Part of the debate – Senedd Cymru am 3:24 pm ar 18 Ionawr 2022.
Diolch i chi am y gyfres o sylwadau a'r cwestiynau yn eu mysg nhw. Rwyf i am gadw'r hyn a ofynnodd y Dirprwy Lywydd mewn cof.
O ran yr hyn y mae'r Aelod wedi bod yn ei ddweud, rwy'n credu bod ychydig o gamddealltwriaeth wedi bod ynghylch y fframweithiau economaidd rhanbarthol. Mae'r rhain yn ein helpu ni i ddiffinio gweledigaeth i ddyfodol pob rhanbarth, gyda chyfres gyffredin o flaenoriaethau ar gyfer datblygu economaidd. Maen nhw'n mynd law yn llaw â'r gwaith sy'n mynd rhagddo yn sgil y bargeinion twf yr ydym ni wedi ymrwymo symiau o arian iddyn nhw. Rhoddodd Llywodraeth y DU yr un arian i mewn â Llywodraeth Cymru, a'n partneriaid ni yn y sector cyhoeddus wedyn, dan arweiniad awdurdodau lleol, sy'n allweddol i ddatblygu economaidd rhanbarthol. Mae hyn wedyn yn ymwneud â'r gallu i ddenu buddsoddiad a swyddi ychwanegol. Mae'n ymwneud, mewn gwirionedd, â cheisio deall, ym mhob rhanbarth, lle mae'r cyfleoedd ar gyfer twf, a'r ffaith y bydd pob rhanbarth yn wahanol. Yn hytrach na bod Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniadau ar ran y rhanbarthau hynny ynglŷn â dyluniad eu cynlluniau nhw, holl ddiben hyn yw gweithio ochr yn ochr â nhw fel partneriaid gwirioneddol er mwyn cynhyrchu'r fframweithiau hynny. Mae hi'n bwysig iawn i'r holl bethau sy'n symud gyda'i gilydd yn yr un man fod â gweledigaeth gyffredin. Dyna pam y mae hi mor siomedig fod gennym ni Lywodraeth y DU sy'n barod i anwybyddu'r holl waith hwnnw sy'n mynd rhagddo.
Pan fyddwn ni'n sôn am y bartneriaeth adeiladol a allai fodoli rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, peth nodweddiadol iawn, wrth gwrs, yw bod gwleidyddion Ceidwadol yn mynnu nad oes yna unrhyw feirniadaeth ar Lywodraeth y DU. Nid wyf i erioed wedi clywed y Ceidwadwr Cymreig yn mynegi unrhyw bryder am y toriadau yn ein cyllidebau ni nac am y gostyngiad mewn arian o'r gronfa ffyniant a rennir. Nid wyf i erioed wedi clywed unrhyw fynegiant o bryder naill ai yn y lle hwn neu'r tu allan iddo, ac mae hynny'n syfrdanol. Pan fyddwn ni'n sôn am sgiliau ac yn ceisio gwrando ar fusnesau a gweithio gyda nhw, mae gennym ni'r bensaernïaeth i wneud hynny eisoes. Mae'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol sy'n bodoli erbyn hyn ym mhob rhan o Gymru y mae rhai Aelodau yn y lle hwn wedi bod â rhan wrth helpu i'w llunio nhw ac yn awyddus i'w gweld—maen nhw'n dweud wrthym ni lle rydym ni am geisio buddsoddi mwy mewn sgiliau i gefnogi pob rhan o'r economi, sydd hyd yn oed yn bwysicach nawr gyda marchnad lafur sy'n crebachu gyda phobl wedi ymadael ar un pen iddi, yn ogystal â'r bobl hynny sydd wedi dychwelyd i wledydd Ewrop ac sy'n annhebygol o ddychwelyd i'r DU.
Fodd bynnag, mae torri'r addewid maniffesto i sefydlu cronfeydd yn lle cronfeydd strwythurol yr UE yn effeithio yn uniongyrchol ar ein gallu ni i fuddsoddi mewn sgiliau. Rydym ni'n sôn am gannoedd o filiynau o bunnau, Paul. Dyna'r gwir diymwad. Ar ôl iddyn nhw sugno hwnnw allan o'r arian y gallem ni fod yn ei ddefnyddio i gefnogi'r economi a buddsoddi mewn sgiliau, nid yw hi'n ddigon da i wleidyddion Ceidwadol honni eu bod nhw'n pryderu llawer iawn am bopeth ar wahân i'r niwed y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud.
Fe fydd gennym ni fwy i'w ddweud wrth i ni symud ymlaen, nid yn unig ynghylch ein hynt ni gyda fframweithiau economaidd rhanbarthol a'r gwaith y byddwn ni'n ei wneud ochr yn ochr â rhanbarthau wrth gyd-gynhyrchu'r blaenoriaethau buddsoddi hynny, ond y gwaith yr ydym wedi cael y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i'w wneud hefyd i sicrhau ein bod ni'n parhau i ystyried sut rydym ni am wella datblygu economaidd rhanbarthol ymhellach. Fe fyddwn ni'n cyhoeddi'r gwaith a gawn ni gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a'r cynllun gweithredu y byddwn ni'n ceisio ei ddatblygu ochr yn ochr â'n partneriaid rhanbarthol ni. Mae hyn hefyd yn cyd-fynd â gwaith arall sydd gennym ni ar y gweill hefyd. Rwy'n disgwyl dod yn ôl yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf i siarad am strategaeth cyflogadwyedd Cymru yn y dyfodol, sy'n faes yr ydym ni, unwaith eto, wedi gallu gweithio ynddo'n adeiladol ynghyd â rhai rhannau o'r Adran Gwaith a Phensiynau, gan eu bod nhw'n fwy gweithgar mewn rhai rhannau o gymorth cyflogadwyedd. Mae angen i ni sicrhau bod ein cefnogaeth ni wedi cael ei theilwra mewn ffordd addas i bobl sydd bellaf i ffwrdd o'r farchnad lafur, sy'n faes y mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn canolbwyntio leiaf arno.
Ystyr hyn yw mireinio ein sefyllfa ni i sicrhau ein bod ni'n teithio, cyn belled ag y bo modd gwneud hynny, i'r un cyfeiriad. Fe all ewyllys da ar y ddwy ochr, rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, ganiatáu i ni wneud llawer, llawer mwy ond nid wyf i am ymddiheuro o gwbl am sefyll i fyny a dweud yn blaen fod methiant i fabwysiadu dull cymharol adeiladol hyd yn oed gan rai rhannau o Lywodraeth y DU yn effeithio ar ein gallu ni i wneud hynny. Fe fydd gwrthod rhoi rhywbeth yn lle hen gronfeydd yr UE yn parhau i fod yn heriol i ddyfodol economi Cymru, os bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn parhau i fod yn dawedog ynglŷn â'r mater neu beidio.