– Senedd Cymru am 4:02 pm ar 18 Ionawr 2022.
Yr eitem nesaf y prynhawn nesaf yw'r datganiad gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip, ar y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd yn dilyn cyhoeddi 'Y Fasnach mewn Caethweision a'r Ymerodraeth Brydeinig: Archwiliad o Goffáu yng Nghymru'. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog, Dawn Bowden.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae ceisio cyflawni'r nod o Gymru fwy cyfartal yn ymwneud â gwireddu potensial ein holl bobl—[Anghlywadwy] Mae'n ddrwg gen i, Dirprwy Lywydd.
Fe wnaethom eich colli chi am eiliad.
Do, roeddem yn cael ychydig o anawsterau technegol yn y fan yno.
Ydych chi eisiau dechrau eto?
Byddaf i'n dechrau eto. Newydd ddechrau oeddwn i.
Mae ceisio cyflawni'r nod o Gymru fwy cyfartal yn ymwneud â gwireddu potensial ein holl bobl a'u galluogi i gymryd rhan mewn cymdeithas sifil ar delerau cyfartal. Rydym yn gwybod bod hwn yn llwybr at gymunedau mwy cydlynus a chymdeithas fwy llewyrchus. Mae hefyd yn sicrhau bywiogrwydd ein diwylliant a'n treftadaeth, sy'n cael eu cyfoethogi gan gyfranogiad ac ymgysylltiad ac a ddylai fod yn ddathliad o'n hamrywiaeth. Ond mae'r ffordd yr ydym yn adnabod ac yn hyrwyddo ein treftadaeth hefyd yn cael effaith ar ein lles fel cymdeithas. Ar y naill law, gall eithrio pobl o'n stori genedlaethol, ond ar y llaw arall, gall hefyd fod yn rym cadarnhaol sy'n helpu i lunio'r Gymru yr ydym yn ei dymuno. Mae ganddi'r potensial i feithrin yr ymgysylltiad a'r cyfranogiad hwnnw, sef sylfaen cymunedau cydlynus ac economi ffyniannus.
Mae treftadaeth yn agwedd bwysig ar sut y mae pobl yn uniaethu â ble maen nhw. Mae'n helpu i roi ymdeimlad o le ac o berthyn. Rydym yn awyddus i bawb deimlo bod rhan o'u stori dreftadaeth yma yng Nghymru. Mae hynny'n golygu bod yn rhaid i ni fod yn agored i adrodd straeon newydd a dod o hyd i ffigyrau newydd i'w dathlu. Ond mae angen i ni edrych yn feirniadol hefyd ar yr hyn yr ydym ni eisoes wedi ei nodi fel treftadaeth, a bod yn agored i'w dehongli o'r newydd. Mae hyn yn arbennig o bwysig lle ceir pethau sy'n atgoffa o anghyfiawnderau hanesyddol. Mae gennym ni gyfrifoldeb i osod y naratif hanesyddol, ac annog perthynas onest a gwybodus â'n hanes. Dim ond drwy wneud hyn y gallwn ni feithrin yr ymgysylltiad creadigol sy'n cynnal ein treftadaeth ac sy'n cyfrannu at fywiogrwydd cymdeithas sifil.
Roedd yr archwiliad o goffáu, dan arweiniad Gaynor Legall, yn gam cyntaf pwysig mewn proses o edrych yn onest ar yr hyn yr ydym wedi ei etifeddu, ac o gydnabod yr angen i fod â chofnod di-duedd o'r gorffennol. Bwriad yr archwiliad bob amser oedd bod yn gam cyntaf, ac rwyf yn falch o ddweud ein bod yn cymryd camau pellach ar hyd y ffordd tuag at y cofnod di-duedd a dilys hwnnw o'r gorffennol sydd mor bwysig os ydym am sicrhau treftadaeth sy'n cael ei rhannu'n wirioneddol. Y prif ymateb i archwiliad Legall fydd datblygu polisi a chanllawiau clir gan Lywodraeth Cymru i gefnogi awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus wrth fynd i'r afael â gweithredoedd coffáu cyhoeddus.
Rydym eisoes wedi ymateb i adroddiad yr hen Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y Senedd, 'Ar Gof a Chadw? Adroddiad ar bwy sy’n cael eu coffáu mewn mannau cyhoeddus', a wnaeth alwadau tebyg am ganllawiau clir a fydd yn cyflwyno map llwybr ar gyfer gwneud penderfyniadau sy'n ymwneud â gweithredoedd coffa hanesyddol ac yn y dyfodol. Bydd y canllawiau hyn yn defnyddio arferion da o fannau eraill i nodi'r mathau o ymyriadau cadarnhaol a allai fod ar gael. Er enghraifft, a oes angen i gofebion presennol gael naratif pellach, sy'n esbonio'r cyd-destun ehangach, neu a oes angen ystyried opsiynau mwy radical a allai gynnwys adleoli cofeb? Pa feini prawf y dylid eu hystyried wrth wneud penderfyniadau o'r fath, a sut y gellir ymgysylltu yn wirioneddol â chymunedau?
