Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 19 Ionawr 2022.
Diolch. Diolch am y cwestiwn hwnnw, James. Nid wyf wedi gweld yr astudiaeth y cyfeirioch chi ati, er fy mod wrth gwrs yn ymwybodol iawn o'r cysylltiad rhwng bod dros bwysau a'r cynnydd yn y risg o gael COVID difrifol. Ond rwy'n anghytuno'n llwyr â'ch awgrym mai dim ond strategaeth arall gan Lywodraeth Cymru yw ein strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach'. Rydym yn buddsoddi £6.6 miliwn bob blwyddyn yn y strategaeth hon, sydd ar fin cael ei hail-lansio a byddwn yn ystyried y ffaith bod y pandemig wedi gwaethygu'r problemau sy'n ein hwynebu gyda gordewdra. Bydd gennym amryw o fesurau ar waith i leihau lefelau gordewdra, sy'n broblem nid yn unig yng Nghymru, mae'n broblem ledled y DU.