ar hyn o bryd. Mater o falans ydy o.

Rydw innau hefyd eisiau apelio am dynhau a chyflymu'r broses tuag at gael ap NHS Cymru sydd yn gweithio'n iawn efo'r holl elfennau o frechiadau booster arnyn nhw. Roeddwn i'n siarad neu wedi cael e-bost gan riant y diwrnod o'r blaen a oedd yn methu cael gafael ar unrhyw wybodaeth am ba booster a gafodd ei blentyn er mwyn gallu defnyddio'r wybodaeth yna er mwyn teithio a chael COVID pàs ac ati. Mae yna waith mawr i'w wneud o hyd, dwi'n meddwl, ar dynhau ein prosesau digidol ni a sicrhau bod gennym ni'r twls sy'n angenrheidiol erbyn hyn i'n cael ni gyd drwy'r pandemig yma.