Mae penderfyniadau fel yr hyn a wnaed gan Gyngor Sir Caerfyrddin i ddarparu dehongliad ochr yn ochr â heneb Picton, neu gan Gyngor Caerdydd i dynnu cerflun Picton o Neuadd y Ddinas, yn ein hatgoffa o ba mor anodd y gall hyn fod ac amlygu'r angen am arweiniad. Hefyd, wrth gwrs, mae cydnabod cyn lleied o gofebion sydd i bobl dduon, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig, neu fenywod nodedig hyd yn oed, yn fan cychwyn ar gyfer deialog ynghylch pwy yr ydym yn ei goffáu yn y dyfodol. Bydd datblygiad y canllawiau ei hun yn adlewyrchu ymrwymiad i gynhwysiant. Bydd cyfres o weithdai wedi eu hwyluso sy'n cynnwys rhanddeiliaid allweddol yn ganolbwynt iddo. Mae swyddogion Cadw wedi dechrau'r ymchwil gefndirol a fydd yn llywio'r canllawiau eisoes, a'r bwriad yw cynnal y gweithdai yn gynnar eleni. Caiff y canllawiau eu drafftio yn ystod y gwanwyn, ac yna bydd ymgynghoriad cyhoeddus llawn.
Yn y cyfamser, rydym ni eisoes wedi cymryd rhai camau. Rydym ni wedi cyhoeddi argraffiad diwygiedig o archwiliad Legall, gan wneud mân ddiwygiadau mewn ymateb i adborth a gwybodaeth newydd sydd wedi dod i'r amlwg ers ei gyhoeddi gyntaf flwyddyn yn ôl, ac mae hwn ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Ar gyfer cofebion sydd â gwarchodaeth gyfreithiol, fel strwythurau rhestredig, mae Cadw wedi diwygio'r holl ddisgrifiadau sy'n croesgyfeirio i ffigyrau a nodwyd yn yr archwiliad o goffáu. Mae'r disgrifiadau rhestr newydd hyn ar gael i'r cyhoedd bellach drwy fapiau Cof Cymru ar-lein Cadw. Mae Cadw hefyd yn gweithio i ddefnyddio ei wefan i gyhoeddi naratif cyfoethog ac amrywiol am hanes Cymru. Mae cam cyntaf wedi cynnwys adolygu cynnwys presennol a'i gasglu gyda'i gilydd i'w rannu ar y wefan. Mae'r ail gam yn cynnwys comisiynu cynnwys amlgyfrwng allanol, gan gynnwys fideo a sain. Bydd y cynnwys hwn yn cael ei gynnal ar ardal bwrpasol sydd newydd ei datblygu ar wefan Cadw. Bydd hwn yn fan sydd ar gael i bawb yn y pen draw lle gellir dathlu a rhannu llawer o agweddau ar amrywiaeth ein treftadaeth.
Mae'r camau hyn yn cyfrannu at un o nodau'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol sy'n cael ei ddatblygu, sy'n galw arnom i weithio gyda chyrff cyhoeddus i gydnabod yn llawn eu cyfrifoldeb am bennu'r naratif hanesyddol, hyrwyddo a chyflwyno cofnod di-duedd, dilys, heb fod yn drefedigaethol o'r gorffennol. Mae'r camau hyn yn mynd i'r afael â rhai blaenoriaethau pwysig: cael gwybodaeth sy'n ddi-duedd, codi ymwybyddiaeth, rhannu gwybodaeth a dealltwriaeth, a sefydlu fframwaith sy'n cefnogi'r gwaith o wneud penderfyniadau ar y cyd ar gyfer gweithredoedd coffáu. Rwyf i'n credu eu bod, gyda'i gilydd, yn ymateb addas i'r materion a gafodd eu codi yn archwiliad Legall a'r camau nesaf pwysig ar ein taith tuag at Gymru wrth-hiliol. Diolch yn fawr.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.
Diolch. Wel, ledled y byd, mae caethwasiaeth wedi bod yn realiti enbyd a drwg drwy gydol y rhan fwyaf o hanes dynol. Roedd caethwasiaeth ledled Prydain ei hun ymhell cyn dyddiau'r Rhufeiniaid ac fe wnaeth barhau dros ganrifoedd lawer wedyn. Roedd y Prydeinwyr, h.y. y Celtiaid neu'r Cymry, a'r Eingl-Sacsoniaid yn aml yn cadw caethweision, fel y gwnaeth y Llychlynwyr gorchfygol, wrth i'r buddugwr gaethiwo neu werthu'r rhai a gafodd eu gorchfygu. Hanes erchyll a rennir hefyd gan lawer o lwythau a theyrnasoedd yn Affrica ac mewn mannau eraill.
