Part of the debate – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 18 Ionawr 2022.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Rwy'n croesawu'r cyfle i graffu ar gynnydd Llywodraeth Cymru o ran cryfhau economïau rhanbarthol, ond rwy'n siomedig bod y datganiad heddiw yn brin iawn o fanylion. Nid yw'n dweud unrhyw beth newydd wrthym ni. Ac os yw'r Gweinidog yn credu ei fod ef yn dweud rhywbeth newydd wrthym, yna efallai y byddai'n ddigon caredig i'n cyfeirio ni at y rhan honno o'r datganiad.
Wrth gwrs, mae'r datganiad yn cyfeirio at greu fframweithiau economaidd rhanbarthol, a gyhoeddwyd fis diwethaf, sy'n bwysig o ran hybu cydweithio pellach â rhanddeiliaid ac atgyfnerthu perthynas waith glòs ag awdurdodau lleol i ddatblygu dulliau seiliedig ar leoedd o ddatblygiad economaidd. Er bod yr ymgysylltu hwnnw i'w groesawu'n fawr, mae angen i ni weld gwelliannau gwirioneddol, ac efallai y bydd y Gweinidog, felly, yn cadarnhau'r dangosyddion neu'r meini prawf perfformiad allweddol a ddefnyddir i fesur pa mor effeithiol y bu'r cydweithio hwn yn ymarferol. A yw'r Gweinidog yn gwybod, ar gyfer pob economi ranbarthol, faint o fusnesau newydd a ddatblygwyd o ganlyniad i'r ymgysylltu newydd hwn a faint o swyddi a ddarparwyd o ganlyniad i ddull Llywodraeth Cymru o ymdrin â datblygu economaidd rhanbarthol? Mae cwestiynau fel y rhain ac ati yn cynnig ffordd i ni allu penderfynu pa mor effeithiol yw cynlluniau Llywodraeth Cymru.
Mae hi'n hanfodol bod pob un o'r rhanbarthau yn cael y gyfradd briodol o gyllid a bod y gwariant hwnnw'n cael ei ddyrannu gyda thegwch fel gall pob rhan o Gymru elwa ar gynlluniau datblygu economaidd rhanbarthol Llywodraeth Cymru. Felly, efallai y gwnaiff y Gweinidog amlinellu sut y caiff y cyllidebau eu pennu ar gyfer pob rhanbarth a sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod pob rhanbarth yn cael digon o arian. Mae cynllun gweithredu economaidd Llywodraeth Cymru yn sôn am ddatblygu dulliau rhanbarthol, fel manteision cymunedol, i helpu i wella cydnerthedd busnesau lleol a sicrhau bod manteision economaidd ein gwariant caffael ni yn y sector cyhoeddus yn parhau yma yng Nghymru. Felly, a wnaiff y Gweinidog ddweud mwy wrthym ni am gynnydd datblygu offer rhanbarthol, fel manteision cymunedol, a sut mae'n monitro effeithiolrwydd yr offer a ddatblygwyd eisoes?
Rhan bwysig o ddatblygu economaidd rhanbarthol, wrth gwrs, yw sgiliau, ac mae hi'n siomedig gweld nad oes unrhyw sôn o gwbl am hynny yn natganiad y Gweinidog heddiw. Fe ddylai Llywodraeth Cymru fod nid yn unig yn archwilio'r ddarpariaeth o sgiliau ym mhob rhanbarth yn barhaus, mae angen iddi sicrhau hefyd fod y ddarpariaeth honno'n diwallu anghenion y gymuned fusnes yn y rhanbarthau hynny a bod gan fusnesau lais gwirioneddol yn natblygiad y dirwedd sgiliau. A wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni felly sut yn union y mae Llywodraeth Cymru yn dadansoddi'r ddarpariaeth sgiliau ym mhob rhanbarth, sut y mae hi'n sicrhau bod y ddarpariaeth yn berthnasol, a sut y mae hi'n diwallu anghenion y cymunedau lleol ym mhob rhanbarth?
