1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru ar 19 Ionawr 2022.
7. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i helpu busnesau yn Nyffryn Clwyd i adfer o bandemig COVID-19? OQ57464
Diolch. Fel y gŵyr yr Aelod, rydym yn darparu adnoddau sylweddol i helpu i adfer. Rydym yn darparu bron i £140 miliwn, pan ystyriwch y gronfa cadernid economaidd gwerth £120 miliwn, y gronfa adferiad diwylliannol gwerth £15.4 miliwn, a'r £3 miliwn cychwynnol a roddwyd i'r gronfa chwaraeon gwylwyr. Dyna'r cymorth brys i fusnesau rydym wedi'i ddarparu. Ers mis Ebrill 2020, efallai yr hoffai'r Aelod wybod bod busnesau yn sir Ddinbych wedi derbyn dros £65.7 miliwn o gymorth grant. Fodd bynnag, nid yw hynny'n cynnwys cymorth pecynnau unigol y gronfa adferiad diwylliannol, sy'n cymharu'n dda iawn â'r rhai sydd ar gael dros y ffin, ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn falch o glywed hynny.
Ie, rwy'n gwerthfawrogi'r ymateb hwnnw, Weinidog. Mae nifer fawr o fusnesau yn fy etholaeth yn dibynnu ar y marchnadoedd twristiaeth a hamdden, fel y mae llawer ar draws llain arfordirol gogledd Cymru, ac mae'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn eithaf trychinebus, fel y gwyddoch. Nid yn unig y mae angen cymorth parhaus ar y busnesau hyn gyda phethau fel ardrethi busnes er mwyn helpu gyda cholledion mawr a gafwyd dros y cyfnod diweddar, ond mae angen sicrwydd arnynt hefyd mai dewis olaf un fydd cyfyngiadau yn y dyfodol. Felly, Weinidog, gyda hynny mewn golwg, pa drafodaethau a gawsoch gyda'ch cyd-Weinidogion Cabinet ynghylch sicrhau bod Dyffryn Clwyd a Chymru gyfan yn wir, yn gwbl agored i fusnes pan fydd y tymor twristiaeth yn dechrau mewn cwta wythnosau?
A dweud y gwir, ni chredaf fod y ffordd y dywedwch fod pethau wedi bod yn drychinebus ar dwristiaeth a hamdden yn y ddwy flynedd ddiwethaf yn cyd-fynd yn llwyr â realiti'r hyn sydd wedi digwydd. Mae rhai busnesau wedi dioddef yn fawr, ond mae amryw o rai eraill yn y sector twristiaeth wedi gwneud yn eithriadol o dda mewn gwirionedd, a hynny oherwydd bod llawer o bobl wedi mynd ar wyliau i rannau eraill o'r DU a threulio mwy o amser yn ymweld â hwy. Ac mewn gwirionedd, mae gogledd Cymru wedi gwneud yn arbennig o dda o ganlyniad i hynny. Rydym wedi gweld y pwysau ar amryw o gymunedau lleol o ganlyniad i lwyddiant eithriadol yr economi ymwelwyr yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae nifer o fusnesau'n dweud eu bod wedi cael blynyddoedd gwell o ganlyniad i hynny nag y byddent wedi'i ddisgwyl yn flaenorol. Ochr yn ochr â hynny, wrth gwrs, mae wedi bod yn llawer mwy heriol i fusnesau eraill, yn enwedig rhai sydd wedi cynnal digwyddiadau ac atyniadau i ymwelwyr, busnesau unigol. Felly, mae'r darlun yn fwy cymysg nag y mae'r Aelod yn ei gyflwyno.
Ac mewn gwirionedd, pan ddaw'n fater o gyflwyno mesurau diogelu iechyd y cyhoedd sy'n effeithio ar y ffordd y gall busnesau weithredu, nid dyma'r opsiwn cyntaf i'r Llywodraeth byth. A phe baech chi erioed wedi gorfod ysgwyddo'r cyfrifoldeb o ystyried yr effaith ar iechyd y cyhoedd—effaith gorfforol COVID, effaith COVID ar iechyd meddwl, a'r hyn y mae'n ei olygu i weithredu neu beidio â gweithredu—nid wyf yn credu y byddech mor ddidaro wrth ddisgrifio cyfyngiadau a mesurau diogelu fel rhywbeth y mae Gweinidogion am ei wneud oherwydd ein bod yn hoffi gwneud hynny. Dyna gywair cyffredinol llawer o sylwadau'r Ceidwadwyr. Mae bob amser yn ddull cytbwys o weithredu, i gydnabod y niwed a wneir i'r economi drwy gael mesurau diogelu iechyd y cyhoedd, a'r cydbwysedd o geisio diogelu iechyd a lles pobl, fel bod mwy o bobl yn gallu mynd i'r gwaith, mwy o bobl yn gallu gwario'r arian y maent wedi gweithio'n galed amdano mewn busnesau yma yng Nghymru. A chredaf fod ein dull cymesur yn un sy'n dwyn ffrwyth wrth inni ddod allan o'r cyfyngiadau a gyflwynwyd gennym mewn cyflwr gwell na rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, a Lloegr yn fwyaf amlwg.