Erbyn yr ymosodiad Normanaidd yn 1066, roedd 10 y cant o boblogaeth Prydain yn gaethweision. Yn y ddeunawfed ganrif, roedd cannoedd o gwmnïau yn ymwneud â'r fasnach gaethweision drawsatlantig, gan gludo Affricanwyr i drefedigaethau Caribïaidd. Mae ein perthynas â chaethwasiaeth yn un hir, gymhleth ac astrus, a bydd cyndeidiau y rhan fwyaf o bobl sy'n byw yn y DU heddiw wedi cael rhyw fath o gysylltiad â hyn. A yw'r Gweinidog yn rhannu fy marn i fod yn rhaid i ni ddysgu o'r gorffennol os nad ydym am ailadrodd ei gamgymeriadau, ei bod yn hanfodol diogelu diwylliant a threftadaeth Cymru, ac y dylem ni dynnu sylw at hanes nid ei ddileu?
Sut y mae'r Gweinidog yn ymateb i gyfeiriad yr adroddiad at blaciau a'i ganfyddiad bod llawer o goffadwriaethau, boed yn henebion cyhoeddus, cerfluniau, portreadau cyhoeddus neu enwau adeiladau cyhoeddus, lleoedd a strydoedd, yn aml heb unrhyw ddehongliad cysylltiedig? A yw'r Gweinidog yn cytuno y dylai placiau sy'n cynnwys esboniad â chyd-destun llawn gael eu hatodi i henebion hanesyddol, fel y gall ymwelwyr neu bobl sy'n pasio lunio eu harfarniadau eu hunain? Gall unigolion a gafodd eu cofio fod yn gymhleth, ac rydym yn falch o weld cydnabyddiaeth yn yr adroddiad,
'Roedd gan lawer ohonynt hanes personol cymhleth a oedd yn ymgnawdoli newidiadau sylweddol mewn amgylchiadau neu safbwyntiau ar hyd eu hoes.'
A yw'r Gweinidog yn cytuno, ac os felly, sut y bydd hi'n sicrhau bod yr agwedd hon yn cael ei chymhwyso'n gyson a'i bod yn parhau i'r dyfodol? Er enghraifft, mae'r adroddiad yn sôn am Mahatma Gandhi, ffigwr hynod ddylanwadol yn yr ymgyrch dros annibyniaeth India. Mae cerflun ym Mae Caerdydd, nepell o'r Senedd. Er i Gandhi weddnewid ei hun a rhoi'r gorau i hiliaeth yn ddiweddarach, mae dyfyniadau o'i ysgrifiadau a'i ddatganiadau wrth weithio fel atwrnai yn Ne Affrica cyn iddo ddychwelyd i India ym 1915, yn cynnwys dyfyniadau hiliol lle, er enghraifft, galwodd Indiaid yn 'anfeidrol gwell' nag Affricanwyr du. Yn 2018, tynnodd Prifysgol Ghana gerflun o Gandhi i lawr ar y sail hon.
Sut y mae'r Gweinidog yn ymateb i ymchwiliad yr adroddiad i ffigyrau fel Christopher Columbus, nad oedd ganddo unrhyw gysylltiad â Chymru na Phrydain, oherwydd bod ymgyrchwyr wedi tynnu sylw ato gan ddweud bod angen ei archwilio? Fel y dywed yr adroddiad:
'Mae cyfraniad llawer o'r unigolion hyn at gaethwasiaeth neu fathau eraill o gamdriniaeth yn agored i drafodaeth a dehongliad. Fe newidiodd sawl un ei farn yn sylweddol wrth ystyried materion yn fanwl neu wrth i agweddau newid o'i gwmpas.'
Er bod yr adroddiad yn nodi bod cerfluniau William Gladstone wedi eu beirniadu gan ymgyrchwyr ar y sail bod ei dad wedi elwa ar weithwyr planhigfeydd wedi eu caethiwo, mae'n ychwanegu,
'Ymddengys nad yw wedi cyfrannu at gaethwasiaeth yn bersonol a daeth yn un o brif ddiwygwyr y bedwaredd ganrif ar bymtheg.'
Sut felly ydych chi'n ymateb i alwadau i ddileu cerfluniau o ffigyrau fel Gladstone, pan oedd Gladstone yn wladweinydd Rhyddfrydol a wasanaethodd yn Brif Weinidog Prydain bedair gwaith ac a alwodd gaethwasiaeth,
'y drosedd fileiniaf o bell ffordd sy'n pardduo hanes dynolryw'?
Mae'r adroddiad hefyd yn nodi:
'Pardduwyd enw H.M. Stanley gan ei weithredoedd honedig a chanlyniadau ei weithredoedd hysbys yn Affrica, ond mae ei euogrwydd personol yn destun dadl o hyd.'
Er i'w enw da gael ei ddifrodi gan ei ran mewn sefydlu Gwladwriaeth Rydd y Congo ar gyfer Leopold II o Wlad Belg, mae tystiolaeth yn dangos nad oedd Stanley yn ymwybodol o wir fwriadau Leopold ac nad oedd erioed yn gysylltiedig â'r erchyllterau a gyflawnwyd yn erbyn y bobl frodorol. At hynny, mae ei lythyrau a'i ddyddiaduron o'r adeg hon yn cofio ei atgasedd tuag at gaethwasiaeth a'r fasnach gaethweision. Yn wir, pan oeddwn i'n westai yn seremoni dadorchuddio ei gerflun yn Ninbych yn 2011, clywais yn uniongyrchol gan ddirprwyaeth o'r Congo a anfonwyd draw ar gyfer y dadorchuddio, a ddywedodd wrthyf am eu cariad a'u gwerthfawrogiad tuag ato. Sut felly ydych chi'n ymateb i bleidlais y cyhoedd yn Ninbych a arweiniodd at gadw'r cerflun o 471 i 171? A ydych chi'n cytuno bod gwneud penderfyniadau democrataidd lleol fel hyn yn well nag unrhyw benderfyniadau a orfodir o'r brig i lawr ym Mae Caerdydd?
