Part of the debate – Senedd Cymru am 4:21 pm ar 18 Ionawr 2022.
Rwy'n ymwybodol iawn fy mod i'n ymateb i'r datganiad hwn heddiw fel person gwyn gyda'r holl fraint sy'n gysylltiedig â chael fy ngeni'n wyn. Er fy mod i'n gallu teimlo empathi â grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yng Nghymru fel cynghreiriad, nid wyf i'n gallu deall yn iawn faint o boen y mae ein hunanfodlonrwydd ni fel cymdeithas wedi ei greu drwy beidio â dechrau mynd i'r afael â'r mater hwn cyn i George Floyd gael ei ladd yn annynol gan ysgogi'r mudiad Black Lives Matter a'n gorfodi i wynebu gwirioneddau anghyfforddus am hanes, treftadaeth a choffadwriaeth yng Nghymru, yn ogystal â'n cyfrifoldeb ni, yn bersonol ac fel Senedd, nid yn unig i fod yn wrth-hiliol, ond i chwarae ein rhan mewn creu Cymru gyfartal ac adnabod hiliaeth. Nid yw hyn yn ymwneud â dileu hanes, mae'n ymwneud â gosod cerfluniau fel y rhain yn eu cyd-destun hanesyddol a'u defnyddio i ysgogi sgyrsiau anodd er mwyn i ni allu cyflawni'r newid hwnnw.
Gadewch i ni beidio â thanbrisio faint o her y bydd hyn, a bod yn glir nad yw geiriau cynnes yn ddigon i fynd i'r afael â'r anghydraddoldeb a'r hiliaeth ddofn sy'n parhau yng Nghymru heddiw. A gadewch i ni beidio â meddwl ychwaith y bydd troi'r archwiliad hwn yn gamau gweithredu yn hawdd. Fel y cyfeiriodd y Dirprwy Weinidog yn ei datganiad, mae hyn wedi bod yn amlwg yn yr ymatebion hiliol yr ydym ni wedi eu gweld yn anffodus i rai camau sydd wedi eu cymryd eisoes mewn cysylltiad â Thomas Picton gan Gyngor Sir Caerfyrddin, cyngor dinas Caerdydd ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru. I eraill nad ydyn nhw wedi dechrau ar y daith hon eto, rwy'n siŵr y bydd croeso i'r ffaith y bydd gwaith yn dechrau bellach ar ddatblygu canllawiau, ond byddwn i'n ddiolchgar, Dirprwy Weinidog, pe gallech chi ymhelaethu ymhellach ar y broses hon a phryd yr ydych yn disgwyl i'r broses hon gael ei chwblhau. At hynny, a fydd cyllid yn cael ei ddarparu hefyd i gefnogi awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus i ymgymryd â'r gwaith pwysig hwn yn ogystal â'r canllawiau?
Hefyd, fe wnaethoch chi gyfeirio at y ffaith y bydd ymgynghoriad cyhoeddus llawn. Ydych chi'n gwybod eto ar ba ffurf y bydd hwn a phwy fydd yn arwain y gwaith hwn? At hynny, byddwn i'n ddiolchgar pe gallai'r Dirprwy Weinidog fynd i'r afael hefyd â pha ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei rhoi i'r ffordd orau o leddfu a chefnogi tensiynau mewn cymunedau lle mae'r coffadwriaethau hyn yn parhau tra bod y canllawiau'n cael eu datblygu? Fe wnaethoch chi gyfeirio hefyd yn eich datganiad ac yn eich ymateb blaenorol y bydd y canllawiau hefyd yn ystyried coffadwriaethau yn y dyfodol a'r ffordd orau o sicrhau bod esiamplau da mwy gweladwy sy'n cynrychioli amrywiaeth Cymru. Yn sicr, mae dadorchuddio cerflun Betty Campbell yng Nghaerdydd wedi dangos grym coffadwriaethau o'r fath. Rwy'n siŵr yr oeddem ni i gyd wrth ein bodd yn gweld y lluniau o blant ysgol o amgylch y cerflun hwnnw ac yn cael eu hysbrydoli ganddo. Pa gynlluniau, felly, sydd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r gwaith o gomisiynu rhagor o goffadwriaethau cyhoeddus sy'n adlewyrchu amrywiaeth Cymru ac yn caniatáu i genedlaethau'r dyfodol weld eu hunain yn cael eu cynrychioli'n gadarnhaol mewn celf gyhoeddus, diwylliant a hanes yng Nghymru?
Nid yw'n hawdd unioni camweddau'r gorffennol, gan ei fod yn ein gorfodi i wynebu gwirioneddau anodd ac anghyfforddus, ond ni allwn osgoi'r materion hyn mwyach, ac rwy'n falch o weld heddiw rywfaint o gynnydd ar yr archwiliad hwn. Ond ni allwn fod yn hunanfodlon, ac edrychaf ymlaen at gael diweddariadau pellach yn y dyfodol wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo.