Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 19 Ionawr 2022.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae 70 y cant o breswylwyr cartrefi gofal yn byw efo dementia, ac mae cyswllt cymdeithasol, yn enwedig efo teulu neu ofalwyr anffurfiol, yn bwysig iawn iddyn nhw o ran dal gafael ar eu sgiliau cognitive ac ati. Mi oedd mesurau diogelwch y cyfnod clo, wrth gwrs, yn allweddol o ran atal lledaeniad COVID, ond o ystyried tystiolaeth fel ymchwil y Gymdeithas Alzheimer's, sy'n awgrymu bod 82 y cant o bobl efo dementia wedi gweld eu cyflwr yn dirywio yn ystod y clo cyntaf a bod lleihad mewn cyswllt cymdeithasol wedi bod yn ffactor fawr yn hynny, a fyddai'r Gweinidog yn cyd-fynd ag egwyddor yr hyn mae John's Campaign yn galw amdano fo, sef bod yn rhaid canfod ffyrdd o warchod y cyswllt yna, hyd yn oed yn wyneb heriau COVID? Ac ydy'r newid yn y ddeddf i wneud hawliau ymweld yn hawl dynol sylfaenol i gleifion dementia, fel galwodd yr Aelod Seneddol Plaid Cymru Liz Saville Roberts amdano fo yn ddiweddar, yn rhywbeth y gallai'r Gweinidog ei gefnogi?