Wrth greu fframweithiau economaidd rhanbarthol, fe eglurodd y Gweinidog blaenorol yn glir y bydden nhw'n mynd i'r afael â'n heriau strwythurol cynhenid ni ond yn gwneud hynny drwy eu troi nhw'n gyfleoedd ar gyfer rhanbarthau sy'n ddeinamig a phenodol ac yn dangos twf economaidd cynhwysol, teg a chynaliadwy drwy ddylunio atebion i'r dyfodol. Felly, efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni pa atebion newydd a ddatblygwyd o ganlyniad uniongyrchol i fframweithiau economaidd rhanbarthol a sut y mae'r atebion hynny am fynd i'r afael â heriau strwythurol cynhenid, fel tlodi cyflogaeth ac ansicrwydd o ran gwaith. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddangos sut y mae ei chynlluniau economaidd rhanbarthol hi nid yn unig yn gwella ffyniant ym mhob rhanbarth, ond sut y mae hi hefyd am fynd i'r afael â'r materion dwys, strwythurol hynny sydd wedi llesteirio rhai cymunedau am lawer gormod o amser.
Wrth gwrs, wrth symud ymlaen, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru a'r prif swyddogion rhanbarthol sicrhau bod eu cynlluniau nhw i gryfhau economïau rhanbarthol yn flaengar ac yn paratoi ein cymunedau ni am y dyfodol. Mae datganiad heddiw yn mynegi bod ymagwedd Llywodraeth Cymru at lesiant economaidd yn seiliedig ar yr egwyddor bod pobl a lleoedd yn bwysig, ond nid oes unrhyw fanylion yn y datganiad hwn i gyfiawnhau hynny. Mae meithrin cydnerthedd yn hollbwysig wrth i ni gefnu ar y pandemig, ac mae comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn llygad ei lle i ddweud bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddangos sut y gwnaiff ei rhaglen hi baratoi Cymru am ergydion i ddod a heriau hirdymor, ac yn manteisio ar gyfleoedd yn y dyfodol. Er enghraifft, a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni sut yn union y mae cynlluniau economaidd rhanbarthol Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael ag argyfyngau natur a hinsawdd ac yn helpu i fynd i'r afael â chanlyniadau'r pandemig o ran cyfiawnder economaidd a chymdeithasol?
Ni fyddai'r un datganiad gan Lywodraeth Cymru yn gyflawn heb ymosod ar Lywodraeth y DU, ac wrth gwrs nid yw'r datganiad heddiw yn eithriad i hynny. Mae'r cydweithio adeiladol wedi dod i'r amlwg drwy'r cynnydd a fu o ran cytundebau dinesig a thwf, ac rwy'n cytuno â'r Gweinidog fod angen dull gonest ac adeiladol o gydweithio wrth symud ymlaen, ac nid ceisio ennill pwyntiau o ran gwleidyddiaeth y pleidiau. Da o beth fyddai i'r Gweinidog gofio hynny.
Dirprwy Lywydd, wrth i ni ddod i'r lan wedi pandemig COVID-19, mae gennym ni gyfle i wneud pethau mewn ffordd amgen, ac mae cryfhau'r economïau rhanbarthol yn un ffordd ymlaen, ar yr amod bod y cynigion hyn mewn gwirionedd yn darparu gwelliant yn hytrach na chreu mwy o fiwrocratiaeth. Felly, wrth gloi, rwy'n gofyn i'r Gweinidog ymrwymo i roi diweddariadau rheolaidd i'r Aelodau ynglŷn â'r canlyniadau a gyflawnwyd yn sgil pob un o'r fframweithiau rhanbarthol ac iddo roi gwarantau cwbl gadarn y bydd cymunedau ledled Cymru yn cael budd oherwydd y camau a amlinellir yn y datganiad heddiw. Diolch i chi.