Yn olaf, wrth i ni gydnabod cymhlethdod hanes, a yw'r Gweinidog yn cytuno ei bod yn bwysig cofio'r safbwynt gwrth-gaethwasiaeth a gymerodd Prydain, er enghraifft pan ddiddymodd y Ddeddf masnach gaethweision ym 1807 y fasnach gaethweision, ac, yn dilyn hyn, defnyddiodd Llywodraeth y DU y Llynges Frenhinol a chytuniadau i ddwyn perswâd ar wledydd eraill i roi terfyn ar eu hymwneud nhw â chaethwasiaeth?
Diolch i Mark Isherwood am y sylwadau a'r cwestiynau yna. Rwy'n credu fy mod i'n cytuno llwyr â llawer o'r hyn y mae'n ei ddweud. Mae gan yr ynysoedd hyn hanes hir o gaethwasiaeth ac nid yw ein rhan ni yn yr hanes hwnnw wedi bod yn destun gogoniant i ni bob amser. Ond mae'n rhaid i ni edrych arno yng nghyd-destun yr hyn a oedd yn digwydd ar y pryd. Roedd hynny'n rhan o holl broses yr archwiliad Legall: nodi pobl yr oeddem yn eu hystyried, bryd hynny mewn hanes, yn bobl a oedd yn ddyngarwyr, a gyfrannodd at ein cymdeithas, a oedd yn grewyr cyfoeth, ac yn y blaen, ac a roddodd pethau da i'n cymdeithas, ond y gwnaethon nhw hefyd, wrth gwrs, niwed gydol oes i'r genedl o ran atgofion cymunedau, heb fod mor bell yn ôl â hynny. Mae'n gwbl iawn a phriodol ein bod yn edrych ar hynny i gyd drwy gyd-destun yr unfed ganrif ar hugain—ein bod yn edrych ar y bobl hyn, a'n bod yn dweud y gwnaethon nhw yr hyn y gwnaethon nhw bryd hynny yn ystod hynt eu hoes ar yr adeg honno, ond na ddylid anwybyddu'r effaith y cafodd hynny ar genedlaethau a ddaeth ar eu holau.
Cyflawnodd pobl a oedd yn ymwneud â'r fasnach gaethweision erchyllterau ofnadwy ac anghyfiawnderau ofnadwy, ac mae angen cydnabod hynny i gyd ochr yn ochr ag unrhyw bethau da a wnaeth y bobl hynny. Byddaf i'n rhoi enghraifft i chi. Bydd cydweithwyr yn y Siambr yn gwybod, wrth gwrs, y cefais i fy ngeni a fy magu yn ninas Bryste, dinas yr oedd ei heconomi gyfan wedi ei seilio bryd hynny—. Roedd cerflun Edward Colston yn symbol o hynny. Roedd Edward Colston yn ddyngarwr mawr yn y ddinas. Adeiladodd ysgolion, adeiladodd ysbytai, rhoddodd ei enw i bob math o bethau o amgylch y ddinas, a rhoddodd lawer o arian i'r ddinas honno. Ond nid yw hynny'n golygu nad yw pobl bellach yn cydnabod bod yn rhaid cydnabod y niwed a wnaeth yn ystod y cyfnod hwnnw. Cafodd archwiliad Legall ei gynnal o ganlyniad i rai o'r pethau a welsom tua'r adeg honno, yn dilyn y mudiad Black Lives Matter a chwympo cerflun Colston, ac, yn wir, cwympo cerfluniau fel yr ydym ni wedi ei weld mewn mannau eraill. Roedd yn rhan o'r rheswm pam yr edrychodd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, ar sail hynny ac yn sgil hynny i gyd, ar sut yr ydym yn coffáu'r bobl hyn o'r gorffennol. Felly, rwy'n credu ei fod yn fwy o fater o beidio â thaflu'r llo a chadw’r brych, a'n bod yn edrych ar yr hyn a wnaeth y ffigyrau hanesyddol hyn. Gallwn ni goffáu'r pethau da y gwnaethon nhw, ond rydym yn cydnabod yr anghyfiawnderau hanesyddol hefyd, ac rydym yn eu gosod yn y cyd-destun.
