Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 19 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of James Evans James Evans Conservative 2:35, 19 Ionawr 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi, Ddirprwy Weinidog. Ac rwy'n derbyn nad problem yng Nghymru yn unig yw hi, mae'n broblem ledled y DU. Fe ddywedoch chi wrthyf fi a chyd-aelodau o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y byddwch yn cyflwyno cynllun cyflawni newydd ar gyfer 'Pwysau Iach: Cymru Iach' rhwng 2022 a 2024 ar 1 Mawrth, a disgwylir i hwnnw fod yn ymdrech drawsadrannol, gyda saith maes blaenoriaeth cenedlaethol. Byddai'n dda gennyf wybod, o gofio bod y cynllun cyflawni blaenorol wedi'i gyhoeddi lai na blwyddyn yn ôl, faint o gynnydd a wnaed ar yr wyth maes blaenoriaeth cenedlaethol yn y cynllun hwnnw. Ac a ydych yn credu bod y £6.6 miliwn yng nghyllideb 2022-24 ar gyfer 'Pwysau Iach: Cymru Iach' yn ddigon i gyflawni eich nodau yn y cynllun cyflawni newydd, gan ystyried y cynnydd yn nifer y bobl sydd dros eu pwysau?