Nid yw'n fater o Lywodraeth Cymru yn datgan oddi fry pa rai o'r bobl hyn y dylid ac na ddylid eu coffáu. Ein rhan ni yw cyhoeddi canllawiau ar sut y mae awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus yn eu gosod yn y cyd-destun. A dyna'r hyn a ddigwyddodd gyda cherflun Stanley yn Ninbych. Ymatebodd Dinbych o ganlyniad i ddeiseb yn y dref honno. Cawson nhw refferendwm lleol, a phenderfynodd y refferendwm lleol hwnnw gadw Stanley. Nid bwriad Llywodraeth Cymru yw gweithredu'n groes i ddymuniadau trigolion lleol o ran y ffigyrau hanesyddol y gallan nhw uniaethu â nhw yn eu trefi, ond mae'n rhywbeth y byddwn yn ei ddweud yn y canllawiau—y dylid ei osod o bosibl yn y cyd-destun hanesyddol er mwyn, fel yr ydych chi eisoes wedi dweud, Mark Isherwood, ei osod yn y cyd-destun hwnnw gyda naratif a gyda disgrifiad sy'n nodi'n hanesyddol sut y mae'r bobl hyn yn rhan o'n hanes. Bydd y canllawiau a gaiff eu cyhoeddi yn cael eu llunio ar y cyd â nifer o randdeiliaid allweddol, fel yr wyf i wedi ei ddweud, a byddan nhw'n cynnwys pobl o'r cymunedau duon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, menywod, pobl sydd â gwybodaeth hanesyddol. Mae'n amlwg y bydd arbenigwyr o Lywodraeth Cymru.
Bydd hefyd yn edrych ar sut yr ydym yn coffáu pobl wrth symud ymlaen ac i'r dyfodol. Oherwydd un o'r pethau y nododd yr archwiliad eisoes, ac yr wyf i wedi ei nodi yn fy natganiad, yw bod gennym ni brinder coffáu yn ymwneud â menywod, yn ymwneud â phobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Yn sicr, nid yw'n ymddangos bod y gymuned LGBTQ+ yn cael ei chynrychioli mewn llawer o'n coffadwriaethau. Bydd yr holl bethau hynny'n cael eu cynnwys yn y canllawiau. Yn allweddol i'r cyfan yw bod pobl yn cael eu coffáu a'u cydnabod yng nghyd-destun eu hamser a'r cyd-destun yr ydym yn byw ynddo yn awr, gan edrych yn ôl ar eu bywydau. Nid yw'n ymwneud ag ailysgrifennu hanes, mae'n ymwneud â'i osod yn ei gyd-destun priodol.
Llefarydd Plaid Cymru, Heledd Fychan.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch, Dirprwy Weinidog, am y diweddariad heddiw.
Rwy'n ymwybodol iawn fy mod i'n ymateb i'r datganiad hwn heddiw fel person gwyn gyda'r holl fraint sy'n gysylltiedig â chael fy ngeni'n wyn. Er fy mod i'n gallu teimlo empathi â grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yng Nghymru fel cynghreiriad, nid wyf i'n gallu deall yn iawn faint o boen y mae ein hunanfodlonrwydd ni fel cymdeithas wedi ei greu drwy beidio â dechrau mynd i'r afael â'r mater hwn cyn i George Floyd gael ei ladd yn annynol gan ysgogi'r mudiad Black Lives Matter a'n gorfodi i wynebu gwirioneddau anghyfforddus am hanes, treftadaeth a choffadwriaeth yng Nghymru, yn ogystal â'n cyfrifoldeb ni, yn bersonol ac fel Senedd, nid yn unig i fod yn wrth-hiliol, ond i chwarae ein rhan mewn creu Cymru gyfartal ac adnabod hiliaeth. Nid yw hyn yn ymwneud â dileu hanes, mae'n ymwneud â gosod cerfluniau fel y rhain yn eu cyd-destun hanesyddol a'u defnyddio i ysgogi sgyrsiau anodd er mwyn i ni allu cyflawni'r newid hwnnw.
Gadewch i ni beidio â thanbrisio faint o her y bydd hyn, a bod yn glir nad yw geiriau cynnes yn ddigon i fynd i'r afael â'r anghydraddoldeb a'r hiliaeth ddofn sy'n parhau yng Nghymru heddiw. A gadewch i ni beidio â meddwl ychwaith y bydd troi'r archwiliad hwn yn gamau gweithredu yn hawdd. Fel y cyfeiriodd y Dirprwy Weinidog yn ei datganiad, mae hyn wedi bod yn amlwg yn yr ymatebion hiliol yr ydym ni wedi eu gweld yn anffodus i rai camau sydd wedi eu cymryd eisoes mewn cysylltiad â Thomas Picton gan Gyngor Sir Caerfyrddin, cyngor dinas Caerdydd ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru. I eraill nad ydyn nhw wedi dechrau ar y daith hon eto, rwy'n siŵr y bydd croeso i'r ffaith y bydd gwaith yn dechrau bellach ar ddatblygu canllawiau, ond byddwn i'n ddiolchgar, Dirprwy Weinidog, pe gallech chi ymhelaethu ymhellach ar y broses hon a phryd yr ydych yn disgwyl i'r broses hon gael ei chwblhau. At hynny, a fydd cyllid yn cael ei ddarparu hefyd i gefnogi awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus i ymgymryd â'r gwaith pwysig hwn yn ogystal â'r canllawiau?
Hefyd, fe wnaethoch chi gyfeirio at y ffaith y bydd ymgynghoriad cyhoeddus llawn. Ydych chi'n gwybod eto ar ba ffurf y bydd hwn a phwy fydd yn arwain y gwaith hwn? At hynny, byddwn i'n ddiolchgar pe gallai'r Dirprwy Weinidog fynd i'r afael hefyd â pha ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei rhoi i'r ffordd orau o leddfu a chefnogi tensiynau mewn cymunedau lle mae'r coffadwriaethau hyn yn parhau tra bod y canllawiau'n cael eu datblygu? Fe wnaethoch chi gyfeirio hefyd yn eich datganiad ac yn eich ymateb blaenorol y bydd y canllawiau hefyd yn ystyried coffadwriaethau yn y dyfodol a'r ffordd orau o sicrhau bod esiamplau da mwy gweladwy sy'n cynrychioli amrywiaeth Cymru. Yn sicr, mae dadorchuddio cerflun Betty Campbell yng Nghaerdydd wedi dangos grym coffadwriaethau o'r fath. Rwy'n siŵr yr oeddem ni i gyd wrth ein bodd yn gweld y lluniau o blant ysgol o amgylch y cerflun hwnnw ac yn cael eu hysbrydoli ganddo. Pa gynlluniau, felly, sydd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r gwaith o gomisiynu rhagor o goffadwriaethau cyhoeddus sy'n adlewyrchu amrywiaeth Cymru ac yn caniatáu i genedlaethau'r dyfodol weld eu hunain yn cael eu cynrychioli'n gadarnhaol mewn celf gyhoeddus, diwylliant a hanes yng Nghymru?
Nid yw'n hawdd unioni camweddau'r gorffennol, gan ei fod yn ein gorfodi i wynebu gwirioneddau anodd ac anghyfforddus, ond ni allwn osgoi'r materion hyn mwyach, ac rwy'n falch o weld heddiw rywfaint o gynnydd ar yr archwiliad hwn. Ond ni allwn fod yn hunanfodlon, ac edrychaf ymlaen at gael diweddariadau pellach yn y dyfodol wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo.
Diolch, Heledd, am y sylwadau a'r cwestiynau yna. Rwy'n cytuno yn llwyr â phopeth y gwnaethoch ei ddweud—eich cwestiynau a'r cyd-destun y gwnaethoch chi osod y cwestiynau hynny ynddo. Rydym ni i gyd wedi gorfod wynebu, yn gwbl briodol, wirioneddau anghyfforddus iawn, iawn wrth i ni fynd i'r afael â chanlyniadau llofruddiaeth George Floyd a'r hyn a ddaeth ar ôl hynny. Ac rydych chi'n llygad eich lle ei bod yn drasiedi y bu'n rhaid i ni aros am ddigwyddiad fel hwnnw cyn i ni weithredu yn y ffordd a wnaethom mewn ymateb i hynny. Ond rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gwneud hynny yng Nghymru a'n bod ni wedi gwneud hynny yn gyflym. Fe wnaethom dynnu ynghyd y bwrdd, y grŵp a weithiodd gyda Gaynor Legall i lunio'r archwiliad a llunio'r rhestr a wnaeth, gan arwain at yr argymhellion y byddwn yn eu datblygu ac y gwnes i eu hamlinellu yn fy natganiad heddiw.
Ni allaf roi amser pendant i chi eto o ran pryd y bydd hyn yn cael ei gwblhau. Rydym yn gobeithio y byddwn yn cael y grŵp rhanddeiliaid at ei gilydd yn weddol gyflym, ond nid ydym ni eisiau rhuthro hyn. Rydym ni eisiau ei wneud yn iawn. Rydym yn dwyn ynghyd grŵp rhanddeiliaid a fydd yn drafftio'r argymhellion, ac, fel y dywedais i, rwy'n awyddus i'r grŵp rhanddeiliaid hwnnw fod mor gynhwysol ag y gall fod fel bod gennym ni bobl sydd â gwybodaeth hanesyddol ond bod gennym ni bobl hefyd sydd â gwybodaeth am gyfle cyfartal a chydraddoldeb, y mae angen i ni edrych arnyn nhw ar gyfer y dyfodol yn ogystal â nodi ac argymell sut y mae cyrff a sefydliadau cyhoeddus yn nodi'r bobl y byddwn yn eu coffáu yn y dyfodol.
Roedd gennym ni'r cynllun plac porffor, wrth gwrs, yng Nghymru, sef yr unig genedl yn y DU, rwy'n credu, a oedd â chynllun penodol a phwrpasol yn edrych ar sut yr ydym yn coffáu menywod hynod yng Nghymru. Rwy'n falch iawn o'r ffaith bod un o'r placiau porffor hynny yn fy etholaeth i, yn coffáu Ursula Masson, a sefydlodd archif menywod Cymru. Roedd yn un o'r pethau rwy'n ei gofio pan gefais fy ethol am y tro cyntaf. Mae'r etholaeth yr wyf i'n ei chynrychioli yn etholaeth ryfeddol sydd â hanes anhygoel, ond ychydig iawn o fenywod, os o gwbl, sy'n cael eu coffáu ynddi. Un o'r pethau cyntaf y gwnes i pan gefais fy ethol oedd llunio pamffled am fenywod hynod Merthyr Tudful a Rhymni, oherwydd bod cynifer o'r menywod hynny yn rhan annatod ac yn hanfodol o ffyniant yr etholaeth honno. Nhw oedd y grym a'r gefnogaeth y tu ôl i wrthryfel Merthyr, er enghraifft. Felly, mae'n rhaid i ni edrych ar bob maes cydraddoldeb. Mae'n rhaid i ni edrych ar y menywod hynny, y bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig hynny yn ein cymunedau, a chymunedau LGBTQ, sydd wedi gwneud cyfraniadau enfawr i'n cymdeithas, a rhan o'r canllawiau fydd edrych ar hynny o ran y mathau o bobl y byddem yn eu coffáu. Ond byddwn i'n disgwyl a byddwn i'n gobeithio y byddai'r coffadwriaethau hynny a'r argymhellion a gaiff eu cyflwyno yn cael eu hysgogi o'r gwaelod i fyny, felly cymunedau lleol eu hunain fyddai'n nodi pobl y maen nhw'n dymuno'u coffáu.
O ran yr ymgynghoriad cyhoeddus, byddwn i'n disgwyl yn fawr iawn i'r grŵp rhanddeiliaid fod yn nodi ei argymhellion ynghylch sut y dylid cynnal yr ymgynghoriad hwnnw. Ond hoffwn i'r ymgynghoriad hwnnw fod mor drylwyr ag y gall fod, i fod mor llawn ag y gall fod, i fod mor hawdd ymateb iddo ag y gall fod, felly mae'n rhaid i ni edrych ar yr holl opsiynau sydd ar gael i ni i alluogi hynny i ddigwydd. Mae'n rhaid i mi ddweud, y cefais fy nghalonogi yn fawr gan y ffaith, pan gafodd yr archwiliad Legall ei gyhoeddi yn wreiddiol, fod yr ymatebion a gawsom iddo yn gadarnhaol iawn ar y cyfan o ran yr hyn yr oeddem yn ceisio'i wneud. Ie, rwyt ti'n iawn, Heledd, roedd rhywfaint o ymateb yn ei erbyn, fel y bydd bob amser pan fyddwn yn gwneud unrhyw beth fel hyn, fel y cafwyd pan wnaethom ni ddatgan Cymru yn genedl noddfa ac yn y blaen. Ond rwy'n cymryd o hynny'r pethau cadarnhaol. Roedd yr ymatebion cadarnhaol a gawsom o hynny yn llawer mwy na'r rhai negyddol.
O ran cymorth ariannol, mewn ymateb i adroddiad y pwyllgor, rydym ni wedi gwario cryn dipyn, yn amlwg, ar gyrraedd y pwynt yr ydym ni arno ar hyn o bryd. Rydym ni wedi ariannu hynny, fe wnaethom ariannu'r archwiliad, fe wnaethom ni ariannu'r fersiwn ddiwygiedig ac yn y blaen, a byddwn, yn amlwg, yn ariannu'r ymgysylltu â rhanddeiliaid, a byddwn yn ariannu'r ymgynghoriad cyhoeddus. Yr hyn nad ydym ni wedi gallu ymrwymo iddo—ac nid wyf i'n dweud na fyddwn yn ailystyried hyn yn y dyfodol o gwbl—nid ydym ni wedi gallu ymrwymo i'r effaith y gallai cael gwared ar henebion neu gael gwared ar baentiadau, ailgysegru, ail-ddehongli ac yn y blaen ei chael, oherwydd ei bod yn anodd gwybod eto faint fyddai hynny a beth fyddai maint hynny. Felly, fe wnaethom ni gytuno mewn egwyddor â'r pwyllgor, ac rwy'n cadw at hynny. Nid ydym yn dweud na fyddem yn helpu i gefnogi ac ariannu hynny, ond ni allem roi ffigur arno ar hyn o bryd, ac ni allwn ymrwymo i hynny heb wybod beth fyddai maint hynny.
O ran yr hyn yr ydym yn ei wneud o fewn ein cymunedau, Heledd, rwy'n credu bod rhan o'n cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol yn ymwneud ag edrych ar hynny a sut yr ydym yn symud tuag at Gymru wrth-hiliol. Mae fy nghyd-Aelod Jane Hutt yn gwneud gwaith anhygoel gyda'i thîm ar hynny, a byddwn yn clywed adroddiadau pellach ganddi am y gwaith y byddwn yn ei wneud ac yn parhau i'w wneud yn ein cymunedau i ddatblygu'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol hwnnw.
Ac yn olaf, Jenny Rathbone.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae gan fy etholaeth i y pleser a'r anrhydedd o fod yn gartref i'r cerflun o Betty Campbell, ac oherwydd ei fod wedi ei greu tra bod Betty yn atgof byw yn wirioneddol, roedd hi'n gallu defnyddio'r dystiolaeth gan bobl a oedd wedi gweithio a hyfforddi gyda Betty, a oedd wedi ymgyrchu gyda Betty, neu a oedd wedi byw gyda Betty, a'r holl waith a wnaeth i ysgogi ei hangerdd dros addysgu'r genhedlaeth nesaf ymlaen, a hefyd ei phenderfyniad bod yn rhaid i'n hanes a'n diwylliant fod yn berthnasol i bawb yng Nghymru, nid y dosbarth rheoli dominyddol yn unig, ac nad yw hanes pobl dduon yn bwnc ar gyfer mis Hydref yn unig, ond drwy gydol y flwyddyn, sy'n sail i'n cwricwlwm modern i Gymru. Mae hefyd yn dechrau unioni absenoldeb gwarthus unrhyw gerflun o unrhyw fenywod go iawn yn unrhyw le yng Nghymru. Sut digwyddodd hynny? Wel, rydym ni fenywod i gyd yn gwybod sut y digwyddodd hynny. Ond, beth bynnag, dyna'r hyn y mae'n rhaid i ni frwydro yn ei erbyn.
Mae rhai cerfluniau sydd dros bob man yn ein tirwedd yn coffáu urddasolion nad yw pobl heddiw erioed wedi clywed amdanyn nhw neu, wrth ymchwilio, yn adlewyrchu rhannau o'n gorffennol nad oes gennym ni fawr ddim i ymfalchïo ynddyn nhw. Rwy'n credu bod hynny'n llai gwir yng Nghymru nag ydyw, dyweder, yn Llundain, ond hoffwn i archwilio gyda chi sut y bydd yr archwiliad Legall yn caniatáu i ni fynd i'r afael ag anwybodaeth am y cyfraniad pwysig a wnaed gan arwyr ac arwresau yn y gorffennol, boed hynny o bwysigrwydd lleol neu genedlaethol, neu sut y byddwn yn cael gwared yn drefnus ar bobl nad ydym eisiau eu dathlu mwyach neu eu hail-werthuso.
Diolch am y cwestiynau yna, Jenny, ac rwy'n credu eu bod nhw'n bwyntiau pwysig iawn, bod gennym ni goffadwriaethau i bobl o'r gorffennol—. Rwy'n cyfeirio yn ôl at fy atebion i bwyntiau Mark Isherwood—mae gennym ni bobl yr ydym ni wedi eu coffáu yn y gorffennol na fyddem yn eu coffáu heddiw, am yr holl resymau yr ydym yn eu gwybod. Ac rwy'n credu bod pwysigrwydd nodi'r bobl hyn, sef yr hyn a wnaeth yr archwiliad, a'u gosod yn ôl o fewn cyd-destun hanesyddol llawn, nid yn unig bod y rhain yn bobl wych, ond mai pobl oedd y rhain a wnaeth yr hyn a'r llall, ac mae angen i ni ddehongli hynny—. A dyna'n union yw hanfod y canllawiau, sut yr ydym yn ail-ddehongli—nid ailysgrifennu hanes, ond ail-ddehongli, yn y cyd-destun, briodoldeb yr hyn a wnaeth pobl a'r bywydau yr oedden nhw'n eu byw a'u harweiniodd i gael eu coffáu yn y lle cyntaf.
Felly, rwy'n gobeithio yn fawr mai dyna'n union y bydd y canllawiau yn ei wneud, ac y bydd yn rhoi'r arweiniad hwnnw i awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill, yn yr un modd, fel y dywedais i, yr wyf i'n gobeithio y bydd y canllawiau hefyd yn llywio awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus i nodi sut y gallwn goffáu pobl yn awr. Felly, mae enghraifft Betty Campbell yn glasur—y ffaith bod gennym ni'r fenyw ddu hon, o'ch etholaeth chi, Jenny, a oedd yn chwedl yn ei hoes ei hun. Roedd hi'n gynrychiolydd etholedig, roedd ei disgyblion a'r bobl a oedd yn gysylltiedig â hi yn ei chymuned yn ei charu'n fawr, ac o ganlyniad i hynny, y math hwnnw o fenter gan y gymuned leol honno i goffáu Betty yn union yw'r hyn yr wyf i'n awyddus i'w weld ar gyfer y dyfodol—bod ein cymunedau lleol yn ysgogi'r coffáu yn y dyfodol, pobl sy'n rhoi yn ôl i'w cymunedau, sydd wedi gwneud gwahaniaeth i fywydau'r bobl yn eu cymunedau. Ac rwy'n gobeithio yn fawr iawn y gwelwn ni fwy o fenywod, y gwelwn ni fwy o bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, ac y gwelwn ni, efallai, am y tro cyntaf, rywun o'r gymuned LGBTQ+ yn cael ei goffáu mewn cerflun yn ein prifddinas neu rywle arall yng Nghymru. Dyna fy ngobaith i, ac yn sicr dyna ddiben y canllawiau hyn.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog.